Bydd ymchwil yn dangos sut y gall prifysgolion wella cyfleoedd bywyd ffoaduriaid yn eu hardaloedd
5 Mawrth, 2020
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/Zaina-Aljumma-2.png)
Bydd ymchwil newydd gan PDC yn dangos y rôl hanfodol y gall prifysgolion ei chwarae wrth integreiddio ymfudwyr yn eu hardaloedd.
Mae Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, a Dr Catherine Camps, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan i Wella Dysgu ac Addysgu, wedi derbyn grant gwerth £4k gan Advance HE i gynnal ymchwil gyda myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o gynllun Ysgoloriaeth Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches PDC.
Bydd yr ymchwil yn ceisio deall yn well sut y bu'r cynllun o fudd iddynt, sut y gellir gwella'r profiad a gynigir iddynt, ac, yn hollbwysig, sut y gellir trawsnewid eu lles drwy gyfleoedd i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau a chwrdd ag eraill.
"Mae prinder llenyddiaeth sy'n dangos y ffyrdd y gall gweithredu gan brifysgol wella lles a chyfleoedd bywyd pobl sydd wedi'u dadleoli, " meddai Dr Mike Chick.
"Credwn y bydd y prosiect hwn yn rhoi llais i'r bobl hynny y mae eu bywydau wedi cael eu newid drwy gael y cyfle i ennill y sgiliau, y cymwysterau a'r hyder y mae astudiaeth addysg uwch yn eu rhoi. Yn ogystal, bydd yn rhoi gwybod i ni am ffyrdd y gellid diwygio a gwella'r cynllun. "
Dr Mike Chick a Tarek Zou Alghena
Prifysgol De Cymru yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy'n cynnig addysg iaith cyn-sesiynol llawn amser fel rhan o'i chefnogaeth i bobl sydd wedi'u dadleoli.
Mae myfyrwyr sy'n ffoaduriaid sydd angen gwella eu gallu ieithyddol cyn dechrau'r astudiaeth academaidd yn cael cynnig llefydd am ddim ar raglen iaith cyn-sesiynol bresennol y Brifysgol.
Er bod y prosiect yn fenter gymharol newydd, mae nifer o ffoaduriaid eisoes wedi elwa'n uniongyrchol o'r cynllun.
Llwyddodd Tarek Zou Alghena i gwblhau'r cwrs sylfaen iaith 12 mis llawn amser a gynigir gan Fwrsariaeth Ffoaduriaid PDC. O ganlyniad, enillodd Tarek wobr dysgwr y flwyddyn ar gyfer Cymru gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn 2019 ac mae e bellach yn cwblhau blwyddyn gyntaf Gradd Beirianneg ym Mhrifysgol De Cymru.