Bydd ymchwil yn helpu i gryfhau teuluoedd yn India ar ôl y pandemig

7 Awst, 2020

Mother with daughter being examined by doctor

Bydd ymchwil newydd gan PDC yn dangos y cyfraniad hollbwysig y gall prifysgolion ei wneud wrth integreiddio mudwyr yn eu hardaloedd.

Prosiect ymchwil newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn helpu i gryfhau teuluoedd yn India ar ôl y pandemig.

Bydd 'cryfhau systemau iechyd i gefnogi gwydnwch teuluoedd yn India ar ôl y pandemig' yn cael ei arwain gan ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn PDC mewn cydweithrediad â Phrifysgol Manipal Jaipur, Sefydliad Gwyddorau Meddygol India-Gyfan yn Rishikesh, a CMC Vellore. Bydd yn dilyn model FRAIT Cymru, a luniodd dull unffurf o asesu gwydnwch teuluoedd a'r effaith ar iechyd a datblygiad plant.

Bellach wedi'i ymgorffori yn Rhaglen Plant Iach Cymru Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o gefnogi dewisiadau rhianta a ffordd o fyw iach, mae FRAIT Cymru yn cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr iechyd ledled Cymru i gefnogi eu penderfyniadau a chynllunio gofal o amgylch a oes angen ymyrraeth bellach. 

Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace, prif ymchwilydd y prosiect: "Nid oes offeryn safonol i nyrsys cymunedol yn India asesu gwydnwch mewn teuluoedd â phlant o dan chwech oed, felly bydd y prosiect hwn yn helpu i ganfod pa gymorth sydd ei angen ar deuluoedd er mwyn cryfhau eu gallu i fownsio yn ôl o argyfwng.

"Mae 158 miliwn o blant yn India dan chwech oed y gallai'r ymchwil hwn effeithio'n gadarnhaol ar eu bywydau. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein canfyddiadau a'n harbenigedd, a gweld sut y gall cydweithwyr yn India ei ddefnyddio er budd teuluoedd â phlant ifanc."

Nod y prosiect yw creu cyhoeddiad wedi'i adolygu gan gymheiriaid o gysyniad gwydnwch i deuluoedd yn India, adroddiad a chynllun ar gyfer rhagor o gynhyrchion FRAIT mwy hirdymor ar gyfer India.