Cefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar - rhwydwaith newydd

2 Chwefror, 2022

Top view of group of students sitting together at table

Mae PDC yn creu rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar, gan eu helpu i lwyddo yn eu dewis faes drwy eu galluogi i fanteisio ar arbenigedd, cyngor a chymorth.

Dywedodd Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu PDC: “A ninnau wedi llofnodi’r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd sy’n cefnogi’r gymuned ymchwil i gyflawni hyd eithaf ei gallu. Rydyn ni am ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi ein hymchwilwyr i ddatblygu i’w llawn botensial a gobeithiwn y bydd y fenter hon yn ddatblygiad defnyddiol i gydweithwyr sydd yng nghamau cynnar yn eu gyrfaoedd ymchwil.”  

Mae’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar gyfer yr holl staff sy’n weddol newydd i ymchwil ac sydd am i ymchwil fod yn rhan o’u gyrfaoedd academaidd. Gallwch fod ar unrhyw gam yn eich gyrfa, o unrhyw oedran, ac yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth. 

Gall ymchwil deimlo fel gwaith unig iawn. Bydd ymchwilwyr yn aml:

  • Yn cyrraedd y maes ymchwil ar ôl dilyn llwybr gyrfa nad yw’n draddodiadol  
  • Yn teimlo’u bod nhw’n ynysig pan fyddan nhw yn un o ychydig ymchwilwyr yn eu hadrannau  
  • Yn teimlo bod angen iddyn nhw frwydro am amser ymchwil  
  • Yn gadael weithiau am sefydliadau eraill er mwyn datblygu’u gyrfaoedd ymchwil  
  • Heb lwybr amlwg i wneud cynnydd yn eu gyrfa  
  • Yn methu’n hawdd â gweld ‘rhywun tebyg iddyn nhw’, i ddangos sut i lwyddo yn y maes ymchwil

Rydyn ni’n gwybod bod grym cymuned yn gallu helpu i oresgyn yr heriau hyn, felly rydyn ni’n ceisio’i gwneud hi’n haws i staff sy’n weithgar yn y maes ymchwil i ddod at ei gilydd, a hynny o gefndiroedd niferus ac amrywiol. Y nod yw creu rhwydwaith cymheiriaid lle gallwch chi rannu profiadau a chefnogi’ch gilydd i lwyddo – beth bynnag fo’ch uchelgeisiau ymchwil.  

Byddwn ni’n dod at ein gilydd ar gyfer tri digwyddiad a fydd yn mynd â ni drwy’r broses o gwmpasu, creu a lansio rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer staff sy’n weithgar yn y maes ymchwil. Cydlynir y rhwydwaith gan staff sy’n weithgar yn y maes ymchwil ac sy’n gwirfoddoli. Bydd y gwirfoddolwyr yn cael cymorth hyfforddi. 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau ac i gadw lle, llenwch y ffurflen hon.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost aton ni i [email protected]