Datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr gyda choncordat cenedlaethol 

3 Tachwedd, 2021

three members of the celt team having an informal meeting in stilts

Mae Prifysgol De Cymru wedi llofnodi Concordat Vitae i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, gan ddangos ei ymrwymiad i hybu uchelgeisiau gyrfa cydweithwyr academaidd.

Mae’r cytundeb, sef y Concordat Datblygu Ymchwilwyr ar lafar gwlad, yn ceisio gwella’r cyfleoedd gwaith a’r gefnogaeth sydd ar gael i ymchwilwyr mewn addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.  

Mae’n cyflwyno tair egwyddor glir ynghylch yr amgylchedd a diwylliant; cyflogaeth; a datblygu proffesiynol a datblygu gyrfa. Yn sail i’r egwyddorion, ceir ymrwymiadau i’r pedwar prif grŵp o randdeiliaid: cyllidwyr, sefydliadau, ymchwilwyr a rheolwyr ymchwilwyr, er mwyn gwireddu amcanion y Concordat.  

Mae’r Concordat wedi’i greu er budd yr holl gymuned ymchwil yn y Deyrnas Unedig, er mwyn gwella’r amgylchedd a’r diwylliant yn y byd ymchwil.  

Bydd o fudd i’r rheini sy’n gwneud ac yn rheoli gwaith ymchwil, a bydd hefyd yn gwella ansawdd y gwaith ymchwil ei hun.  

Fel un o’r sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Concordat, mae PDC yn dangos ei fod wedi ymrwymo i helpu ymchwilwyr i ddatblygu’n broffesiynol ac i ddatblygu’u gyrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd iach a chefnogol ac mewn ffordd sy’n cael ei chydnabod gan gyllidwyr amlwg, canolfannau ymchwil eraill o bwys, a sefydliadau.  

Meddai’r Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) yn PDC: “Yn PDC rydyn ni’n falch o ddilyn y Concordat a’i egwyddorion pwysig wrth helpu i ddatblygu gyrfaoedd ymchwil.  

“Mae’r Concordat yn ein galluogi i ganolbwyntio ymhellach ar ddatblygu gyrfaoedd ein hymchwilwyr a rhoi cymorth parhaus iddyn nhw, gan ddatblygu’r cyfleoedd gorau a fydd yn helpu ein hymchwilwyr i ffynnu yn nhirlun academaidd heriol heddiw. Drwy ddod yn rhan o’r Concordat, fe allwn ni barhau i wneud gwahaniaeth gyda’n gwaith ymchwil, a newid bywydau a’r byd er gwell.”  

Darllenwch y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr