Dathlu cyfraniad ein hymchwil at gymdeithas a’r economi
15 Tachwedd, 2019
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2019/11-november/news-image-celebrating-awards.jpg)
CEFNDIR Y GWOBRAU: Dathlwyd gwaith academyddion ledled y Brifysgol yn nhrydedd Gwobrau Effaith blynyddol PDC neithiwr
Mae’r gwobrau’n dathlu ac yn dangos yr effaith y mae ein gwaith ymchwil ac ymgysylltu yn ei chael y tu hwnt i’r Brifysgol, ynghyd â’r amrywiaeth eang o fuddion economaidd a chymdeithasol sy’n dod yn sgil y gwaith hwnnw.
Wrth i’r gwobrau blynyddol gael eu cynnal am y trydydd tro, croesawodd yr Athro Paul Harrison dros 120 o westeion, gan gynnwys enwebeion ar y rhestr fer a’r partneriaid oedd wedi cydweithio â nhw.
Cyflwynwyd gwobrau mewn chwe chategori, gyda chategori newydd hefyd wedi'i ychwanegu ar gyfer yr Effaith Orau gan Fyfyriwr Ymchwil.
ENILLWYR 2019
Yr effaith gymdeithasol orau, wedi’i noddi gan Chwarae Teg
Mae sgiliau iaith yn achubiaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Gweithiodd yr athro TESOl Dr Mike Chick gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru i roi gwersi Saesneg i fudwyr dan orfod.
“Dros y pedair blynedd ddiwethaf rydyn ni wedi helpu cynifer o geiswyr lloches yn ystod eu hwythnosau cyntaf yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, a bellach yn ysu i gyfrannu at gymdeithas sy’n eu gwarchod nhw rhag niwed,” meddai Dr Chick.
“Alla’ i ddim pwysleisio ddigon sut y mae gweithio gyda phobl broffesiynol oddi ar y campws, sef y trydydd sector yn yr achos hwn, wedi cael effaith aruthrol, gan wneud i mi sylweddoli bod prifysgolion mewn sefyllfa unigryw, hynod o bwysig, i gyfrannu at gymdeithas mewn cynifer o ffyrdd amrywiol.”
Yr effaith orau ar yr economi, wedi'i noddi gan Capital Law
Mae’r Athro Sandra Esteves o’r Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) wedi datblygu biodechnoleg arloesol sy’n defnyddio gwastraff carbon deuocsid (CO2) diwydiannol i greu cynhyrchion gan gynnwys nwy methan ‘gwyrdd’.
Byddai dal a defnyddio dim ond 10% o’r CO2 a gynhyrchir gan y sectorau ynni a diwydiannol yn y Deyrnas Unedig yn unig yn cynhyrchu nwy methan gwerth dros £1BN y flwyddyn.
“A ninnau’n ymchwilwyr, mae gwneud darganfyddiadau gwyddonol a chyfrannu at ddatblygu prosesau newydd ar lefel technoleg sy’n barod i gael ei defnyddio yn rhoi boddhad mawr,” meddai’r Athro Esteves.
“Ond yr elfen fwyaf braf yw sylweddoli bod gan ddiwydiant a rhanddeiliaid eraill diddordeb yn y gwaith, eu bod yn cydnabod y potensial, a’u bod yn barod i barhau i ymwneud â ni er mwyn datblygu ac ardddangos y dechnoleg ymhellach.”
Yr effaith orau ar ddiwylliant, treftadaeth a'r celfyddydau, wedi'i noddi gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Dyfarnwyd y wobr i Dr Emily Underwood-Lee o Ganolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans, am y prosiect Deugain Llais Deugain Mlynedd gyda Cymorth i Fenywod Cymru.
Mae’r straeon digidol grymus a oedd yn rhan o’r prosiect wedi gweddnewid polisïau a gwasanaethau i ddioddefwyr trais domestig yng Nghymru, ynghyd â rhoi sail i hyfforddiant i heddweision.
Meddai Dr Underwood-Lee: “Rwy’n falch o gyfrannu at brosiect sy’n galluogi straeon menywod i gael eu clywed ar y llwyfan cenedlaethol ar y lefel uchaf yn y Llywodraeth.
“Bydd y wobr hon yn ein galluogi i hybu’r straeon hyn a sicrhau eu bod yn cael eu clywed mewn mannau lle gellir eu defnyddio i addysgu a rhoi gwybodaeth a gwneud gwir newid i fywydau menywod a phlant yng Nghymru a’r tu hwnt.”
Yr Effaith Amgylcheddol Orau, wedi'i noddi gan Celsa Steel UK
RUMM Ltd, cwmni a ddeilliodd o’r Brifysgol, a ddaeth i’r brig yn y categori hwn. Mae’r cwmni wedi sefydlu gwasanaeth rheoli ynni sy’n galluogi ei gleientiaid i leihau eu defnydd o ynni, a hynny’n cyfateb i ostyngiad o 300,000 tunnell mewn allyriadau carbon ac arbedion o £43 miliwn o bunnoedd mewn costau ynni. Prynwyd y cwmni gan RWE npower Ltd ym mis Ebrill 2015.
Yr effaith orau ar y dyfodol, wedi'i noddi gan Thermal Compaction Group
Gweithiodd yr Athro Gary Higgs a’r myfyriwr PhD Richard Williams o’r Ganolfan Ymchwil Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol gyda Tenovus Cancer Care i leoli a darparu gwasanaethau eu hunedau canser symudol yn y ffordd orau bosibl.
“Prin yw’r rhai yn ein plith nad yw effeithiau canser wedi eu cyffwrdd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Gan hynny, mae’r gwaith ymchwil hwn wedi rhoi boddhad arbennig, ac ystyried bod angen cwtogi’r pellter y mae pobl yn ei deithio i gael triniaeth a chyngor,” meddai’r Athro Higgs.
“Mae’r manteision i gleifion ar adeg hynod o anodd yn amlwg – mwy o leoliadau cyfleus a hygyrch i gael triniaeth, a manteision amgylcheddol gan fod pobl yn teithio llai o filltiroedd.
Yr effaith orau gan fyfyriwr ymchwil, wedi'i noddi gan Ysgol Raddedigion PDC
Rhoddwyd y wobr hon ar y cyd i Wendy Booth am ei gwaith i hyrwyddo empathi ethno-ddiwylliannol a goddefgarwch hiliol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, a Tom Owens am ei waith i ddeall y cysylltiad rhwng cyfergydion a dementia.
Meddai Tom: “Roedd hi’n fraint cael gweithio gyda chwaraewyr rygbi presennol a rhai sydd wedi ymddeol o dimau Gleision Caerdydd a Chymdeithas Cyn-chwaraewyr Pen-y-bont ar Ogwr (BFPA).
“Mae eu hymrwymiad i’r astudiaeth yn dangos bod cyfergydion wedi dod yn bryder gwirioneddol wrth ddatblygu clefydau niwro-ddirywiol nad oes modd eu gwrthdroi.”
Meddai Wendy: “Fe weithiais i’n galed i ehangu fy ymchwil y tu hwnt i gwmpas fy PhD, ac mae’n braf iawn bod hynny wedi’i werthfawrogi. Dyma ffordd wych i orffen fy siwrnai PhD."
Ychwanegodd yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-Ganghellor Arloesedd: “Mae ehangder a dyfnder y prosiectau hyn yn dyst i statws Prifysgol De Cymru fel prifysgol sydd â ffocws proffesiynol ac sy’n ymwneud â byd busnes. Rydyn ni’n deall pwysigrwydd cyfnewid gwybodaeth: troi ymchwil yn fudd i fusnesau a diwydiannau lleol i’w helpu i greu cynnyrch a darparu gwasanaethau newydd. Drwy hyn, rydyn ni’n cefnogi twf economaidd yn y de, yn y Deyrnas Unedig, a’r tu hwnt.”