grant gwerth £80k i wella mynediad at ddogfennau cadwraeth mewn sefydliadau fel orielau, llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd

20 Gorffennaf, 2020

The University's Alfred Russell Wallace building set behind foliage.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) ymysg nifer o bartneriaid academaidd a diwydiannol yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau sydd wedi cael cyfanswm o £80K mewn arian grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, fel rhan o waith Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

Bydd y grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn cefnogi ail gam y prosiect Data Cadwraeth Cysylltiedig (LCD), a fydd yn edrych ar wella mynediad at ddogfennau cadwraeth mewn sefydliadau fel orielau, llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd.  

Dywedodd Ceri Binding, o Grŵp Ymchwil Hypergyfryngau PDC: “Mae cadwraethwyr yn y sefydliadau hyn yn ymchwilio i gyflwr gwrthrychau wedi eu curadu, gan eu trin a'u diogelu. Cyfunir yr arsylwadau a gofnodir, ynghyd â thystiolaeth a chasgliadau am hanes pob gwrthrych, ag adnoddau eraill fel testunau hanesyddol.   

“Un o'r problemau yw bod setiau data o wahanol ffynonellau yn anochel yn defnyddio gwahanol eiriau i ddisgrifio’r un pethau, sy’n rhwystro croes-chwilio effeithiol. Bydd ein hymchwil yn ceisio defnyddio geirfaoedd cyffredin, a’r rheini wedi’u rheoli, i ddatrys problemau fel hyn.”  

Nid yn unig y bydd y prosiectau’n gwneud cyfraniad hanfodol at waith cadwraeth, maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer ymchwil a dehongli, yn enwedig pan fydd y dystiolaeth faterol yn gwrthddweud yr hanes.  

“Bydd y prosiect hwn yn helpu i wella a chysoni arferion rhyngwladol wrth ddogfennu gwaith cadwraeth ac yn ehangu mynediad at y dogfennau drwy gyhoeddi ar-lein,” ychwanegodd Mr Binding.  

“Bydd hyn o fudd sylweddol i ymchwilwyr hanesyddol, gweithwyr treftadaeth proffesiynol, ac yn y pen draw, y cyhoedd a chenedlaethau’r dyfodol, drwy greu gwell cyd-ddealltwriaeth o hanes gwrthrychau sy’n cael eu curadu a'u cadw.”

 

Yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae Grŵp Ymchwil Hypergyfryngau PDC wedi cynnal cyfres o brosiectau sydd â chysylltiad thematig yn y maes treftadaeth ddiwylliannol, a’r rheini’n ymwneud â defnyddio geirfaoedd sydd wedi’i rheoli.Mae rhagor o wybodaeth am waith y grŵp fan hyn