Gwaith ymchwil wedi’i ariannu gan Marie Curie i lywio trafodaethau rhyngwladol am fudwyr sy’n dychwelyd a seiberdroseddu
30 Mawrth, 2020
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2020/03-march/Christian_Kaunert_41989.width-1000.format-jpeg.jpg)
Mae Christian Kaunert, Athro Polisi a Diogelwch yn PDC, wedi cael dwy gymrodoriaeth nodedig gan raglen H2020 Marie Sklodowska Curie i wneud gwaith ymchwil newydd i fudo a seiberdroseddu.
Bydd cyllid gwerth tua €224k ar gyfer pob prosiect yn cael ei roi i PDC i gynnal dau ymchwilydd profiadol o Ewrop am ddwy flynedd.
Bydd yr ymchwil yn gymorth i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd
Bydd Dr Eyene Okpanachi yn ymchwilio i heriau mudwyr sy’n dychwelyd yn Affrica mewn oes llawn argyfyngau cymhleth. Bydd hi’n cymharu systemau llywodraethu aml-lefel yn Ethiopia a Nigeria.
Bydd Dr Ethem Ilbiz yn edrych ar frwydr Europol yn erbyn seiberdroseddu yng nghyd-destun Ubereiddio. Mae’i waith ymchwil yn gobeithio datgelu’r ddynameg sy’n sail i’r rhyngweithio rhwng Europol (asiantaeth gorfodi’r gyfraith yr Undeb Ewropeaidd), asiantaethau gorfodi’r gyfraith cenedlaethol, ac actorion preifat.
“Mae gan yr ymchwil berthnasedd ymarferol amlwg i swyddogion yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio i weinyddiaethau cenedlaethol a llysgenadaethau ym Mrwsel,” meddai’r Athro Kaunert.
Aeth yn ei flaen: “Ac ystyried diddordeb parhaus llywodraethau mewn datblygu’r maes hwn, bydd y ddau brosiect yn cael effaith o bwys ar drafodaethau mewn llywodraeth ac yn y byd academaidd ill dau.”
Ymuno ag arbenigwyr byd-eang wrth ymchwilio i faes yr heddlu a diogelwch
Yn ystod eu cymrodoriaethau, bydd y ddau academydd yn gysylltiedig â’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch ym Mhrifysgol De Cymru. Dyma ganolfan ac iddi enw da dros ben, a’r un hynaf yn y Deyrnas Unedig ym maes plismona a diogelwch. Bydd yr Athro Kaunert yn mentora’r ddau academydd.
Yr Athro Kaunert yw un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ar gydweithio Ewropeaidd ym maes plismona a chyfiawnder troseddol, ac mae’n fawr ei barch ymhlith sefydliadau ac asiantaethau Ewropeaidd, ac Europol yn enwedig.
Gwobr nodedig
Mae Cymrodoriaethau Marie Curie, sy’n rhan o raglen cyllid ymchwil fawreddog H2020 yr Undeb Ewropeaidd, yn hynod o gystadleuol. Dim ond tua 10% o’r ceisiadau sy’n llwyddiannus.
Maen nhw’n galluogi academyddion i wneud gwaith ymchwil datblygedig yn sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw Ewrop.
Mae’r wobr yn amlygu statws Prifysgol De Cymru fel prifysgol sydd ar flaen y gad yn fyd-eang mewn ymchwil ym maes plismona a diogelwch.