Hanesydd yn cael nawdd gan gyngor ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau i ymchwilio i imperialaeth niwclear yn yr ymerodraeth brydeinig 

13 Mehefin, 2020

A black and white illustration that shows a nuclear explosion and reads ''positive action'' ''no nuclear imperialism''

Mae’r hanesydd Chris Hill wedi cael ei benodi yn Gymrawd Arweinyddiaeth Gyrfa Gynnar gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i astudio rhaglen niwclear Prydain a chysylltiadau honno â diwedd yr ymerodraeth.

Mae Dr Hill – sy’n arbenigwr ar hanes modern a hanes ymerodrol diweddar Prydain – wedi cael mwy na £220,000 ar gyfer ei brosiect, Yr Imperialaeth Niwclear Newydd: Gwyddoniaeth, Diplomyddiaeth a Grym yn yr Ymerodraeth Brydeinig.  

Bydd Chris yn edrych ar sut yr oedd rhaglen niwclear Prydain, a darddodd o’r Ail Ryfel byd, wedi’i strwythuro ar sail gwerthoedd ymerodrol yn gysylltiedig â diplomyddiaeth, hil a’r amgylchedd.  

Meddai: “Yn aml, nid yw arwyddocâd imperialaeth yn natblygiad hanesyddol rhaglen niwclear Prydain – ac yn wir yn natblygiad y gyfundrefn niwclear yn ehangach – wedi cael sylw digonol yn y llenyddiaeth draddodiadol.  

“Ar y cyd â’r gymuned niwclear, rwy’n dymuno dangos sut y gall hanesion sy’n gysylltiedig ag imperialaeth niwclear gyfrannu at drafodaethau am effeithiau dyngarol arfau niwclear heddiw. Wrth i ymgyrchwyr a gwleidyddion yn fyd-eang ymgyrchu dros Gytuniad i Wahardd Arfau Niwclear, mae potensial gan y gwaith ymchwil hwn i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon.”   

Fel rhan o’r prosiect, bydd Chris yn teithio i Fiji, Ghana a Namibia i wneud gwaith ymchwil archifol ac i gyfweld ag unigolion sy’n rhan o’r gymuned niwclear. Mae gan bob un o’r gwledydd hyn hanes niwclear sydd wedi’i wreiddio mewn imperialaeth Brydeinig. Bydd Chris hefyd yn mynd i Ffrainc i ddatblygu safbwynt cymharol am hanes imperialaeth niwclear.  

Y bwriad yw y bydd effaith ei ymchwil yn gysylltiedig â thair cymuned. Mae gan bob un ran wahanol a hollbwysig yn asgwrn cefn y prosiect: sef y berthynas rhwng hanes niwclear ac effeithiau dyngarol arfau niwclear. Mae’r cymunedau’n cynnwys ymgyrchwyr dros y cytuniad gwahardd, cyn-filwyr niwclear o’r Gymanwlad, a dinasyddion o ranbarthau pellennig lle ceir mwyngloddiau wraniwm a safleoedd profi.  

Ychwanegodd Chris: “Rwy’n bwriadu creu platfform mynediad agored ar gyfer y prosiect, a bydd modd i gymunedau niwclear gyfrannu’n uniongyrchol at hwnnw. Byddaf hefyd yn trefnu cyfres o weithdai lle gall y cymunedau hyn rannu arferion a sgiliau ymchwil. Bydd y gyfrol olygiedig a ddaw o’r camau hyn yn cyfrannu at y trafodaethau presennol am effeithiau dyngarol arfau niwclear.  

“Mae cael y grant hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn gyfle mor brin. Bydd y prosiect yn fy ngalluogi i wella ansawdd ac effaith fy ymchwil yn arw. Rwyf ar bigau’r drain i ddechrau arni!”