Llongyfarchiadau i’n cydweithwyr academaidd sydd newydd gael dyrchafiad
14 Mehefin, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/06-june/Dr_ali_roula_Dr_Ray_higginson.width-1000.format-jpeg.jpg)
Llongyfarchiadau gwresog i Ali Roula (Y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth) a Ray Higginson (Y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg) sydd wedi dod yn Athro ac yn Athro Cysylltiol, yn y drefn honno, yn dilyn penodiadau diweddaraf y Gwobrau Academaidd Uwch.
Yr Athro Ali Roula
Mae Ali Roula wedi’i benodi’n Athro Peirianneg Fiofeddygol i gydnabod ei waith i gymhwyso technegau datrys problemau cyfrifiadura a pheirianneg er mwyn hybu iechyd pobl a gofal iechyd.
Yr Athro Roula yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Peirianneg Cynnyrch Electronig (CEPE), y Rheolwr Pwnc Academaidd ar gyfer Peirianneg Drydanol ac Electronig, a’r Hyrwyddwr Arloesedd yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth.
Ymunodd Ali â PDC (Prifysgol Morgannwg ar y pryd) yn 2003 fel darlithydd mewn electroneg, ar ôl cwblhau gradd mewn Peirianneg Drydanol ac yna PhD mewn Cyfrifiadureg a oedd yn ymchwilio i'r defnydd o ddelweddu meddygol i wella diagnosis o ganser. Mae'r cefndir deuol hwn wedi tanio angerdd gydol oes dros ymchwil ac arloesi mewn peirianneg fiofeddygol.
Yn 2012 daeth yr Athro Roula yn Gyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Electroneg Feddygol a Phrosesu Signalau, sef y Ganolfan Peirianneg Cynnyrch Electronig erbyn hyn, lle bu’n arwain amryw o brosiectau. Yn eu plith roedd prosiect a edrychai ar ryngwyneb cyfrifiadur yr ymennydd a mesuriadau biomas a phrosiect i ganfod achosion o strôc drwy ddulliau tomograffig electromagnetig.
Yn fwy diweddar, gweithiodd Ali â chydweithwyr Bioleg i ddatblygu'r prawf pwynt gofal cyflym ar gyfer heintiau feirysol a bacterol. Mae prif ffocws yr Athro Roula ar ddatblygu algorithmau i wella cywirdeb diagnosteg.
“Un o’r cymhellion pennaf yw lleihau ymwrthedd i wrthfiotigau,” meddai. “Mae gan y dechnoleg hon y potensial i wneud diagnosteg moleciwlaidd yn broses gyflym, hygyrch, a fforddiadwy mewn amrywiaeth eang o leoliadau cost isel, gan ei gwneud yn addas ar gyfer canfod ystod o bathogenau feirysol a bacterol.”
Mae'r Athro Roula bellach yn gweithio gyda diwydiant i fasnacheiddio'r dechnoleg hon.
Dr Ray Higginson
Mae Dr Ray Higginson wedi'i benodi'n Athro Cysylltiol mewn Gwyddorau Bywyd Cymhwysol i Ymarfer Clinigol. Mae’r wobr yn cydnabod ei waith yn defnyddio addysg ac ymchwil i lywio ymarfer clinigol a gwella ymarfer proffesiynol mewn nyrsio.
Ymunodd Dr Higginson â'r Brifysgol yn 2003 ar ôl gyrfa fel nyrs, ac yn ddiweddarach fel athro bioleg.
Ar ôl gadael yr ysgol, cofrestrodd yn y London School of Music i hyfforddi fel tiwniwr piano. Meddai: “Treuliais y rhan fwyaf o’m hamser yn chwarae alawon jazz, heb ddysgu fyth mewn gwirionedd sut i diwnio piano. Felly gadewais, gan symud i Efrog Newydd lle bûm yn y pen draw yn gweini byrddau am flwyddyn.
“Ar ôl dod yn ôl i’r Deyrnas Unedig, penderfynais fod angen i mi wneud rhywbeth a fyddai’n rhoi mwy o sicrwydd a strwythur i mi. Astudiais i fod yn nyrs, ac ar ôl cymhwyso, gweithiais mewn gofal dwys yn Seland Newydd ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.”
Yn ddiweddarach ailhyfforddodd Dr Higginson fel athro bioleg a biolegydd siartredig, cyn treulio 10 mlynedd yn astudio ar gyfer Gradd Meistr drwy Ymchwil, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Bioleg Foleciwlaidd, a PhD mewn Adsefydlu Cardiaidd.
Ac yntau’n Uwch-ddarlithydd mewn Nyrsio a Ffisioleg Gofal Critigol, mae Dr Higginson yn addysgu Ffisioleg a dulliau ymchwil i fyfyrwyr nyrsio cyn cofrestru ac ar ôl cofrestru, ac mae’n ymwneud â phrosiectau ymchwil amrywiol.
“Ar hyn o bryd rwy’n cwblhau cyfres o bapurau ar bandemig COVID-19 ac yn cymryd rhan mewn prosiect cyfrifo dosau cyffuriau gyda sefydliad allanol o’r enw safeMedicate, sy’n helpu i ddatblygu ac edrych ar wahanol ffyrdd o asesu pa mor gymwys yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weinyddu cyffuriau,” dywedodd.
“Nawr fy mod wedi cael statws Athro Cysylltiol, rwyf yn y broses o ysgrifennu ceisiadau grant amrywiol i edrych ar amrywiaeth o bynciau, yn amrywio o ganfod symptomau cardiaidd (dilyniant o’r PhD) i fesuriadau ffisiolegol yn ystod pandemig y coronafeirws.”
Dywedodd Dr Ben Calvert, yr Is-Ganghellor: “Mae dod yn Athro Cysylltiol ac Athro yn gamp aruthrol ac yn dangos ymdrech sylweddol a pharhaus sy'n bodloni’r safonau gofynnol yn nhyb adolygwyr arbenigol annibynnol. Mae'n bleser mawr darllen y ceisiadau sy’n dod i law’r Pwyllgor i’w hadolygu – mae amrywiaeth y gwaith a’r effaith y mae’r unigolion hyn yn ei chael yn PDC a’r tu allan i’r brifysgol yn drawiadol. Llongyfarchiadau i bob un o’n Hathrawon Cysylltiol a’n Hathrawon newydd.”