O her, daw newid
8 Mawrth, 2022
Mae Rhaglen Datblygu Menywod hynod lwyddiannus PDC yn ôl – gyda rhaglen newydd o sesiynau rhithwir wedi'u hanelu at fenywod sy’n gweithio o fewn y byd academaidd a gwasanaethau cymorth proffesiynol.
Hyd yn hyn mae bron i 100 o fenywod wedi cwblhau’r rhaglen, ac wedi creu rhwydwaith cryf o gyn-fyfyrwyr, lle gall menywod gydweithio a chael gafael ar adnoddau drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn meithrin dull mwy cydweithredol o oresgyn yr heriau sy’n wynebu menywod sy'n gweithio yn y byd academaidd, ac yn hwyluso croesffrwythloni dulliau datrys problemau ac arferion gorau drwy’r sefydliad cyfan i arfogi mwy o fenywod i ddod yn arweinwyr yn eu maes.
Yn ystod y rhaglen, bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn datblygu sgiliau arwain ymarferol, yn cryfhau eu sgiliau personol, ac yn creu cyfleoedd i rwydweithio gyda grŵp o gyn-fyfyrwyr y Rhaglen Datblygu Menywod ar ôl i’r rhaglen ffurfiol ddod i ben.
Bydd amryw o weithdai datblygu sgiliau ar gael, yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau hyfforddi, gwydnwch a chyfleoedd rhwydweithio, yn ogystal â mewnbwn gan siaradwyr gwadd o fyd busnes, y byd academaidd a gwleidyddiaeth.
Y nod cyffredinol yw codi ymwybyddiaeth o’r heriau sy'n wynebu menywod yn y byd academaidd a chyflwyno ymyriadau i helpu i oresgyn yr heriau hynny.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalennau i staff (Cysylltu).