PDC yn cadw Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil

5 Gorffennaf, 2023

The University's Ty Crawshays building at Treforest, Pontypridd.

Mae PDC wedi llwyddo i gadw Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil yn dilyn ein hadolygiad wyth mlynedd.

Rhoddir y dyfarniad gan y Comisiwn Ewropeaidd a'i oruchwylio gan Vitae. Mae'n cydnabod ein hymrwymiad i gefnogi datblygiad personol, proffesiynol a gyrfa ein hymchwilwyr.

Ar ôl ennill y wobr yn wreiddiol yn 2014 roedd yn ofynnol i ni ddangos ein bod wedi cynnal dadansoddiad mewnol yn cymharu arferion sefydliadol yn erbyn egwyddorion y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr (a elwir hefyd yn Goncordat Ymchwilwyr).

Cynhaliwyd y dadansoddiad gan Grŵp Gweithredu Strategol y Concordat Ymchwilwyr, a gadeiriwyd gan yr Athro Martin Steggall (Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi), a weithiodd i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Concordat Ymchwil a’i rwymedigaethau.

Y tair egwyddor sy’n diffinio’r Concordat yw:

Yr Amgylchedd a Diwylliant: Mae ymchwil ragorol yn gofyn am ddiwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol; ym mis Mawrth 2022 lansiwyd Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar PDC. Mae'r rhwydwaith cymheiriaid hwn yn galluogi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i rannu profiadau a darparu cefnogaeth i'w gilydd i lwyddo, beth bynnag fo'u huchelgeisiau ymchwil. Daeth y Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Leiafrifoedd Ethnig, a arweiniwyd gan Dr Edward Oloidi a Dr Juping Yu, yn is-grŵp ffurfiol o’r Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, ac mae’n cefnogi ymgysylltu ag ymchwil ac atebion posibl sydd wedi’u cyd-gynllunio/cydgynhyrchu gyda phob cymuned lleiafrifoedd ethnig.

Datblygiad Proffesiynol a Gyrfa: Mae datblygiad proffesiynol a gyrfa yn hanfodol i alluogi ymchwilwyr i ddatblygu eu potensial llawn. Ym mis Tachwedd 2021, cyflwynwyd y Rhaglen Datblygu Ymchwil ac Arloesi i’r holl staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai, digwyddiadau, pecynnau cymorth, ac adnoddau ar-lein i gefnogi datblygiad gyrfa personol a phroffesiynol.

Cyflogaeth: Mae ymchwilwyr yn cael eu recriwtio, eu cyflogi a'u rheoli dan amodau sy'n cydnabod eu gwerth a'u pwysigrwydd. Ym mis Mai 2023, lansiwyd y Cynllun Mentora Ymchwilwyr, sydd ar gael i holl ymchwilwyr PDC waeth beth fo’u cam gyrfa academaidd. Mae’r platfform ar-lein yn sicrhau bod y cynllun yn hyblyg ac yn gallu cyd-fynd ag ymrwymiadau amser eraill, ac mae’n caniatáu i gyfranogwyr benderfynu ar amlder cyfarfodydd a hyd pob perthynas fentora a gynhaliwyd.

Dywedodd yr Athro Steggall: “Rwyf wrth fy modd bod PDC wedi cadw’r Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil, ac mae fy niolch i’r timau dawnus a helpodd i gyflawni’r llwyddiant hwn. Ein cenhadaeth yw darparu amgylchedd cefnogol sy’n grymuso ein staff ymchwil i gymryd rhan yn eu datblygiad gyrfa eu hunain, a thrwy gadw’r wobr, cydnabuwyd ein hymrwymiad i wella’r amgylchedd ymchwil yn PDC.”

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we ar gyfer Y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr.