PDC yn ennill dyfarniad Efydd Athena SWAN am ymrwymiad at gydraddoldeb rhyw

3 Ebrill, 2020

Two women in engineering smiling at the camera

Mae Prifysgol De Cymru wedi cael cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol drwy ennill gwobr Efydd Athena SWAN.

Siarter Rhywedd Advance HE yw Athena SWAN, ac mae’n cydnabod y camau gweithredu y mae Sefydliadau Addysg Uwch yn eu rhoi ar waith sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol. Mae Advance HE yn sefydliad sydd â chyfrifoldeb dros helpu sefydliadau addysg uwch i lywio dyfodol y sector. 

Am y wobr

Cafodd y siarter ei chreu yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad at ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn swyddi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) yn y sectorau addysg uwch ac ymchwil.  

Yn 2015 cafodd y siarter ei hehangu i gydnabod gwaith sy’n cael ei wneud yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith, mewn swyddi cymorth a phroffesiynol, ac ar gyfer staff a myfyrwyr trawsryweddol. Mae’r siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhywiol yn fwy cyffredinol, yn hytrach na dim ond edrych ar y rhwystrau sy’n effeithio ar gynnydd menywod.   

Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd tîm hunanasesu yn dadansoddi gwybodaeth feintiol ac ansoddol yn drylwyr i ganfod materion allweddol sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol, ynghyd â chreu cynllun gweithredu pedair mlynedd i fynd i’r afael â nhw. 

Sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed

Mae PDC wedi penodi aelod o staff o bob Cyfadran i fod yn Hyrwyddwyr Athena SWAN ar ei rhan. Yr hyrwyddwyr hyn sy’n ffurfio tîm hunanasesu PDC, o dan gadeiryddiaeth Dr Louise Bright, y Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes.  

Dywedodd Dr Bright: “Rydyn ni wrth ein boddau bod ein gwaith ar gydraddoldeb rhywiol, amrywiaeth a chynhwysiant wedi cael ei gydnabod gan Athena SWAN. Mae’n dyst i waith caled llawer o bobl o bob rhan o PDC, gan gynnwys ein Hyrwyddwyr Athena SWAN, sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymwneud â chydweithwyr yn eu hamryfal feysydd a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.  

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y newidiadau cadarnhaol a ddaw pan fydd ein cynllun gweithredu Athena SWAN cyffrous yn cael ei roi ar waith.”