Pedair o academyddion pdc yn cael eu dewis ar gyfer rhaglen ymchwil crwsibl cymru 

29 Ebrill, 2021

A close-up of researcher Helen Jones smiling at the camera

Llongyfarchiadau i Dr Sarah Wallace, Dr Helen Jones, Dr Tracie McKinney a’r Athro Cysylltiol Jenny Maher ar gael eu dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru eleni.

Rhaglen uchel ei pharch i arweinwyr ymchwil y dyfodol yw Crwsibl Cymru, ym maes datblygiad personol a phroffesiynol a sgiliau arweinyddiaeth. 

Mae’r rhaglen wedi’i hariannu gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ac mae’n dod â 30 o ymchwilwyr ynghyd bob blwyddyn i edrych ar sut y gallan nhw gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau ymchwil presennol sy’n wynebu Cymru.  

Bob blwyddyn, dewisir 30 o ymchwilwyr i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl neu ‘labordai sgiliau’, lle byddan nhw’n edrych ar sut y gallan nhw elwa o weithio gydag ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill, sut i gynyddu effaith eu gwaith ymchwil, a sut i ddilyn gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.  

Dr Sarah Wallace, Dr Helen Jones, Dr Tracie McKinney a'r Yr Athro Cyswllt Jenny Maher

Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil): “Ac ystyried ymrwymiad PDC i gefnogi ymchwil effeithiol o ansawdd uchel, rydyn ni’n falch iawn o longyfarch Helen, Jenny, Sarah, a Tracie ar ennill lle ymhlith y 30 o geisiadau gorau a gyflwynwyd eleni i raglen Crwsibl Cymru. 

“Ar ran PDC, hoffwn ddymuno bob llwyddiant iddyn nhw ar y rhaglen a’r tu hwnt. Gobeithio y byddan nhw’n mwynhau dod yn rhan o grŵp Cymru o gyn-fyfyrwyr ac y bydd cymryd rhan yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i ffynnu wrth iddyn nhw barhau â'u gyrfaoedd fel ymchwilwyr.” 

Mae Dr Sarah Wallace yn uwch gymrawd ymchwil yn Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) ac yn gyd-sylfaenydd Rhwydwaith Ymchwil Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru. Mae ei diddordebau ymchwil yn rhychwantu’r maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig trais a cham-drin domestig, ynghyd â gwaith gydag unigolion a grwpiau/cymunedau sy’n agored i niwed a/neu ar gyrion cymdeithas. 

Mae Dr Helen Jones yn gymrawd ymchwil mewn Troseddeg. Cyn hyn, bu’n gweithio i Heddlu Swydd Gaerlŷr, yn adolygu lladdiadau heb eu datrys, trais rhywiol gan ddieithriaid a phobl sydd wedi bod ar goll am gyfnodau hir. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys lladdiadau, ymchwilio i droseddau mawr a phlismona, gyda ffocws ar ddulliau ymchwil ansoddol. 

Mae Dr Tracie McKinney yn anthropolegydd biolegol sy’n arbenigo yn ymatebion primatiaid annynol i aflonyddwch anthropogenig. Mae gan Tracie ddiddordeb arbennig yn y modd y mae primatiaid gwyllt yn delio ag aflonyddwch dynol, gan gynnwys newid cynefinoedd, ecodwristiaeth, y bwyd sydd ar gael, ac ysbeilio cnydau. 

Mae Dr Jenny Maher yn gweithio ym meysydd troseddeg a chyfiawnder troseddol, ac yn cyfrannu at wybodaeth sy’n ymwneud â thrais ac erledigaeth ymhlith pobl ifanc, cam-drin anifeiliaid a throseddau amgylcheddol.