Proffil Ymchwil: Dr Stuart Todd
23 Medi, 2019
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/Professor-Stuart-Todd_47737.jpg)
Am y rhan fwyaf o’i fywyd academaidd, mae’r Athro Todd wedi bod yn ymwneud ag ymchwil gyda phobl sydd ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae ei waith presennol yn edrych faterion sy’n ymwneud â marwolaeth a marw ymysg pobl sydd ag anableddau deallusol a’r bobl sy’n eu cynorthwyo nhw.
Pam marwolaeth?
“Bydd pobl yn aml yn gofyn i mi, ‘Pam marwolaeth?’ ac mae’n teimlo bod disgwyl i mi gyfaddef fod gen i ryw gyflwr patholegol neu fy mod i wedi profi rhyw fath o drawma yr ydw i’n ceisio’i fwrw heibio. Gallai hynny fod yn wir! Albanwr braidd yn bruddglwyfus ac oriog ydw i. Dim ond pan fydd hi’n bwrw glaw y byddaf yn hapus, fel canodd The Jesus and Mary Chain. Ond rheswm mwy tebygol yw fod mod i’n dod ar draws marwolaeth yn aml iawn yn fy ngwaith ymchwil, yn gymysg â serendipedd a sensitifrwydd academaidd.
“Am dipyn o flynyddoedd yn fy ngyrfa ymchwil gynnar, fe wnes i gyfweld â rheini pobl a oedd ag anableddau dysgu, gan eu holi am eu bywydau a’u profiadau. Roedden nhw’n bobl hynod o gryf a gwydn. Roedd rhoi gofal yn brofiad cadarnhaol i nifer ohonyn nhw, er bod eu perthynas â gweithwyr gwasanaethau proffesiynol yn anodd ar adegau. Fodd bynnag, roedd hi’n ymddangos bod marwolaeth wastad yn llechu yn y cefndir, ac ar ôl ychydig o amser, yn anodd ei anwybyddu.
“Byddai rhai rhieni yn sôn am adegau yn y 1950au a’r 60au pan gawson nhw gyngor meddygol yn awgrymu y dylid ‘gadael i natur ddilyn ei chwrs.’ Roedd hyn yn dal i’w brawychu. Bydden nhw’n sôn hefyd am bryderu am y dyfodol a beth fyddai’n digwydd i’w plentyn pan fydden nhw’n marw. I rai, roedd y pryder hwn yn cael ei fynegi drwy gyfrinach euog, na fyddai gan amlaf yn cael ei mynegi: ‘Rwy’n gobeithio y bydd fy mhlentyn yn marw cyn i mi farw’. Yna, ar un achlysur, fe sgwrsiais â mam am ei merch oedd yn ei harddegau. Fe ddywedodd nad oedd ganddi ddiddordeb mewn siarad â mi am ei merch yn troi’n oedolyn; roedd hi eisiau siarad am farwolaeth debygol ei merch. Roedd rhywun wedi dweud wrthi unwaith na fyddai ei merch yn byw i gyrraedd 18 oed. Byddai hi’n 18 oed cyn hir.
‘Pam na fydd neb yn siarad â mi am hyn, ac yn dweud wrtha’ i beth i’w ddisgwyl?’ Byddai ei chwestiwn yn codi yn fy mhen dro ar ôl tro dros y misoedd nesaf. I ryw raddau, roedd hi’n llygad ei lle. Prin iawn oedd yr ymchwilwyr yn fy maes i a fyddai’n rhoi sylw i farwolaeth, tra roedd nifer o academyddion mewn disgyblaethau eraill ar y pryd yn ‘darganfod marwolaeth’.
“Pan fydd pobl yn gofyn i mi pam fy mod i’n astudio marwolaeth mewn perthynas ag anableddau dysgu, fy ateb fydd: ‘A oes unrhyw farwolaethau nad ydyn nhw o bwys? Marwolaethau pobl nad ydyn ni’n malio dim amdanyn nhw. Os yw bywydau pobl sydd ag anableddau dysgu o bwys, yna mae eu marwolaethau nhw o bwys hefyd.’ Mae mwy iddi na hynny, ond bydd pobl yn dueddol o nodio i ddangos eu bod nhw’n deall yn rhannol.
“Ers ychydig dros ddeng mlynedd rwyf wedi cael cyfle i ddarganfod sut yn union y mae hyn o bwys, yn enwedig ymhlith y rheini sy’n wynebu marwolaeth a phrofedigaeth. Mae pobl eraill yn gweithio yn y maes hefyd erbyn hyn, ond rwy’n hoffi meddwl fy mod i wedi cyfrannu at agor drws anodd.
Gwaith Ymcwhil Presennol
“Mae’n wych gweithio gyda phobl eraill nad ydyn nhw’n gorfod gofyn pam fod ‘marwolaeth’ yn bwysig. Rwy’n gweithio gyda phobl yng Nghyngres Fyd-eang y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Gwyddonol Anableddau Deallusol a Datblygiadol. Byddwn ni’n rhannu ein canfyddiadau, yn hogi ein meddyliau, ac yn dod yn well am ofyn cwestiynau a allai fod yn bwysig. Yn ddiweddar, buon ni’n ystyried meysydd ar gyfer gwaith ymchwil rhyngwladol yn y dyfodol.
“Yn nes adref, rwyf wedi gweithio gydag ymchwilwyr eraill drwy’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ddatblygu darlun ehangach o sut y mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael cymorth yn ystod misoedd olaf eu bywydau, gan ganfod canlyniadau da mewn llefydd a meysydd lle mae angen gwneud gwaith o hyd.
“Ar hyn o bryd, rwy’n rhoi cyhoeddusrwydd i ddwy astudiaeth o bwys sydd wedi’u hariannu gan y Baily Thomas Trust a’r Dunhill Medical Trust. Mae’r gyntaf yn astudio marwolaeth ymhlith pobl sy’n byw mewn lleoliadau gwasanaethau anabledd dysgu drwy’r Deyrnas Unedig. Fe welson ni mai her fawr wrth roi gofal diwedd oes da i’r boblogaeth hon yw nad yw marwolaethau nifer o bobl sydd ag anableddau dysgu yn ddisgwyliedig.
“Mae’r ail yn astudio pobl hŷn sydd ag anableddau dysgu ac sy’n byw mewn lleoliadau gofal prif ffrwd. Mae cyfleoedd o hyd i wneud mwy o waith ymchwil. Ar y cyd â chydweithwyr yn PDC ac eraill, rydyn ni’n gobeithio ymchwilio i’r goblygiadau i ofal diwedd oes pan fydd dementia ar oedolion sydd â Syndrom Down. Ar y cyd â phobl eraill unwaith eto, rwy’n gobeithio clywed newyddion cyn hir am gyllid ar gyfer astudiaeth fawr o ofal diwedd oes, a fydd gobeithio yn creu agenda ar gyfer diwygio gwasanaethau am rai blynyddoedd i ddod.”