Roedd hi bob amser yn dod o hyd i amser i helpu menywod eraill i ddringo'r ysgol: pam mae mentoriaid yn bwysig
8 Mawrth, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/GettyImages-1135346270.jpg)
Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw hebddi hi
Mae Dr Stacey Rees yn nyrs anabledd dysgu cymunedol gofrestredig. Mae hi hefyd yn ddarlithydd ac yn ymchwilydd mewn anableddau deallusol a datblygiadol.
“Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw heb yr Athro Ruth Northway. Rwy’n teimlo'n ffodus iawn ei bod wedi fy helpu.
“Fe wnaeth y gefnogaeth a roddodd i mi yn fy ngyrfa gynnar newid fy myd. Roeddwn i’n nyrs dan hyfforddiant ddihyder a doeddwn i erioed wedi ystyried gyrfa ddarlithio heb sôn am wneud PhD.
“Mae’r byd academaidd yn gallu codi braw, ond fe wnaeth hi fy nysgu i fod yn hyderus yn fy syniadau a’m gallu, ac i wthio fy hun.
“Pan fu farw fy mam yn ystod fy PhD, roedd yn gyfnod anodd iawn. Roeddwn i'n teimlo bod popeth yn cwympo’n ddarnau. Yr hyn a helpodd mewn gwirionedd oedd bod gan rywun ffydd ynof i, rhywun yr oeddwn i’n ei hedmygu a’i pharchu. Heb i Ruth fod yn gefn i mi, byddwn wedi rhoi’r ffidl yn y to, yn sicr.
“Drwy ei chefnogaeth ddiymhongar, mae hi wedi dysgu cymaint i mi am y math o arweinydd yr hoffwn i fod. Nid beth roedd hi’n ei ddweud na’i wneud oedd yn bwysig, ond sut roedd hi’n gwneud i mi deimlo. Roeddwn i'n teimlo y gallwn i gyflawni unrhyw beth.
“Dros ddegawd yn ddiweddarach, rwyf bellach yn arwain fy myfyrwyr fy hun ar hyd eu llwybrau gyrfa ac rwy’n fy nghael fy hun yn ailadrodd yr un cyngor a roddodd Ruth i mi. Fe allaf weld y geiriau’n gadael eu hargraff arnyn nhw hefyd. Dyma sut mae gwaddol mentor da yn parhau.”
Roedd cael rhywyn yn gefn i mi, yn fy annog i ddyfalbarhau, yn amhrisiadwy
Mae Dr Shiny Verghese yn ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ac yn ymchwilio i’r rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.
“A minnau’n blentyn, roeddwn i’n cael fy nenu at fenywod cryf a oedd yn batrwm i’w hefelychu. Roedd hi’n ddefnyddiol gweld llwybrau gyrfa pobl a sut roedden nhw’n dygymod â heriau.
“Kiran Bedi oedd y fenyw gyntaf yn India i ymuno â swyddogion Gwasanaeth Heddlu India – roedd ei hyder yn ysbrydoledig. Roedd Sudha Murthy, y fenyw gyntaf i’w phenodi’n beiriannydd gan gwmni ceir mwyaf India (TELCO), yn ysbrydoliaeth arall. Roedd ei gyrfa ar ei hanterth wrth i’m gyrfa innau ddechrau siapio. Roedd ei llwyddiannau’n llywio fy syniadau fy hun am yr hyn oedd yn bosibl i fenywod mewn technoleg.
“Roedd dod o hyd i fentor yn amhrisiadwy i mi – yn enwedig mewn diwydiant sy'n enwog am ei ddiffyg amrywiaeth rhwng y rhywiau, fel cyfrifiadura. Roedd Sarah Bargal, sydd ar hyn o bryd yn Athro Cynorthwyol Ymchwil mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Boston, yn gydweithiwr y gwnes ei chyfarfod wrth weithio mewn prifysgol breifat yn Kuwait. Dechreuodd fy mentora’n answyddogol ar unwaith. Roeddwn i'n astudio ar gyfer fy noethuriaeth yn rhan amser wrth weithio a magu teulu, ac roedd hi hanner ffordd drwy ei PhD ei hun.
“Roedd hi'n ffynhonnell anogaeth a chefnogaeth gyson yn y dyddiau cynnar pan oedd yr ymdeimlad fy mod i yno drwy dwyll yn real, ac yn aml yn llethol! Hyd yn oed pan symudodd hi swyddi (a pharthau amser!), bydden ni’n siarad ar Skype, a byddai hi’n bwrw golwg dros fy ngwaith ysgrifennu ac yn rhoi adborth. Fe wnaeth geiriau calonogol Sarah am ‘sut y daw llawer o’r atebion gorau gan fenywod’ fy helpu i ddod o hyd i’m llais a chamu i swyddi arwain hefyd. Roedd cael yr ymdeimlad hwnnw bod rhywun yn gefn i mi, yn fy annog i ddyfalbarhau, yn amhrisiadwy.
“Roedd y profiad yn fy ngwneud i’n benderfynol o helpu menywod ifanc eraill. Rwy’n dweud wrth fy myfyrwyr fy hun bod angen iddyn nhw fentro, bod yn amlwg, a bod yn ddiflewyn-ar-dafod er mwyn cyflawni eu huchelgeisiau.”
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/campaigns/lgbqt-history-month/GettyImages-1471886655-1.jpg)
Byddwn i'n gadael ei chwmni'n teimlo'n well, yn cerdded yn dalach ac yn credu ynof fi fy hun
Mae Dr Abigail Watts yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru lle mae’n gweithio ar hyn o bryd ar synthesis deunyddiau nano-fandyllog sy’n seiliedig ar imogolit ar gyfer eu cymhwyso mewn catalysis.
“Yr Athro Alexandra Slawin, un o grisialwyr cemegol mwyaf blaenllaw’r byd, oedd fy mentor ym Mhrifysgol St Andrews. Mewn diwydiant sy’n dal yn llawn dop o ddynion, roedd yn ysbrydoliaeth i mi ddod ar draws athro benywaidd mor wych.
“Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Gronfa Ddata Strwythurol Caergrawnt yn 2018, gosodwyd yr Athro Slawin yn chweched yn y byd am nifer y setiau data yr oedd hi wedi’u creu yn y Gronfa, a hi oedd y fenyw uchaf ei safle. Mae’r hyn y mae hi’n ei gynhyrchu yn chwedlonol ac mae ei chyflawniadau’n fwy rhyfeddol fyth wrth gofio’i hymrwymiad angerddol i helpu gwyddonwyr benywaidd i ddatblygu’u gyrfaoedd.
“Roedd hi bob amser yn dod o hyd i amser i helpu menywod eraill i ddringo’r ysgol. Roedden ni’n aelodau o bwyllgor Athena Swan yr ysgol ac un o’n cyflawniadau oedd ailenwi'r ystafell ddarllen ar ôl un o raddedigion Cemeg benywaidd cyntaf y Brifysgol.
“Dysgodd Alex fi i ddelio â’r gwahanol bersonoliaethau o fewn fy ngrŵp ymchwil, a rhoddodd hyder i mi fod yn fwy pendant. Pan fyddai teimladau o annigonolrwydd yn brigo i’r wyneb, roedd ganddi wastad amser i wrando. A finnau ymhell o gartref, yn teimlo’n unig ac yn ynysig, roedd ganddi allu anhygoel i wneud i mi deimlo fy mod i’n bwysig ac yn cael fy nghroesawu. Byddwn i’n gadael ei chwmni’n teimlo'n well, yn cerdded yn dalach ac yn credu ynof fi fy hun.
“Rwyf wedi dysgu llawer iawn gan yr Athro Slawin, am gemeg ac amdanaf fi fy hun. Roedd hi'n fentor gwych – mae ei gwybodaeth a’i harweiniad wedi bod yn amhrisiadwy a heb ei chefnogaeth ni fyddwn lle ydw i heddiw.