Tri o Academyddion PDC yn cael eu dewis ar gyfer rhaglen ymchwil Crwsibl Cymru
23 Mai, 2023
Llongyfarchiadau i Dr Edward Oloidi, Dr Kang Li a Dr Robert Smith ar gael eu dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru eleni.
Bellach yn ei deuddegfed flwyddyn, mae Crwsibl Cymru yn rhaglen o fri sy’n rhoi cyfle i ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa feithrin eu sgiliau personol, eu sgiliau proffesiynol a’u sgiliau arwain i ddod yn arweinwyr ymchwil yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen wedi’i hariannu gan gonsortiwm o brifysgolion Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ac mae galw mawr am leoedd arni gan ymchwilwyr sy’n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu priod feysydd.
Bob blwyddyn bydd 30 o ymchwilwyr yn cael eu dewis o blith yr ymgeiswyr i gymryd rhan yn y rhaglen. Bydd yr ymchwilwyr hyn yn mynychu tri gweithdy preswyl dwys dros ddeuddydd, neu ‘labordai sgiliau’, a phob un yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, sesiynau sgiliau rhyngweithiol a thrafodaethau anffurfiol. Mae’r gweithdai hyn yn edrych ar y budd o weithio gydag ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill, sut y gall eu hymchwil gael mwy o effaith, a sut y gallan nhw greu gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.
Meddai’r Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Arloesi): “Mae ffocws ac ymrwymiad PDC i gefnogi ymchwil effeithiol o ansawdd uchel yn parhau, ac rydyn ni’n falch iawn o longyfarch Ed, Kang a Robert ar ennill eu lle ymhlith y 30 cais gorau a gyflwynwyd eleni i raglen Crwsibl Cymru.
“Ar ran PDC, hoffwn ddymuno bob llwyddiant iddyn nhw ar y rhaglen a’r tu hwnt. Gobeithio y byddan nhw’n mwynhau dod yn rhan o grŵp Cymru o gyn-fyfyrwyr ac y bydd cymryd rhan yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i ffynnu wrth iddyn nhw barhau â'u gyrfaoedd fel ymchwilwyr.”
Dr Kang Li, Dr Ed Oloidi a Dr Rob Smith
Mae Dr Ed Oloidi yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn yr Uned ar gyfer Datblygu Anableddau Deallusol a Datblygiadol, sy'n rhan o'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd, Gofal a Lles, ac mae hefyd ar hyn o bryd yn arwain y Grŵp Cynghori Ymchwil i Leiafrifoedd Ethnig yn PDC. Mae gwaith Dr Oloidi yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl sydd ag anableddau dysgu ac ar ymchwil a allai helpu i atal anghydraddoldebau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ei ymchwil diweddaraf yn cynnwys Proffil Iechyd Unwaith i Gymru a’r astudiaeth ledled y Deyrnas Unedig o brofiad oedolion sydd ag anableddau dysgu yn ystod y pandemig.
Mae Dr Kang Li yn Gymrawd Ymchwil yn y Grŵp Ymchwil ac Arloesi Peirianneg ac yn aelod o Gymdeithas Optegol America a MInstP. Mae gan Dr Li dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes technoleg laser, dylunio opteg, opteg anunionlin, laserau ffibr, a lithograffeg laser UV. Mae ganddo bortffolio cyhoeddi helaeth a phatent a gynhyrchwyd yn ystod ei yrfa yn gweithio gyda grwpiau rhyngddisgyblaethol mewn bioleg, meddygaeth ac amgylcheddau ledled y byd, ac ar hyn o bryd mae’n adolygydd cymheiriaid ar gyfer cyhoeddiadau yn y maes opteg ac ar gyfer cynigion Innovate UK/EPSRC.
Mae Dr Robert Smith yn Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth Boblogaidd ac yn dysgu Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Dr Smith yn gyfansoddwr, chwaraewr byrfyfyr a pherfformiwr sydd wedi bod yn weithgar ar y sîn gerddorol yng Nghaerdydd ers 1983. Mae wedi perfformio ledled Ewrop ac UDA ac mae wedi gweithio ar y cyd â cherddorion ledled y byd. Gyda’i fand Wonderbrass, cynrychiolodd Gymru mewn cystadleuaeth jazz ryngwladol yn Viennes, Ffrainc yn 1996. Mae Rob wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer theatr, ffilm, teledu a radio ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys cerddoriaeth gymunedol, cerddoriaeth ar gyfer y cyfryngau a pherfformiadau carnifal.