Troseddegydd yn edrych ar fywyd, achos a dienyddiad Timothy Evans

5 Mawrth, 2020

A black and white image of wrongly convicted Timothy Evans, surrounded by two men. Image credit to Wales Online

Cafodd Timothy Evans, gŵr 25 oed o Ferthyr Tudful, ei grogi ym mis Mawrth 1950 ar ôl cael euogfarn ar gam am lofruddio ei ferch yn eu fflat yn Rillington Place, yn ardal Notting Hill yn Llundain.

Yn ystod yr achos, fe ddywedodd mai ei gymydog i lawr staer, John Christie, a phrif dyst yr erlyniad, oedd y llofrudd. Dair blynedd ar ôl ei ddienyddio, darganfuwyd bod John Christie yn llofrudd cyfresol a oedd wedi lladd chwech o fenywod yn yr un tŷ.  

Mewn rhaglen ddogfen newydd sy’n cael ei darlledu heno am 18:30pm ar BBC Radio Wales, bydd Dr Harriet Pierpoint, Athro Cysylltiol mewn Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru, yn edrych yn ôl ar fywyd, achos a dienyddiad Timothy Evans ac effaith ddilynol hynny.   

Cododd yr achos gryn nyth cacwn a thrafod. Ochr yn ochr ag achosion Derek Bentley a Ruth Ellis, fe gyfrannodd yn sylweddol at gael gwared ar y gosb eithaf yng Nghymru a Lloegr.  

Mae’r rhaglen ddogfen yn cynnwys ailgyflwyno’r achos ar ffurf drama, ac mae’n clywed hefyd gan haneswyr, awduron trosedd a Harold Evans, cyn-olygydd y Sunday Times a roddodd amlygrwydd i achos Evans ac ymgyrchu dros wrthdroi ei euogfarn, ochr yn ochr â Ludovic Kennedy, y darlledwr a’r ymgyrchydd hawliau dynol.

A achubwyd ei gam?

Rhoddwyd pardwn brenhinol o’r diwedd yn 1966, ac yn 2003 rhoddodd y Swyddfa Gartref daliadau ex-gratia i Mary Westlake, hanner chwaer Timothy Evans, ac Elieen Ashby, ei chwaer, yn iawndal am gamweinyddu cyfiawnder.  

Mae’r rhaglen hon yn asesu arwyddocâd yr achos, ei gyfraniad at gael gwared â’r gosb eithaf, a lle Timothy Evans mewn hanes. 

Mae Dr Harriet Pierpoint, o’rGanolfan Troseddeg, wedi ysgrifennu am Fywyd Trasig a Marwolaeth Timothy Evans

Arbenigedd yn y maes hwn

“Rwyf wastad wedi ymddiddori yng ngwendidau a thegwch y system cyfiawnder troseddol, ac yn enwedig sut y bydd pobl ifanc a ddrwgdybir yn cael eu trin wrth gael eu cadw yn y ddalfa a’u cyfweld gan yr heddlu, a’u hawliau a’u llais,” meddai Dr Pierpoint, a wahoddwyd i gyflwyno’r rhaglen ddogfen yn sgil ei harbenigedd yn y maes. 

Hawliau a chamau diogelu

“Wrth weithio ar y rhaglen hon, fe ymddiddorais yn benodol yng nghefndir Timothy ac yn yr honiadau am ba mor annibynadwy oedd ei gyffes i’r heddlu.”  

Aeth yn ei blaen: “Heddiw, er nad yw’r ffordd y bydd pobl a ddrwgdybir yn cael eu trin yn berffaith tra byddan nhw yn y ddalfa, mae gwaddol achos Timothy ac achosion eraill o gamweinyddu cyfiawnder wedi arwain at greu fframwaith i reoleiddio pwerau’r heddlu a gwarchod hawliau unigolion. Mae hyn yn cynnwys nifer o ddulliau i warchod pobl y mae’r heddlu yn eu hamau o ddrwgweithredu, fel yr hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim ac i gael oedolyn priodol yn bresennol i warchod hawliau plant ac oedolion sy’n agored i niwed pan fydd yr heddlu yn eu cadw yn y ddalfa ac yn eu cyfweld.”