Tyrchu am y dystiolaeth: arbenigwr PDC yn cnoi cil am y cysylltiadau rhwng daeareg a throseddu

10 Medi, 2021

Professor Duncan Pirrie smiling at the camera whilst climbing a snowy mountain.

“Hyd yn oed fel daearegwr proffesiynol profiadol, nid yw cysylltiad rhwng daeareg ac ymchwiliadau fforensig troseddol ac amgylcheddol yn amlwg ar unwaith. Pam y byddai ymchwiliad o’r fath yn gofyn am sgiliau daearegwr?”

“Serch hynny, yn fwy ar ddamwain na thrwy fwriad ar y dechrau, rwyf wedi rhoi tystiolaeth arbenigol mewn dros 100 o ymchwiliadau i lofruddiaethau ac achosion difrifol eraill yn y Deyrnas Unedig a thramor. Rwyf hefyd yn un o arbenigwyr cydnabyddedig Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y Deyrnas Unedig. 

“Gan fynd yn ôl i 2002, cefais gymrodoriaeth wadd yn Sefydliad Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol Llywodraeth Awstralia (CSIRO). Dros sawl haf yn Brisbane, buon ni’n hel syniadau newydd posibl am ddulliau dadansoddi mwynau datblygedig, gan feddwl am gyfraniad posibl y dechnoleg hon at wyddoniaeth fforensig. 
 
“Heb fawr o ddealltwriaeth o wyddoniaeth fforensig, yn 2003 cyflwynais sgwrs mewn cynhadledd, yn seiliedig ar ddadansoddi samplau pridd o Awstralia, gan ofyn y cwestiwn a allai hwn fod yn arf ymchwilio newydd, gwerthfawr.  
 
“Yn yr egwyl goffi daeth rhywun ataf i ofyn a allwn helpu i ymchwilio i lofruddiaeth merch 15 oed yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn lôn rhwng dau dŷ, ond roedden nhw’n credu bod yr ymosodiad cychwynnol wedi digwydd ar dir ysgol gyfagos.” 

Euogfarn am lofruddiaeth

“Roedd unigolyn o ddiddordeb i’r ymholiad wedi gwadu unrhyw gysylltiad dro ar ôl tro, a gwadu hefyd ei fod wedi bod ar dir yr ysgol. Ond roedd y gronynnau pridd ar ei esgidiau yn adrodd stori wahanol.   
 
“Drwy ddadansoddiad manwl, roedden ni’n gallu dangos bod y gronynnau ar esgidiau’r dioddefwr a’r sawl dan amheuaeth yn dod o’r un lleoliad a’u bod yr un fath â'r rhai a oedd yn bresennol ar dir yr ysgol. Roedden nhw’n wahanol i’r gronynnau yn y lleoliadau lle’r oedd y sawl dan amheuaeth yn honni ei fod wedi gwisgo’r esgidiau. Fel rhan o achos cymhleth, arweiniodd y dystiolaeth at euogfarn am lofruddiaeth.  
 
“A dyna sut y dechreuodd fy ymwneud â gwaith achosion fforensig. Mae llawer o’r gwaith wedi golygu gwneud dadansoddiadau manwl o samplau pridd fforensig, gan gymharu safleoedd troseddau hysbys ag eitemau gan unigolion a allai fod dan amheuaeth. Mae’r math hwn o ddadansoddi cymharol wedi dod yn arf cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio gan lawer o heddluoedd ymchwilio ledled y byd.   

“At hynny, rydyn ni’n gallu defnyddio samplau pridd fel arf rhagfynegol i ganfod lleoliadau anhysbys yn seiliedig ar nodweddion y pridd – dull rydyn ni’n ei alw yn geoleoli rhagweladwy. Mae hyn yn arwain at yr ail brif ddefnydd o ddaeareg mewn ymchwiliadau troseddol, sef chwilio am eitemau sydd wedi’u cuddio neu’u claddu yn yr amgylchedd. Mae llawer o ddaeareg gymhwysol yn ymwneud ag ymchwilio i amodau tir – fel arfer ar gyfer prosiectau peirianneg. Ond gellir defnyddio’r un offer i chwilio am eitemau sydd wedi’u claddu a’u cuddio – gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i bobl sydd wedi’u llofruddio a gynau a chyffuriau sydd wedi’u cuddio, ac ati.  

“Fodd bynnag, mae geowyddoniaeth fforensig yn ddisgyblaeth arbenigol iawn, gyda nifer bach o ymarferwyr ym mhob gwlad. Felly, er mwyn datblygu’r wyddoniaeth ymhellach, a rhannu arferion gorau, yn 2011, mewn cyfarfod yn Rhufain, sefydlwyd Menter Daeareg Fforensig Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Daearegol (IUGS-IFG) – grŵp byd-eang o geowyddonwyr sy’n gweithio yn y maes hwn. Drwy IUGS-IFG mae'r gwaith o astudio daeareg fforensig wedi datblygu’n aruthrol, yn ogystal â chael ei dderbyn a'i gymhwyso gan asiantaethau sy’n gorfodi’r gyfraith ledled y byd.  

“Er mwyn datblygu hyn ymhellach, daeth grŵp o geowyddonwyr fforensig profiadol iawn at ei gilydd i ysgrifennu Canllaw i Ddaeareg Fforensig, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain, ar ran IUGS. Mae’r llyfr hwn wedi’i seilio’n bennaf ar brofiad cyfunol yr awduron o waith achos, gyda’r wyddoniaeth sy’n sail i'r maes yn ategol at hynny. Ei nod yw rhoi canllaw ymarferol i ddaearegwyr wrth ddadansoddi tystiolaeth chwilio ac olrhain, er mwyn hyrwyddo'r defnydd o ddaeareg fforensig ymhellach.” 

A crime scene investigator dressed in full white overalls looks for tools in a silver case at an active crime scene near a river cordoned off by yellow crime scene tape

Mwyngloddio anghyfreithlon yn ariannu rhwydweithiau terfysgol

“Ar ôl helpu, law yn llaw â llawer o weithwyr eraill ledled y byd, gyda’r defnydd o ddadansoddiadau daearegol mewn ymchwiliadau fforensig, mae awduron y llyfr hwn bellach wedi symud ymlaen at broblem newydd sy’n heriol yn fyd-eang. Mae mwyngloddio’n darparu'r deunyddiau crai ar gyfer cymdeithas, ond mae’n fusnes mawr, ac mae ganddo broblemau sylweddol yn sgil gweithgarwch anghyfreithlon a throseddol. 

“Ar raddfa leol, mae modd cloddio heb unrhyw reolaeth ddeddfwriaethol – cloddio crefftus yw’r enw am hyn – ac mae’n achosi risgiau sylweddol i bobl, yn effeithio ar yr amgylchedd ac ati. Ond ar raddfa lawer mwy, mae troseddau mwyngloddio byd-eang yn ariannu carteli troseddol rhyngwladol, rhwydweithiau terfysgol a gwladwriaethau amheus. A yw’r deunyddiau crai a ddefnyddiwyd i greu eich ffôn yn dod o ffynonellau cyfreithlon? 

“Gyda chyllid gan IUGS rydyn ni wedi cychwyn ar brosiect dwy flynedd i ddechrau gwerthuso hyd a lled troseddau mwyngloddio. Gan edrych i’r dyfodol, byddwn ni’n ystyried ar sut y gall geowyddoniaeth liniaru ac ymchwilio i weithgarwch o’r fath. Unwaith eto, mae hon yn bartneriaeth fyd-eang â chydweithwyr, yn benodol o UDA, Brasil, Colombia, De Affrica, Awstralia ac Affrica – ac yn bartneriaeth o academyddion a swyddogion gorfodi’r gyfraith.    

“Bydd gwybod beth yw ffynhonnell deunyddiau crai ac a ydyn nhw’n dod o lefydd cyfreithlon a chynaliadwy yn dod yn her newydd, fawr yn y dyfodol. 

Daeareg fforensig fel llwybr gyrfa

“Yn olaf, bydd pobl yn gofyn i mi yn aml a allwn argymell daeareg fforensig fel llwybr gyrfa. Ychydig iawn sy’n gallu gwneud hyn yn yrfa llawn amser – Heddlu Ffederal Brasil sydd â’r tîm mwyaf o ddaearegwyr, gyda thua 80 o staff, ond mewn llawer o wledydd dim ond llond llaw o ymarferwyr profiadol sydd yno. 
 
“Mae heriau sylweddol yn y maes – mae’n gallu bod yn anodd iawn mynd i safleoedd trosedd ac adfer cyrff dioddefwyr; mae mynd i achosion troseddol a chyflwyno tystiolaeth yn profi eich gallu i’r eithaf.   
 
“Ond mae ochr dda i’r gwaith hefyd. Er bod y rhan fwyaf o’m profiad gwaith achos wedi bod yn gysylltiedig ag ymchwiliadau cychwynnol yr heddlu, roedd yr achos rwy’n fwyaf balch ohono’n golygu profi y tu hwnt i amheuaeth fod y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn achos cynharach yn sylfaenol ddiffygiol a bod yr euogfarn yn anniogel. 
 
“Fe wnaeth yr ymchwiliad hwn i gamweinyddu cyfiawnder dynnu sylw at bwysigrwydd gwyddoniaeth ragorol a’r gallu i asesu arwyddocâd y canfyddiadau'n annibynnol.” 

student-25

Duncan Pirrie

Mae Duncan Pirrie yn Athro Cysylltiol mewn Daeareg, yn Bennaeth Ymchwil y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, ac yn arweinydd y cwrs Meistr mewn Geowyddoniaeth Maes Gymhwysol Uwch.

Mae Dr Pirrie wedi cyhoeddi dros 115 o bapurau a llyfrau gwyddonol. Mae ei ymchwil i gymhwyso daeareg fforensig wedi cynnwys creu cysylltiadau rhwng nodweddion pridd â safleoedd trosedd, a defnyddio pridd i ganfod lleoliadau daearyddol. Mae gwaith newydd, sy’n cael ei ariannu gan Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Daearegol, yn ymchwilio i’r broses o ganfod troseddau mwyngloddio a mynd i’r afael â nhw.