Ymchwilio i ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol mewn adeiladau sy'n arbed ynni

17 Gorffennaf, 2020

A person holding a felt cut out of a green home with fields behind

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru wedi cael grant gwerth £25k gan yr Academi Gwyddorau Meddygol i ymchwilio i ddefnyddio deunyddiau adeiladu a dyluniadau anghonfensiynol mewn cartrefi sy’n arbed ynni.

Bydd y prosiect blwyddyn hwn, sy'n rhan o gynllun Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang yr Academi Gwyddorau Meddygol, yn edrych ar botensial defnyddio deunyddiau adeiladu traddodiadol o Kenya wrth godi adeiladau. Yn eu plith mae dom gwartheg, makuti [dail palmwydden goco wedi'u sychu yn yr haul], bambŵ, glaswellt, mwd, calchfaen cwrel a chlai wedi’i galchynnu.

Concrit yw’r deunydd a ddefnyddir amlaf yn y byd, ac mae’r ôl-troed carbon yn cyfateb i hynny. Er bod concrit yn wydn ac yn hyblyg, nid yw’n fioddiraddadwy nac yn llesol i’r amgylchedd. Unwaith y bydd wedi dechrau cracio, neu fynd yn anwastad, mae angen ei chwalu a’i ddisodli, neu ei orchuddio â rhagor o haenau o goncrit newydd. Mae gweithgynhyrchu sment yn cyfrannu 5 -10% o'r holl CO2 atmosfferig anthropogenig a gynhyrchir yn fyd-eang.  

Gan weithio'n agos gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Embu yn Kenya, bydd yr astudiaeth yn edrych ar wella priodweddau ac apêl y deunyddiau traddodiadol hyn er mwyn gwella'r defnydd a wneir ohonyn nhw. Bydd y prosiect yn rhannu’r canlyniadau gyda phrifysgolion yn Kenya a chymunedau lleol i helpu i greu adeiladau sy’n effeithlon o ran ynni ac sy’n llesol i'r amgylchedd. 

Dywedodd y prif ymchwilydd, John Kinuthia, Athro Arloesi ac Ymgysylltu mewn Peirianneg Sifil yn yr Ysgol Beirianneg yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, a Phennaeth y Ganolfan Profi Uwch Ddeunyddiau (AMTeC): “Mae angen i ni chwilio am ddewisiadau amgen yn lle concrit, sydd ddim yn llesol i’r amgylchedd. Er eu bod nhw wedi cael eu defnyddio ers cannoedd o flynyddoedd, mae’r deunyddiau traddodiadol hyn wedi cael eu diystyried ar draul sment a choncrit. Mae gan adeiladau sment a choncrit ôl-troed carbon uchel iawn, ac maen nhw’n defnyddio llawer o ynni naill ai i gynhesu neu i oeri'r adeilad.  

“Mae gan y deunyddiau adeiladu anghonfensiynol hyn, sy’n gweithio gyda’r amgylchedd heb ei ddifetha, y potensial i inswleiddio rhag colli gwres, naill ai o’r tu mewn neu o’r tu allan i adeilad.  

“Gwelwyd bod clai, er enghraifft, naill ai heb ddŵr neu pan gaiff ei gymysgu â masglau reis neu ddom gwartheg, yn wydn a thermo-wrthiannol a bod ganddo gryfder cywasgol dichonadwy; mae potensial i’w ddefnyddio yn lle hyd at 50 y cant o sment Portland cyffredin.”