Yr Athro Stuart Todd yn ymuno ag astudiaeth o effaith y pandemig ar bobl ag anableddau dysgu
15 Tachwedd, 2020
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/Professor-Stuart-Todd_47737.jpg)
Mae’r Athro Stuart Todd wedi ymuno ag arbenigwyr eraill ledled y Deyrnas Unedig i astudio profiadau pobl sydd ag anableddau dysgu yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU.
Gan weithio gyda thîm o ymchwilwyr o brifysgolion Metropolitan Manceinion, Warwig, Bryste, Caerdydd, Caint, Glasgow, Llundain ac Ulster, bydd y prosiect yn siarad yn uniongyrchol â phobl sydd ag anableddau dysgu i ddeall yr heriau y maen nhw wedi eu hwynebu. Dros y flwyddyn nesaf, nod y tîm yw siarad â 1,000 o oedolion sydd ag anableddau dysgu, ac â 500 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig, a hynny ar dri achlysur gwahanol. Yr Athro Todd sy’n arwain yr astudiaeth yng Nghymru, ynghyd â Dr Steve Beyer o Brifysgol Caerdydd.
“Cyn pandemig y coronafeirws roedd pobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o fod ag iechyd gwaeth, bywydau cymdeithasol tlotach a mwy cyfyngedig, a llai o arian na phobl heb anableddau dysgu,” dywedodd yr Athro Todd.
“Rydyn ni bellach yn gwybod bod gan bobl sydd ag anableddau dysgu fwy o risg o farw o ganlyniad i’r coronafeirws na phobl eraill, yn enwedig pobl iau. Mae angen i ni wybod nawr sut yr effeithiodd y pandemig ar fywydau pobl sydd ag anableddau dysgu, a rhoi cyngor ynghylch sut y gall gweithwyr proffesiynol a llywodraethau wella’r sefyllfa.”
I wneud hyn yng Nghymru, bydd y tîm yn siarad yn uniongyrchol â 200 o bobl sydd ag anableddau dysgu a 100 o ofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig. I sicrhau llwyddiant yr astudiaeth yng Nghymru, mae’r ymchwilwyr yn gweithio gyda Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan, Anableddau Dysgu Cymru, a Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.