Ein Haddewid Data
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau myfyrwyr a graddedigion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion am sut y mae’r Brifysgol yn defnyddio data personol wrth gynnal a datblygu ei pherthynas ag aelodau o’r gymuned alumni.
Prifysgol De Cymru yw rheolwr data ac mae modd cysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol drwy e-bostio [email protected]
Mae’r Brifysgol drwy gyfrwng ei gweithrediadau Alumni yn casglu data personol er mwyn y bwriad cyffredinol o hysbysu a chefnogi ei chymuned alumni ynghylch newyddion, datblygiadau a chyfleoedd ym Mhrifysgol De Cymru.
Bydd y wybodaeth bersonol ganlynol o bosib yn cael ei chasglu – Enw, manylion cysylltu (cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost), gwybodaeth am addysg, hanes cyflogaeth, manylion am berthnasoedd gyda staff ac eraill o fewn y gymuned alumni, gwybodaeth am gyfnod y person graddedig yn PDC, gwybodaeth am ymgysylltu â’r Tîm Alumni, agwedd tuag at wirfoddoli a/neu gefnogi’r Brifysgol yn ariannol drwy gyfrwng rhoddion elusennol, erthyglau yn y cyfryngau, cofnodion o roddion, gwybodaeth gysylltiedig â rhoddion cymorth a fynnir gan CThEM
Cyfran sylweddol o’r wybodaeth ar eich cofnod alumni yw’r hyn a wnaethoch chi ei ddarparu er mwyn mynd i’r Brifysgol fel myfyriwr. Mae angen gwybodaeth ychwanegol drwy gyfrwng eich rhyngweithio gyda ni, naill ai o ganlyniad i chi’n diweddaru eich cofnod, neu drwy ymgysylltu â ni mewn rhyw fodd e.e. cofrestru ar gyfer digwyddiad neu gytuno i rannu data pan fyddwch yn cyflwyno proffil alumni.
Yn achlysurol mae’n bosib y bydd y Brifysgol yn defnyddio gwasanaethau trydydd parti/data sydd ar gael yn gyhoeddus i sicrhau fod y data diweddaraf gennym ac i sicrhau ein bod yn osgoi cyfathrebu wedi’i gamgyfeirio a allai achosi gofid personol neu arwain at wastraffu adnoddau ariannol.
Mae data personol yn cael ei brosesu er mwyn helpu’r Brifysgol gynnal cymuned alumni ymgysylltiedig; gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer y canlynol:
· Darparu gwasanaethau ar eich cyfer y gall y Brifysgol gynnig i raddedigion.
· Darparu manteision ar eich cyfer y gall y Brifysgol gynnig megis cefnogaeth gyda gyrfaoedd neu wybodaeth am astudiaethau ôl-raddedig
· Dibenion gweinyddol
Bydd y canlynol o bosib yn eu plith:
· Cyhoeddiadau Alumni
· Gwahoddiadau i ddigwyddiadau ac aduniadau Alumni
· Hysbysiadau am fuddion a gwasanaethau alumni
· Arolygon Alumni
· E-gyfathrebu Alumni
· Newyddion y Brifysgol
· Dewisiadau ar gyfer astudio pellach
· Dewisiadau’n ymwneud â Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth
· Gwybodaeth am grwpiau daearyddol neu o ddiddordeb arbennig
· Unrhyw wybodaeth o fudd i chi neu i’r Brifysgol
Byddwch hefyd efallai’n derbyn ceisiadau gennym i godi arian, a allai fod o ganlyniad i ddadansoddiad cyfoeth ac ymchwil, mewnol ac allanol, sy’n rhoi gwybodaeth i strategaeth godi arian a chyfathrebu cysylltiol y Brifysgol.
Byddwn yn cyfathrebu â chi drwy’r post, ffôn neu ddulliau electroneg yn dibynnu ar y manylion cyswllt a’ch dewisiadau chi. Os fyddwch yn rhoi manylion cyswllt i ni ar gyfer dull penodol o gyfathrebu, bydd hyn yn cael ei ystyried fel eich cydsyniad i ni ddiweddaru eich cofnod ac i gyfathrebu â chi gan ddefnyddio’r wybodaeth hon oni bai eich bod yn nodi’n wahanol.
Os bydd unigolyn yn nodi y dymunai gael mwy o wybodaeth gan y Brifysgol, caiff y wybodaeth hon ei phrosesu gyda chydsyniad.
Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Alumni ar [email protected]
Mae’r Brifysgol yn cynnal dadansoddiad i fonitro ac asesu effaith y gweithgaredd mae’n cyflawni. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithredu’r tasgau sy’n cael eu cwblhau er budd y cyhoedd.
Mae’n bosibl y bydd y Brifysgol am gysylltu â chi i gynnig cymorth neu ganllawiau neu i ofyn am wybodaeth er mwyn helpu i’ch cefnogi fel person graddedig o’r Brifysgol. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu ar y sail ei bod o fuddiant dilys i’r person graddedig a’r / neu’r Brifysgol.
Mae’r Tîm Datblygu Alumni’n gweithio’n agos gyda Gyrfaoedd PDC i gynnig cefnogaeth gyrfaoedd a hyrwyddo cyfleoedd gyrfa graddedigion i’n alumni.
Mae’r Tîm Datblygu Alumni yn gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Addysg Uwch (HESA) i gefnogi arolwg Hynt Graddedigion o raddedigion newydd. Mae llanw’r arolwg yn fodd i grewyr polisi ddeall y sector addysg uwch a chyflwr marchnad lafur graddedigion. Gan fod hwn yn arolwg statudol, disgwylir i’r Brifysgol yn ôl y gyfraith ddarparu’r manylion cyswllt diweddaraf ar gyfer ein holl raddedigion er mwyn i HESA allu anfon yr arolwg atoch. Mae mwy o wybodaeth ynghylch Hynt Graddedigion ar gael ar eu tudalennau gwe.
Mae’r Brifysgol yn defnyddio cwmnïau trydydd parti i gyflawni rhai gweithgareddau prosesu ar ei rhan. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd y Brifysgol yn sicrhau y gwneir hynny’n unol â chyfreithiau diogelu data ac y bydd contractau ac archwiliadau diwydrwydd dyladwy addas wedi’u cwblhau.
Mae’r Brifysgol yn prosesu data personol sy’n ymwneud â gweithgareddau alumni o fewn y DU a’r Undeb Ewropeaidd.
Os bydd gweithgaredd prosesu yn y dyfodol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU ac Ewrop, bydd y Brifysgol yn sicrhau y bydd prosesyddion yn darparu diogelwch tebyg dros ddata personol drwy sicrhau bod y mesurau diogelwch canlynol mewn grym:
Byddwn ond yn trosglwyddo’ch data personol i wledydd y credir gan y DU fod ganddynt safon diogelwch digonol ar gyfer data personol neu ble mae mesurau diogelwch priodol mewn grym. Asesiad Risg Trosglwyddo a Chymalau Contractiol Safonol neu Gytundeb Rhyngwladol Trosglwyddo Data ble mae cytundeb yn rhwymo mewn cyfraith mewn grym.
Ni wnawn fyth drosglwyddo eich data i unrhyw wlad y credir y bydd yn risg uchel i’ch preifatrwydd.
Bydd y wybodaeth o fewn eich cofnod Alumni yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol neu nes y byddwn yn derbyn cais i’w ddileu.
Byddwch cystal â mynd i Record Retention Schedule y Brifysgol (am fwy o wybodaeth).
CADW EICH GWYBODAETH YN DDIOGEL
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd cyfrinachedd yn cael ei barchu, a chymerir pob cam priodol i rwystro mynediad, datgeliad, addasiad neu golled heb ei awdurdodi. Dim ond aelodau o staff sydd wedi cael hyfforddiant mewn diogelu data ac sydd angen mynediad i rannau perthnasol neu holl gofnodion unigolyn fydd â’r awdurdod i wneud hynny. Bydd gwybodaeth a gedwir mewn ffurf electronig yn cael ei diogelu gan gyfrinair a chyfyngiadau diogelwch technegol eraill.
EICH HAWLIAU
Gellir cael gwybodaeth ar yr hawliau a roddir i wrthrychau’r data o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data yma.
Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Swyddog Diogelu Data:
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
E-bost: [email protected]
Os hoffech gysylltu ag unrhyw un ynglŷn â'ch data personol, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'ch data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os byddwch yn parhau’n anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:-
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer/Cheshire
SK9 5AF
Mae’r holl waith celf ar wefan Alumni PDC yn waith graddedigion.
Credydau delwedd:
Delwedd baner: Shakiba Raki