Gan gyfuno addysg uwch a phrofiad gwaith yn y byd go iawn, mae brentisiaethau o fudd i fyfyrwyr a chyflogwyr
Gradd-Brentisiaethau
Wedi’u cynllunio’n benodol gan gyflogwyr, prifysgolion a chyrff proffesiynol. Mae ein prentisiaethau gradd yn ffordd wych i fyfyrwyr ddod o hyd i waith go iawn ac yn galluogi cyflogwyr i lenwi bylchau sgiliau.
ARCHWILIO PRENTISIAETHAU GRADD/UWCH
Rhwydwaith75
Mae Rhwydwaith75 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio, ennill a dysgu. Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o leoliadau gwaith ac astudio rhan-amser.
Trwy Rhwydwaith75, mae myfyrwyr yn gweithio mewn busnes lleol am dri diwrnod yr wythnos ac yn mynychu'r brifysgol am ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae myfyrwyr Rhwydwaith75 hefyd yn elwa o rai o'r graddau gorau sydd ar gael, cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf, ac addysgu rhagorol.
Heddlua Gweithredol
Gan ddibynnu ar eu cymwysterau wrth ymuno â'r heddlu, bydd yn ofynnol i swyddogion heddlu newydd a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ymrwymo i astudio trwy lwybr gwaith ac astudio cyfun yn eu cwnstabliaeth leol.
Mae Prifysgol De Cymru yn cefnogi hyfforddiant swyddogion heddlu mewn nifer o Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr gan sicrhau y bydd swyddogion wedi eu haddysgu at lefel gradd erbyn diwedd eu hyfforddiant, pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis.
CYSYLLTU Â NI
FFONIWCH
Prentisiaethau
01443 482203
01443 654488