HEDDLUA GWEITHREDOL

Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid plismona i ddarparu cyrsiau sy'n cyd-fynd â'r llwybrau mynediad cenedlaethol i Blismona. Mae'r cyrsiau a'r cymwysterau cysylltiedig yn cyd-fynd â'r gofynion a'r safonau prawf a ddisgwylir er mwyn i swyddogion newydd allu tystio eu bod yn gymwys ar gyfer eu rôl a chael eu cadarnhau o fewn eu rheng.

A student police officer in uniform is talking into their shoulder radio.

I fod yn gymwys i astudio ar unrhyw un o'r cyrsiau hyn, rhaid i chi fod wedi bod yn llwyddiannus ym mhroses asesu genedlaethol yr heddlu ac wedi cael cynnig swydd ar un o'r llwybrau mynediad cenedlaethol gan un o'n lluoedd partner. Byddwch yn cael eich cofrestru ar y cwrs priodol ar eich diwrnod cyntaf o gyflogaeth, ac ar ôl cwblhau'r holl ofynion prawf bydd eich cyfnod prawf yn gorffen, cewch eich cadarnhau o fewn eich rheng, byddwch yn cyflawni'r cymhwyster perthnasol ac yn cwblhau'r rhaglen.

Mae opsiwn hefyd i astudio'r Radd mewn Plismona Proffesiynol yn PDC cyn gwneud cais i'r gwasanaeth heddlu.

Mewn ymateb i ofynion y diwydiant, mae'r Coleg Plismona wedi cyflwyno 4 llwybr mynediad i blismona ar gyfer swyddogion heddlu, sy'n cynnwys yr opsiwn i ennill cymwysterau sydd wedi’u cydnabod a’u hachredu’n genedlaethol ar gyfer y gwasanaeth heddlu. 

Anghenion recriwtio’r lluoedd partner sy’n penderfynu ar ymrestriadau’r cyrsiau. Nhw fydd yn penderfynu faint o swyddogion sydd angen iddynt recriwtio ar bob llwybr mynediad ac, yn bwysig iawn, pa ymgeiswyr fydd yn cael cynnig swydd fel swyddog.

Mae manylion pob cwrs fel a ganlyn;

Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu

Os ydych chi'n ymuno â'r heddlu heb gymhwyster ar lefel gradd, gallwch ddilyn prentisiaeth gradd broffesiynol tair blynedd o'r enw Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PGCH/PCDA). 

Mae'r llwybr astudio hwn yn cynnwys elfennau theori ac ymarfer. O’i gwblhau, byddwch yn ennill BSc (Anrh) Ymarfer Plismona Proffesiynol. 

Bydd eich taith ddysgu yn cynnwys modiwlau academaidd sydd ag elfennau ymarferol wedi'u hintegreiddio ynddynt.  Bydd gofyn i chi ddangos cymhwysedd ymarferol drwy gwblhau Portffolio Cymhwysedd Gweithredol (PCG/OCP) o'r sgiliau rydych wedi'u harddangos yn y gweithle.  

Bydd angen i chi ennill Statws Patrol Annibynnol (SPA/IPS) erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf a chwblhau'r portffolio erbyn diwedd blwyddyn 2.  Er mwyn cwblhau eich cyfnod prawf 3 blynedd yn llwyddiannus ac ennill y cymhwyster bydd angen i chi fod wedi dangos tystiolaeth o'r holl gymwyseddau'n seiliedig ar ymarfer, pasio'r holl fodiwlau academaidd a (lle nad yw hyn eisoes wedi digwydd) wedi ennill yr hyn sy’n cyfateb i Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg fel y'u nodir yng ngofynion y Coleg Heddlua ar gyfer y cymhwyster hwn.  

  • Gwybodaeth Plismona
  • Ymddygiadau Plismona
  • Sgiliau Plismona
  • Plismona Gweithredol

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 30 credyd oni nodir fel arall.

  • Gwelliant Sefydliadol
  • Trawsnewid Cymunedau
  • Meddwl yn Feirniadol yn y Gweithle (40 credyd)
  • Cymhwysedd Gweithredol (40 credyd)

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 20 credyd oni nodir fel arall.

  • Prosiect Ymchwil sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth (40 credyd)
  • Arddangosfa Ymchwil
  • Arbenigeddau Plismona (40 credyd)
  • Rheoli mewn Plismona

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 20 credyd oni nodir fel arall.

Two student police officers taking part in a mock police station interview with a suspect

Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd (RhMDG/DHEP)

Os bydd gennych radd eisoes pan yn ymuno â'r heddlu, gallwch gofrestru ar raglen ddwy flynedd yn seiliedig ar eich gwaith, o'r enw Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd (DHEP). 

Mae'r llwybr astudio hwn yn cynnwys elfennau theori ac ymarfer. O’i gwblhau, byddwch yn ennill Diploma Graddedig mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. 

Bydd eich taith ddysgu yn cynnwys modiwlau academaidd sydd ag elfennau ymarferol wedi'u hintegreiddio ynddynt.  Bydd gofyn i chi ddangos cymhwysedd ymarferol drwy gwblhau Portffolio Cymhwysedd Gweithredol (PCG/OCP) o'r sgiliau rydych wedi'u harddangos yn y gweithle.  

Bydd angen i chi ennill Statws Patrol Annibynnol (SPA/IPS) erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf a chwblhau'r portffolio erbyn diwedd blwyddyn 2.  Er mwyn cwblhau eich cyfnod prawf 2 flynedd yn llwyddiannus ac ennill y cymhwyster bydd angen i chi fod wedi dangos tystiolaeth o'r holl gymwyseddau sy'n seiliedig ar ymarfer a phasio'r holl fodiwlau academaidd. 

  • Gwybodaeth Plismona (DHEP)
  • Sgiliau plismona (DHEP)
  • Ymddygiadau Plismona (DHEP) (20 credyd)
  • Plismona Gweithredol (DHEP) (20 credyd)

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 10 credyd oni nodir fel arall.

  • Arbenigeddau Plismona (DHEP)
  • Gwelliant Sefydliadol (DHEP)
  • Meddwl yn Feirniadol yn y Gweithle (DHEP) (20 credyd)
  • Cymhwysedd Gweithredol (DHEP) (20 credyd)

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 10 credyd oni nodir fel arall.

MAE FY MHROFIAD O GWBLHAU RHAGLEN MYNEDIAD I DDEILIAID GRADD WEDI BOD YN HYNOD O DDEFNYDDIOL AC ADEILADOL YN FY NATBLYGIAD FEL SWYDDOG HEDDLU.

Harry Compton

Myfyriwr DHEP

FE RODDODD Y RHAGLEN AMSER AC ADNODDAU I MI EDRYCH AR DIRWEDD GYFREDOL YR HEDDLU AC FE’M HYSGOGODD I FEDDWL AM SUT Y GELLID EI WELLA A SUT Y GALLWN WNEUD CYFRANIAD UNIONGYRCHOL.

Harry Compton

Myfyriwr DHEP

Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid yr Heddlu (RhMCH/PCEP)

Mae Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid yr Heddlu (RhMCH/PCEP) yn rhaglen ddwy flynedd sy'n cynnwys elfennau theori ac ymarfer. 
O’i gwblhau, byddwch yn ennill Diploma mewn Addysg Uwch mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. 

Bydd eich taith ddysgu yn cynnwys modiwlau academaidd gydag elfennau ymarferol wedi’u hintegreiddio. Bydd gofyn i chi ddangos cymhwysedd ymarferol drwy gwblhau Portffolio Cymhwysedd Gweithredol (OCP) o’r sgiliau rydych wedi’u dangos yn y gweithle.

Bydd angen i chi gyflawni Statws Patrol Annibynnol (IPS) erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf, a chwblhau’r portffolio erbyn diwedd yr ail flwyddyn. Er mwyn cwblhau eich cyfnod prawf o ddwy flynedd yn llwyddiannus a sicrhau’r cymhwyster, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o bob cymhwysedd seiliedig ar ymarfer ac ennill pob modiwl academaidd fel y nodir gan ofynion y Coleg Plismona ar gyfer y cymhwyster hwn.

  • Gwybodaeth Blismona
  • Ymddygiadau Plismona
  • Sgiliau Plismona
  • Gweithrediadau Plismona

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 30 credyd oni nodir yn wahanol.

  • Gwella Sefydliadol (PCEP)
  • Trawsnewid Cymunedau (PCEP)
  • Meddwl Beirniadol yn y Gweithle (40 credyd)
  • Cymhwysedd Gweithredol (40 credyd)

Sylwer: Mae pob modiwl yn werth 20 credyd oni nodir yn wahanol.

A group of police officers sat with their helmets resting on their knees

Gradd mewn Plismona Proffesiynol (GPP/DPP)

Nid yw'r llwybr arall i blismona yn cynnwys gofyniad i ymgeisydd fod yn swyddog sy’n gwasanaethu. Mae'r llwybr hwn i blismona yn cynnwys gwneud cais i’r GPP/DPP a chofrestru ar ei gyfer, a chwblhau’r BSc (Anrh) mewn Plismona Proffesiynol. Deiliaid y cymhwyster hwn yw'r unig ymgeiswyr sydd â’r hawl i wneud cais i unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr ar y llwybr sy'n gofyn am gyflawni'r cymhwyster cyn gwneud cais. Mae PDC hefyd yn cynnig y cwrs hwn a gellir gweld rhagor o fanylion yma.

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH/PCSO)

(Opsiynau Prentisiaeth a Dim Prentisiaeth)

Bydd angen i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn fod yn SCCH newydd gyda'n lluoedd partner. Fel gyda Swyddogion yr Heddlu, mae recriwtio a chofrestru ar y cwrs yn dibynnu ar anghenion recriwtio’r gwahanol luoedd, a nhw felly sy’n penderfynu ar nifer y myfyrwyr a nhw sy’n dethol o blith ymgeiswyr. Mae'r cwrs 1 flwyddyn hwn yn cynnwys elfennau theori ac ymarfer.

O’i gwblhau, byddwch yn ennill Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Plismona Cymunedol, yn cwblhau cyfnod prawf y llu ac yn cael eich cadarnhau yn eich swydd. Os ydych ar y llwybr prentisiaeth, dyfarnir y brentisiaeth i chi hefyd, yn amodol ar gwblhau Asesiad Pwynt Terfyn yn llwyddiannus.

Bydd eich taith ddysgu yn cynnwys modiwlau academaidd sydd ag elfennau ymarferol ynddynt.  Bydd gofyn i chi ddangos cymhwysedd ymarferol drwy gwblhau Portffolio Cymwyseddau Gweithredol (PCG/OCP) o'r sgiliau rydych wedi'u harddangos yn y gweithle.  

Er mwyn cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus ac ennill y cymhwyster bydd angen i chi fod wedi dangos tystiolaeth o'r holl gymwyseddau sy'n seiliedig ar ymarfer a phasio'r holl fodiwlau academaidd. Bydd angen i brentisiaid ennill Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (lle nad ydynt eisoes wedi ennill cymwysterau cyfatebol) fel y’u nodir yng ngofynion y Coleg Heddlua ar gyfer y llwybr prentisiaeth. 

  • Gwybodaeth Blismona (SCCH)
  • Ymddygiadau Plismona (SCCH)
  • Sgiliau Plismona (SCCH)
  • Gweithrediadau Plismona (SCCH)
student-25

MAE DEFNYDDIO ISGONTRACTWYR

Mae defnyddio isgontractwyr wrth ddarparu prentisiaethau gradd weithiau'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y dysgu a'r profiad yn bodloni gofynion y deilliannau a'r safonau perthnasol. Dim ond pan fyddant mewn sefyllfa well i ddarparu cyfleoedd dysgu penodol neu os oes ganddynt arbenigedd i wella'r modd y cyflwynir y rhaglen y defnyddir isgontractwyr.