Prentisiaethau Gradd

RHESYMAU DROS IS-GONTRACTIO

Weithiau, mae’n hanfodol defnyddio is-gontractwyr wrth gynnal prentisiaethau er mwyn sicrhau bod y dysgu a’r profiad yn bodloni gofynion y deilliannau a’r safonau perthnasol.

Gradd-brentisiaethau Gwybodaeth i gyflogwyr
Two engineers consulting and exchanging repair experience with each other

Bydd is-gontractwyr ond yn cael eu defnyddio os ydynt yn gwella’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr neu’n llenwi bylchau mewn darpariaeth unigryw neu arbenigol.

Maen nhw’n darparu mynediad gwell i gyfleusterau hyfforddiant, mewn sefyllfa well i ddarparu’r cyfleoedd dysgu penodol neu’n arbenigo yn y maes, a fydd yn gwella cyflawniad y rhaglen. 

Mae’r perthynas rhwng partneriaid sy’n cael eu his-gontractio, a manylion eu cyfraniadau, ar gael I’w gweld yn y llawlyfr cwrs perthnasol. 

Mae trefn ariannol y drefn is-gontractio yn seiliedig ar yr adnodd amser sydd ei angen, a’r gefnogaeth sydd ei hangen i sicrhau bod modd dilyn safonau cyrff rheoleiddio a rheolau cyllid.  

Bydd y penderfyniad o ran is-gontractio yn cael ei drafod gyda’r cyflogwr cyn dechrau ar drefn is-gontract, ac ar gyfer pob trefn is-gontractio, bydd angen cael cytundeb ffurfiol gyda’r cyflogwr perthnasol sy’n nodi:

  • Swm y cyllid sydd a gedwir ar gyfer darpariaeth uniongyrchol
  • Swm y cyllid a delir i bob is-gontractwr cyflawni
  • Swm y cyllid a gedwir i reoli, cefnogi a monitor pob is-gontractwr cyflawni (ni fydd hyn yn fwy nag 20% o werth y contract).

Wrth bennu addasrwydd is-gontractwyr posibl, cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy, gan gynnwys ystyried unrhyw adroddiadau Ofsted perthnasol. Mae cytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol ar waith ar gyfer pob is-gontractwr cyflawni, sy’n cynnwys manylebau penodol ynghylch rheolau cyllid yr Asiantaeth Cyllido Sgiliau Addysg (ESFA). 

Bydd adroddiad amserol, yn unol â'r safon is-gontractio, yn cael ei baratoi gan archwilwyr allanol lle mae cyfanswm y contractau prentisiaeth gydag is-gontractwyr cyflenwi yn fwy na £100,000 mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sicrwydd o ran y trefniadau i reoli is-gontractwyr cyflawni, ac yn cydymffurfio â chanllawiau ESFA. 

Bydd darparwyr/cyflogwyr yn cael eu talu i wneud yn iawn am gostau uniongyrchol yn unig, fel y’i nodir yn rheolau cyllid ESFA. Mae’n rhaid dangos tystiolaeth o’r costau uniongyrchol wrth gyflawni er mwyn derbyn y taliad. 

Telir y cyfansymiau is-gontractio dros gyfnodau amser y cytunwyd arnynt, a byddant yn cydnabod hyd y cyfnod is-gontractio a chyflawniad deilliannau perthnasol. 

Fel prif ddarparwr, bydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhoi cefnogaeth, adnoddau ac offer I bartneriaid is-gontractio i fontiro cofrestriad, ansawdd, cynnydd, asesiad a chydymffurfiaeth cytundebol. Mae PDC wedi ymrwymo i sicrwydd ansawdd a gwelliant parhaus y rhaglen(ni).

Bydd PDC yn sicrhau bod yr is-gontractwr yn amodol ar broses ‘Diwydrwydd Dyladwy’ trylwyr ac:

  • Yn darparu gwasanaeth o safon
  • Ni fydd yn is-gontractio darpariaeth ymhellach i golegau neu sefydliadau hyfforddiant eraill
  • Penodi staff o’r radd flaenaf er mwyn darparu i ddysgwyr, ac yn rhoi gwybod i PDC os fydd y staff hyn yn newid
  • Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau PDC
  • Cydymffurfio â’r gyfraith e.e. Iechyd a Diogelwch, Diogelu Data, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Wedi cael asesiad risg.
  • Ar Gofrestr Darparwyr Dysgu’r DU,
  • Wedi cofrestru ar Gofrestr Sefydliadau Hyfforddi (ROTO) neu’r Gofrestr Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaeth (RoATP), os yw’r is-gontractwr angen contract gwerth mwy na £100,000 y flwyddyn.
  • Yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau ac yn deal y canlyniadau o unrhyw achos o dorri’r contract.

Bydd is-gontractwyr yn cymryd rhan mewn:

  • Diogelu dysgwyr (gan gynnwys cyfrifoldebau Prevent)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Gwiriadau sicrwydd ansawdd ac archwiliadau dirybudd a rheolaidd
  • Ymweliadau archwilio ar fyr rybudd
  • Arsylwi dysgu ac addysgu
  • Cyfarfodydd perfformiad
  • Arolygon boddhad dysgwyr

 

Prif Gwnstabl Dyfnaint a Chernyw

Prif Gwnstabl Dorset

Prif Gwnstabl Cwnstabliaeth Swydd Gaerloyw

Prif Gwnstabl Wiltshire

Archebwch eich ymgynghoriad am ddim

Ffoniwch ni

01443 482203

Mae slotiau un awr o hyd ar gael drwy Skype, Teams neu dros y ffôn. Cysylltwch â ni i drefnu eich ymgynghoriad am ddim.

E-bostiwch ni

Ffoniwch ni

01443 482203

Mae slotiau un awr o hyd ar gael drwy Skype, Teams neu dros y ffôn. Cysylltwch â ni i drefnu eich ymgynghoriad am ddim.