MAE CHWARAEON YN RHAN ALLWEDDOL O'R BRIFYSGOL. P’UN AI YDYCH YN EDRYCH I ASTUDIO CWRS CHWARAEON, YMUNO Â THÎM PRIFYSGOL NEU YMWELD Â’R GAMPFA.


Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau i gefnogi athletwyr perfformiad elitaidd a myfyrwyr sydd eisiau cadw'n heini ac iach. Nod Chwaraeon yn PDC yw darparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel i bawb.


Cyhoeddiadau 📢

📋 Parhewch i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

📞 Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaeth ar (01443) 482681 ar gyfer archebion ac ymholiadau. 




Mae iechyd a lles staff a myfyrwyr wrth galon ein hymdrechion i newid bywydau er gwell.

Ein nod yw cynnig amgylchedd sy'n cefnogi'r rhai sy'n segur ac sy'n dymuno cynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd ochr yn ochr â'r rhai sy'n dymuno cystadlu ar y lefel uchaf o chwaraeon.

Gweithgareddau a Dosbarthiadau

Gall myfyrwyr, staff, a'r cyhoedd yn gyffredinol fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ar y campws yn Nhrefforest. Rydym yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon dan do a gwasanaethau a ddarperir gan ein staff arbenigol cyfeillgar.

Cyn ymweld, rydym yn argymell adolygu ein gweithgareddau rhestredig a'u hargaeledd sy'n cynnwys dosbarthiadau iechyd a ffitrwydd, cyrsiau hyfforddi, a sesiynau hyfforddi personol. Gweler ein horiau agor.


Chwaraeon Perfformiad

performance-sport-block-3.jpg

Rydym yn cydnabod ac yn gwobrwyo cyflawniad chwaraeon. Rydym yn darparu cefnogaeth i unigolion i'w helpu i ragori yn eu gyrfaoedd chwaraeon ac academaidd..

Chwaraewch Chwaraeon

play-sport-block-4.jpg

Chwaraewch chwaraeon, ymunwch â'n tîm a chystadlu dros y Brifysgol. Mae gennym tua 60 o dimau yn chwarae yng nghynghreiriau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).



CYFLEUSTERAU CHWARAEON HEB EU HAIL SYDD WEDI EU HADEILADU I BWRPAS ER MWYN DARPARU OFFER SAFONOL PROFFESIYNOL I FYFYRWYR, STAFF AC ATHLETWYR ELITAIDD.


Mae ein cefndir chwaraeon, ein henw da rhagorol a'n cyfleusterau trawiadol yn ein gwneud yn ddewis gwych i ddarpar fyfyrwyr chwaraeon. Ni’n barod i adeiladu gyrfaoedd pobl a chwarae rhan yn eu hyfory.

Trwy ein cyfleusterau, addysgu a lleoliadau gwaith rydym yn cynnig addysgu ymarferol. Dysgwch mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r diwydiant. Mae ein partneriaethau gyda busnesau a chlybiau chwaraeon, yn lleol ac yn genedlaethol, yn golygu cyfleoedd di-ben-draw.

Trwy rwydweithio a lleoliadau gwaith byddwch yn fedrus, yn wybodus ac yn gyflogadwy. Mae ein graddedigion yn barod ar gyfer yfory.

Byddwch gam ar y blaen wrth chwilio am waith ac adeiladwch CV trawiadol yn ystod eich astudiaethau.


ryan-moon-quote-4-cymraeg

Mae gan y Brifysgol bartneriaethau trawiadol gyda sefydliadau chwaraeon lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Byddwch yn cael cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ardderchog. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn denu timau chwaraeon proffesiynol a rhyngwladol o bedwar ban byd.



Chwaraeon Cymdeithasol PDC