Os ydych yn arweinydd, yn rheolwr, neu’n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i sefydlu a gwthio newid trawsnewidiol o fewn eich sefydliad gofal iechyd, mae’r cwrs hwn i chi.

Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cefnogi arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i gael ‘meddylfryd digidol yn gyntaf’ i ail-lunio a gwella eu sefydliad a’u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, rhanddeiliaid, a gweithwyr.

Bydd y cwrs yn gwella eich ymwybyddiaeth o ddigido, yn rhoi cyfle i chi ddeall rheoli newid, yn dysgu chi sut i greu ac ail-lunio galluoedd newydd gan ddefnyddio technoleg ac yn eich trawsnewid i fod yn arweinydd â gweledigaeth.

I gefnogi eich taith ddysgu yn y ffordd orau, caiff y cwrs ei gyfleu drwy gyfrwng blociau dysgu dwys byr o hyd at bedair awr ar-lein yr wythnos, ac yn cael eu cefnogi gan fwy o gyfnodau estynedig o ymchwilio a chymhwyso.

Bydd modd i gyfranogwyr hefyd allu sicrhau Diploma Lefel 7 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheoli (mae ffioedd Cofrestru’n weithredol).

Dim ond ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru y mae cyllid ar gael. Tan mis Mawrth 2023 mae 75% o'ch cwrs yn cael ei ariannu a ddisgwylir i'ch cyflogwr ariannu'r 25% sy'n weddill.

I gael rhagor o wybodaeth am yr MSc Arwain Trawsnewid Digidol ymunwch â ni ar un o’n sesiynau gwybodaeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â'n darlithwyr a gofyn cwestiynau cyn i chi wneud cais.

2023 Dull Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
Rhan amser 2 blwyddyn Mawrth Ar-lein 8
Rhan amser 2 blwyddyn Medi Ar-lein 8
2024 Dull Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
Rhan amser 2 blwyddyn Mawrth Ar-lein 8
Rhan amser 2 blwyddyn Medi Ar-lein 8

l hyn olygu creu menter neu gyfle busnes newydd, arwain ymgyrch farchnata neu reoli tîm o Hyfforddwyr Cymunedol.

Mae’r cwrs yn defnyddio tri thrywydd pendant o astudiaeth sy’n sylfaen i hanfod trawsnewid digidol. Hynny yw:

  1. Arweinyddiaeth  
  2. Technoleg Ddigidol  
  3. Arloesi a Newid 

Mae’r tri thrywydd pendant yma’n cyfuno’n rheolaidd drwy gydol y cwrs fel heriau ymarferol sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio eu sefydliadau eu hunain i ganfod meysydd a allai fanteisio ar ymyriadau gan dechnoleg ddigidol i wneud gwelliannau a chael effaith sylweddol.

Arwain Trawsnewid Digidol - 20 Credyd

Swyddogaeth yr arweinydd yn y cyd-destun hwn yw datblygu ffyrdd newydd o feddwl, ysbrydoli, symbylu a gwthio newid trawsnewidiol yn ei flaen.  Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth a rhoi offer strategol i chi wneud hynny.

Ymhlith y themâu yn y modiwl hwn mae archwilio a datblygu eich sgiliau mewn ymarfer arweinyddiaeth hanfodol a’r elfennau allweddol i ysgogi ymgysylltu a newid trawsnewidiol yng nghyd-destun rhaglenni a phrosiectau digidol.

Archwilio Technoleg Ddigidol 1 (20 Credyd)

Mae’r modiwl hwn yn edrych ar elfennau allweddol gweithio’n ddigidol yn y Sector Iechyd a Gofal.  Gan ddefnyddio enghreifftiau byd-eang, rydym yn archwilio deall diwylliant ‘digidol’, a meddylfryd ‘digidol yn gyntaf’.

Ymhlith y themâu yn y modiwl hwn mae archwilio diffiniadau eang o ddigidol a chysyniadau allweddol, archwilio posibilrwydd digidol fel cysyniad, cyflwyniad i feysydd allweddol ‘y rhyngrwyd pethau’, archwilio technolegau a phosibiliadau amrywiol gan ddefnyddio astudiaethau achos priodol.

Meddylfryd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (20 Credyd)

Mae’n ofynnol mai man cychwyn unrhyw drawsnewid yw anghenion defnyddwyr gwasanaethau a datrys yr heriau a’r problemau maent yn eu hwynebu.   

Bydd y modiwl hwn yn cynnwys archwilio’r cylch dylunio, deall y broblem, dulliau ymchwil dylunio, cynhyrchu syniadau, mapio empathi a chyfweliadau ethnograffig, gwthio arloesi mewn ymateb i broblemau rhanddeiliaid allweddol, pwyslais ar weithio fel tîm.

Timau Arwain Trawsnewid Digidol (20 Credyd)

Ni all yr arweinydd wneud y cyfan.  Maen nhw angen tîm o arbenigwyr pwnc i ddatblygu a dylunio’r fenter gywir ac yna ei chyfleu.  

Mae’r modiwl yn cynnwys arweinyddiaeth a rheoli o fewn diwylliant digidol, ymarfer a phroses Agile, trawsnewid yr hunan/timau/diwylliant, rheoli prosiectau o fewn cyd-destun digidol a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Dylunio Profiad Defnyddiwr (20 Credyd)

Wrth archwilio modelau o osod eich hun yn sefyllfa eich defnyddwyr gwasanaeth rydym yn edrych ar gysyniadau ac ymarfer UX, gwella profiad defnyddwyr drwy ddylunio mewn ymateb i her allweddol gan grŵp y rhanddeiliaid ac astudiaethau achos o UX oddi mewn ac oddi allan i’r sector

Archwilio Technoleg Ddigidol 2 (20 Credyd)

Wrth dyrchu’n ddyfnach i fyd technoleg rydym yn cymryd golwg fanwl ar y maes digidol yn ymarferol a chyfrinach yr hyn sy’n bosibl drwy gyfrwng; archwiliadau o themâu a thechnolegau digidol amrywiol a datblygiadau’r dyfodol, Data Mawr, dadansoddeg data, delweddu data, AI, Diwydiant 4.0, technoleg Symudol 5G, seiber, moeseg, a diogelu data.

Prosiect Trawsnewid Digidol Cymhwysol a gynigir (20 Credyd) a Phrosiect Mawr Terfynol Trawsnewid Digidol (40 Credyd)

Yn y modiwl hwn sy’n seiliedig ar waith byddwch yn darganfod y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud i’ch sefydliad a’ch defnyddwyr gwasanaeth drwy ddechrau a datblygu Trawsnewid Digidol effeithiol ac arwain i gyfleu hynny.

Dysgu

Cyflwynir y cwrs ar-lein a chaiff ei addysgu am bedair awr dros ½ diwrnod yr wythnos. 

  • Bydd myfyrwyr sy'n dechrau ym mis Medi 2022 yn astudio ar ddydd Iau o 9am-1pm.
  • Bydd myfyrwyr sy'n dechrau ym mis Mawrth 2023 yn astudio ar ddydd Mercher o 9am-1pm.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn dod â gwesteion o'r sector gofal iechyd a diwydiannau eraill i mewn.

Asesu

Bydd cymysgedd o asesiadau yn cynnwys aseiniadau, cyflwyniadau, trafodaethau proffesiynol, a dyddlyfrau myfyrgar.

Darlithwyr 

Cefnogaeth

Bydd Hyfforddwr proffesiynol hefyd yn cael ei neilltuo i gydweithio â chi drwy gydol y rhaglen i’ch helpu i ymgorffori eich dysgu yn y gweithle.  Byddwch yn cwrdd â’ch hyfforddwr 6 gwaith dros y rhaglen 2 flynedd.  Byddwch hefyd yn rhan o setiau Dysgu Gweithredol ac yn cwrdd am hanner diwrnod bob 4 mis.


Rydym yn ailddilysu cyrsiau ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella ansawdd yn rheolaidd

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

I gael eich derbyn ar y cwrs MSc, fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar radd o leiaf anrhydedd 2il ddosbarth yn y DU neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol cydnabyddedig. Gellir hefyd ystyried profiad gwaith perthnasol a byddai pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol.

Ym mhob achos, bydd y Brifysgol yn bodloni ei hun bod ymgeisydd o'r safon academaidd ofynnol i gwblhau'r rhaglen astudio arfaethedig ac yn gallu bodloni Gofynion Iaith Saesneg y Brifysgol.

Mae ffioedd amser llawn yn flynyddol. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y ffi yn aros ar yr un gyfradd drwy gydol eich astudiaeth ar y cwrs hwn.

Ffioedd Awst 2021 - Gorffennaf 2022

Rhan-amser y DU: I'w gadarnhau

Awst 2022 - Gorffennaf 2023 Ffioedd

Rhan-amser y DU: I'w gadarnhau


Manteision Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydych chi'n buddsoddi mewn cymaint mwy na dim ond gradd. Rydym yn ymdrechu i roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr, ni waeth beth y dewiswch ei astudio. Boed yn fynediad i lyfrau Mac a Chyfrifiaduron Personol o’r radd flaenaf, cyfleusterau o’r radd flaenaf yn llawn offer a meddalwedd sy’n arwain y diwydiant, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, neu amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau i gwrdd â phobl o’r un anian, mae gwell yfory yn dechrau gyda manteision ychwanegol.

Mae gan bob cwrs hefyd eu buddion myfyrwyr unigryw eu hunain i'ch paratoi ar gyfer y byd go iawn, a gellir dod o hyd i fanylion y rhain ar ein tudalennau cwrs. O deithiau maes byd-eang, profiad gwaith integredig ac adnoddau rhad ac am ddim yn ymwneud â chyrsiau, i fentrau a ariennir, prosiectau sy'n gweithio gyda chyflogwyr go iawn, a chyfleoedd ar gyfer cymwysterau ac achrediadau ychwanegol - yn PDC mae eich dyfodol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am fanteision myfyrwyr yn PDC.

Costau Ychwanegol 

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

- Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ariannu costau teithio i elfennau preswyl y cwrs.

- Bydd angen i fyfyrwyr ariannu eu costau teithio a chynhaliaeth pan fyddant ar leoliad. Mae costau'n amrywio, yn dibynnu ar leoliad.

Cyllid

Cyllid i helpu i dalu am (neu orchuddio) ffioedd dysgu cwrs a chostau byw

Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

I ddysgu am ffioedd cyrsiau, opsiynau ariannu, ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i'n tudalennau Ffioedd a Chyllid.

Ariannu Arweiniad Trawsnewid Digidol

Dim ond ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru y mae cyllid ar gael. Tan mis Mawrth 2023 mae 75% o'ch cwrs yn cael ei ariannu a ddisgwylir i'ch cyflogwr ariannu'r 25% sy'n weddill."

Bydd yr holl fyfyrwyr ar y cwrs yn weithwyr proffesiynol profiadol o fewn y sector Iechyd a Gofal, sy’n parhau i gael eu cyflogi’n llawn yn ogystal ag amrywiaeth o gyfrifoldebau ychwanegol.

Gwnewch gais yn uniongyrchol gyda Phrifysgol De Cymru gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, lawrlwythwch lyfryn y cwrs neu e-bostiwch [email protected].

Mae’r pandemig Covid wedi cynnig symbyliad i sefydliadau wneud newidiadau.  Mae wedi rhoi cyfleoedd i ni fel nas gwelwyd o’r blaen i archwilio a defnyddio technolegau digidol yn y sector.  Mae Iechyd a Gofal angen ymagwedd newydd yn seiliedig ar y byd digidol.

Mae’r MSc yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinwyr hynod alluog ledled meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, 3ydd sector a diwydiant, gan addysgu’r sgiliau iddynt y byddant eu hangen i arwain trawsnewid digidol fel ymagwedd system gyfan. Bydd y cwrs yn eich paratoi i wthio ymlaen y newidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau yn y tymor hir, ar ôl Covid-19.  Mae hyn yn cynnwys archwilio technolegau newydd a meithrin diwylliant chwilfrydig ac arloesol mewn rhaglenni a fydd yn gwella bywyd dinasyddion Cymru. Bydd yn defnyddio dysgu ac yn profi ymagweddau newydd mewn arweinyddiaeth ddigidol a all fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn awr ac a fydd yn y dyfodol. Byddwch yn rhan o’r newid hwnnw!