Ysgolion a Cholegau

Cefnogaeth Cost Teithio Ysgolion a Cholegau

Cefnogaeth I ysgolion a cholegau gyda chostau trafnidiaeth I'n digwyddiadau ar-gampws.

Gwneud gais am gymorth teithio Ysgolion a Cholegau
A student sat on a bus looking out the window while on her phone

Rydym yn ymwybodol y gall costau trafnidiaeth yn aml fod yn rhwystr, ac rydym wir eisiau eich cefnogi lle bo modd i sicrhau bod eich disgyblion yn cael pob cyfle i brofi ein digwyddiadau ar y campws ar gyfer ysgolion a cholegau.

Mae’n bosibl y gallwn ad-dalu eich costau teithio hyd at 50% (telerau ac Amodau’n berthnasol).

Gwnewch Gais am Gymorth Teithio

Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn ymateb i chi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Gwnewch Gais am Gymorth Teithio

Telerau ac Amodau

Mae ad-dalu costau teithio ar gyfer ymweliadau ysgol a cholegau â'r campws yn ôl disgresiwn PDC.

Gellir ad-dalu costau teithio ar gyfer ymweliadau ysgol a cholegau hyd at uchafswm o 50%.

Does dim proses apelio ac mae penderfyniad PDC yn derfynol.

Mae'r ysgol / coleg / sefydliad yn gyfrifol am gael dyfynbris ar gyfer cludiant mewn cerbyd addas gyda chwmni cyfrifol ac anfonebu PDC am y swm y cytunwyd arno.