Dod yn Lysgennad Myfyrwyr
Bob blwyddyn rydym yn dibynnu ar ein Llysgenhadon Myfyrwyr brwdfrydig ac angerddol i rannu eu profiadau uniongyrchol o fywyd fel myfyriwr Prifysgol De Cymru. Fel Llysgennad Myfyrwyr byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gynrychioli'r Brifysgol a recriwtio darpar fyfyrwyr.
Ymgeisiwch yn AwrByddwch yn cael y cyfle i ennill profiad gwerthfawr, a dod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol De Cymru.
Dod yn Lysgennad Myfyrwyr
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i deithio, gan gynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau oddi ar y campws fel UCAS a Ffeiriau AU, yn ogystal â gweithgareddau allgymorth gydag ysgolion a cholegau.
O fewn y digwyddiadau hyn gallwch weithio mewn amrywiaeth o rolau o gyfarfod a chyfarch ymwelwyr a rheoli meysydd parcio, i ddarparu teithiau campws a llety. Efallai y gofynnir i chi hefyd gyflwyno sgwrs am eich pwnc neu eich profiad personol o fywyd myfyriwr.
Gan weithio mewn rolau amrywiol byddwch yn ennill profiad gwerthfawr a fydd yn helpu i adeiladu eich hyder, a datblygu eich sgiliau rhyngbersonol, arwain a gweithio mewn tîm.
Byddwn yn darparu hyfforddiant i chi ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, a byddwn yn gweithio gyda chi i nodi sut y gellir cymhwyso'r profiad a'r sgiliau a gawsoch fel Llysgennad Myfyrwyr i'ch CV a cheisiadau am swyddi yn y dyfodol.
Rydym yn chwilio’n benodol am fyfyrwyr sydd:
- yn falch ac yn angerddol am gynrychioli Prifysgol De Cymru
- yn rhagweithiol, yn hyderus, yn frwdfrydig ac yn ddifyr
- bod ag agwedd ‘hapus i helpu’
- yn broffesiynol, yn drefnus ac yn ddibynadwy
- meddu ar sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol
2. Bydd eich cais yn cael ei adolygu, ac os yw e'n foddhaol, byddwch yn cael gwahoddiad i sesiwn hyfforddi orfodol.
3. Yn dilyn y sesiwn hyfforddi, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fod yn Lysgenhadon Myfyrwyr.