Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ôl-raddedig

Bwrsariaeth Lydon Hodges

Ydych chi’n ystyried dyfodol ymchwil ôl-raddedig? Gyda dyfarndaliadau blynyddol o hyd at £2,000 ac ar gael i ddarpar fyfyrwyr ymchwil o bob disgyblaeth, gallai Bwrsari Lydon Hodges eich cynnal wrth i chi ddechrau ar eich taith ymchwil ôl-raddedig.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ôl-raddedig Ffioedd a Chyllid
A sunrise over the Ty Crawshay building in Treforest

Pan benderfynodd Mrs Nan Powell Hodges, Americanes o Seattle, Washington sefydlu Cronfa Lydon Hodges, ymrwymodd i fod y rhoddwr cychwynnol ar gyfer bwrsarïau i ysgolorion yn dechrau ar eu taith ymchwil ôl-raddedig.

Dywed Mrs Hodges: “Fe’m gwefreiddiwyd a’m trawyd gymaint gan lwyddiannau’r myfyrwyr mewn seremoni raddio y bûm i ynddi ym Mhrifysgol De Cymru, roeddwn am wneud cyfraniad. Gan wybod pa mor anodd yw hi i gael arian ar gyfer astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig, penderfynais mewn ymgynghoriad â PDC i ddechrau cronfa bwrsari ôl-raddedig ac i annog cyfeillion eraill i gyfrannu.” 

Mae’r rhodd gychwynnol a roddwyd yn hael gan Mrs Powell Hodges yn deyrnged i’w diweddar ŵr – yr academydd enwog a’r person gofal iechyd proffesiynol Dr Robert Manley Hodges – a hefyd er anrhydedd i Is-Ganghellor menywaidd gyntaf Prifysgol De Cymru, Yr Athro Y Fonesig Julie Lydon. 

I fod yn gymwys, bydd rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf isod:

Wedi gwneud cais am gwrs ymchwil ôl-raddedig llawn amser neu ran amser ym mlwyddyn academaidd 2025-26, yn cynnwys:

  • DBA
  • DPsych
  • Cwrs Meistr drwy Ymchwil 
  • MPhil
  • Doethuriaeth
  • Cael eich derbyn ar gwrs ymchwil ôl-raddedig, gyda mynediad yn y flwyddyn academaidd gyfredol (e.e. 2025-26)

Wedi graddio o Brifysgol De Cymru gyda gradd israddedig neu wedi cwblhau/ar fin cwblhau cwrs ôl-raddedig a addysgir gan Brifysgol De Cymru.

Bod yn breswylydd yn y DU. 

Sylwch nad yw hyn yn gyfyngiad o ran cenedligrwydd, dim ond o ran preswylio ac felly, dylai fod gan ymgeiswyr gyfeiriad post yn y DU adeg gwneud cais am y cwrs.

Yn hunan gyllido’r cwrs yn llwyr. 

Rhoddir £6,000 y flwyddyn i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gyda bwrsarïau unigol fel arfer yn £2,000 yr un. Aelodau’r panel fydd yn penderfynu ar faint y symiau unigol, ond ni fyddant yn llai na £1,000.

Y myfyriwr fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio swm y Bwrsari yn fwyaf priodol – ai drwy roi cymhorthdal tuag ymchwil neu brofiad gwaith, drwy gyfrannu at ffioedd astudio neu gyfrannu at gynhaliaeth yn ystod y cyfnod astudio.

Mae ceisiadau yn cau 30 Ebrill 2026.

Mae ceisiadau yn agored i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd wedi dechrau neu sy'n dechrau eu hastudiaethau o fewn blwyddyn academaidd 2025-26.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno crynodeb byr o tua 500 o eiriau yn amlinellu pam eu bod yn teimlo y bydd mynediad i gwrs ymchwil ôl-raddedig o fudd iddynt - yn bersonol neu'n broffesiynol, a sut y byddant yn mynd at eu hastudiaethau.

Cwblhewch y ffurflen gais yma.

Caiff rhannu’r Bwrsari ei benderfynu gan banel o nid llai na thri o bobl. Mae’r panel yn ystyried pob cais a wneir ar-lein a bydd aelodaeth y panel yn cynnwys cynrychiolaeth o gyfarwyddiaeth Menter ac Ymgysylltu’r Brifysgol, Swyddfa Ymchwil Graddedigion a’r corff Academaidd.

Y pwyslais i’r panel yw blaenoriaethu ymgeiswyr sy’n dangos sut mae astudiaethau ymchwil ôl-raddedig yn alluogydd personol neu broffesiynol. Nid yw effaith gymdeithasol ymchwil o reidrwydd yn sbardun i rannu’r Bwrsari o ystyried y newid cyson mewn tirwedd ymchwil a chymdeithas, ac anian bellgyrhaeddol cwblhau astudiaethau ymchwil. 

Byddai angen adroddiad byr yn dangos effaith y swm a roddwyd dim hwyrach na 12 mis ar ôl i’r Bwrsari gael ei roi. Byddai hyn yn gymorth i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’r Gronfa a byddai’n cael ei reoli gan y Tîm Ymgysylltu a Datblygu Alumni.