Ewch ati i feithrin yr hyder academaidd a'r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth lefel prifysgol, wrth ddatblygu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol a gyrfa mewn seicoleg.
Mae blwyddyn sylfaen y cwrs gradd Eiddo Tirol yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd o hyd, ac fe'i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BSc (Anrh) Eiddo Tirol.
Mae Syrfewyr Adeiladu’n rheoli’r Amgylchedd Adeiledig sy’n esblygu ac mae eu gwaith yn hollbwysig wrth i’r galw am ofod trefol gynyddu. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am reoli adeiladau, cadwraeth, diffygion, cynllunio ac adeiladu, sy’n wybodaeth allweddol yn y sector hwn.
Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gref o'r system cyfiawnder troseddol a'r cyfreithiau sy'n ei llunio. Byddwch yn dysgu sut mae tystiolaeth yn cael ei harchwilio a'i herio, gan ddatblygu'r sgiliau i feddwl yn glir, cwestiynu rhagdybiaethau, a gwneud penderfyniadau cyfrifol mewn sefyllfaoedd go iawn, gyda gwyddoniaeth yn cael ei defnyddio fel offeryn ymarferol ar hyd y ffordd.