Tirfesur Adeiladau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Chwaraewch eich rhan yn y gwaith o ddatblygu adeiladau yfory. Mireiniwch eich sgiliau a datblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes tirfesur adeiladau.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
K23F
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
48
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Côd UCAS
K23F
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
48
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Mae Syrfewyr Adeiladu’n rheoli’r Amgylchedd Adeiledig sy’n esblygu ac mae eu gwaith yn hollbwysig wrth i’r galw am ofod trefol gynyddu. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am reoli adeiladau, cadwraeth, diffygion, cynllunio ac adeiladu, sy’n wybodaeth allweddol yn y sector hwn.
Mae’r cwrs gradd Tirfesur Adeiladau ym Mhrifysgol De Cymru yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n awyddus i fod yn arolygwyr adeiladu proffesiynol. Mae'r rhaglen hon wedi'i theilwra ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb amlwg mewn adeiladu, eiddo, ac awydd i ddatblygu’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ym maes arolygu adeiladau.
Wedi’i achredu gan
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn archwilio heriau'r byd go iawn, yn meithrin sgiliau ymarferol, academaidd, a gwaith tîm, ac yn datblygu chwilfrydedd, hyder, a galluoedd datrys problemau, i baratoi ar gyfer astudio a chreu argraff yn y dyfodol.
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.
Camwch i mewn i'r amgylchedd adeiledig ac archwiliwch rolau o dirfesur i reoli gwaith adeiladu. Byddwch yn darganfod sut mae cynaliadwyedd a thechnoleg glyfar yn llunio penderfyniadau, wrth feithrin y sgiliau a'r hyder ar gyfer eich gradd.
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Am fanylion y modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gweler prif dudalen y cwrs.
Addysgu ac Asesu
Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol.
Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.
Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.
Rydym yn argymell eich bod yn treulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel rhan o’ch gradd rheoli prosiect. Yn ystod y flwyddyn ryngosod hon, byddwch yn cael profiad ymarferol a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr ac a fydd yn llywio eich astudiaethau yn eich blwyddyn olaf.
Gall ein swyddog lleoliadau gyrfaoedd pwrpasol eich helpu i ddod o hyd i leoliadau yn ystod y gwyliau.
Ar gyfer profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk QTO, CostX, Synchro, a Navisworks.
Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r technolegau digidol diweddaraf fel dronau, delweddu thermol, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.
O fis Medi 2026 ymlaen, bydd ein cyrsiau Cyfrifiadura, Peirianneg, Technoleg ac Amgylchedd Adeiledig yn symud i'w cartref newydd sbon: adeilad Calon.
Bydd y buddsoddiad hwn o £60m yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil arloesol newydd, gan gynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, yn ogystal â gallu realiti rhithwir, ac amrywiaeth o fannau arddangos.
Bydd Calon yn rhoi mynediad i chi at y dechnoleg, y cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd eu hangen i lunio'r dyfodol.
Arweinydd y Cwrs
Nicholas Grant Avon
Dyma Grant Avon, Aelod Siartredig CIOB ac Arweinydd Cwrs BSc (Anrh.) Tirfesur Adeiladau. Mae ganddo gefndir amrywiol mewn adeiladu, gan ymestyn ar draws y crefftau fel trydanwr ac adeiladwr cyn symud ymlaen i arolygu adeiladau ac ymgynghori. Ers ymuno â Phrifysgol De Cymru, mae wedi cyfuno arbenigedd diwydiant ac academaidd i ddarparu addysgu sy'n canolbwyntio ar ymarfer. Mae ei brofiadau'n cyflwyno mewnwelediad i’r diwydiant ac ymchwil cynaliadwyedd a chadwraeth i'r ystafell ddosbarth, i helpu myfyrwyr ymgysylltu â heriau'r amgylchedd adeiledig cyfoes. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Grant drwy e-bost.
Gofynion mynediad
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
DD
Bagloriaeth Cymru:
Amherthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Ddiploma BTEC Pasio Pasio
Mynediad i AU:
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS
Safon T:
Pasio (D neu E)
Ffioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Tirfesur Adeiladau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
-
Llawn Amser, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Tirfesur Adeiladau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
-
Llawn Amser, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion