Yn dangos 207 cwrs
Y Gyfraith Y Gyfraith a Throseddeg - LLB (Anrh)

Os ydych chi'n angerddol am y system cyfiawnder troseddol neu'n awyddus i archwilio cyfraith droseddol, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Yn canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol a throseddeg, mae'n cyfuno arbenigedd cyfreithiol gyda ffocws ar gyfraith droseddol a chyfiawnder, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes cyfreithiol. Gan gynnig gradd LLB gynhwysfawr yn y gyfraith, mae'r rhaglen hon yn pwysleisio Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg i roi'r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y system gyfreithiol.


Proffesiynau Iechyd Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL) - BSc (Anrh)

Lluniwyd y cwrs hwn i roi’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu darparu’r gofal mwyaf effeithiol a’r ymarfer mwyaf cyfredol â phosibl, gan eu galluogi i gymhwyso a gwneud cais i gofrestru fel Ymarferydd Adran Lawdriniaeth gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).


Y Gyfraith Ymarfer Cyfreithiol - LLM

LLM a gymeradwywyd gan Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (ARC) sy’n cwmpasu cyfraith busnes ac eiddo, ymgyfreitha, gweithdrefn llys ac ymchwil – sy’n eich arfogi a’r sgiliau a’r wybodaeth i gymhwyso fel cyfreithiwr.


Nyrsio Ymarfer Presgripsiynu Annibynnol - PGCert

Datblygwyd y cwrs hwn i adlewyrchu'r lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Rhagnodwr Annibynnol. Hanfod y cwrs hwn yw y bydd fferyllwyr, bydwragedd, nyrsys, parafeddygon a ffisiotherapyddion yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â'i gilydd a'u hasesu gan ddefnyddio'r un meini prawf asesu.


Nyrsio Ymarferydd Clinigol Uwch - MSc

Bydd yr MSc Ymarferydd Clinigol Uwch yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ar lefel uwch, a thrwy hynny fodloni'r gofynion a bennir gan yr Asiantaeth Arweinyddiaeth ac Arloesi Genedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd (NLIAH).


Gwyddoniaeth Ymchwiliad Fforensig - MSc

Dewch i ddysgu am ymchwiliadau fforensig yn y byd go iawn trwy ddulliau addysgu ymdrochol ac arbenigol, a phrofiad ymarferol.


Gwyddoniaeth Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Gynaliadwy - MSc

Mae’r radd Meistr mewn Ynni Adnewyddadwy wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC - canolfan flaenllaw a gydnabyddir yn rhyngwladol ers dros 30 mlynedd. Mae SERC hefyd yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig a Chanolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Adnewyddadwy Prifysgol De Cymru.