Ymchwiliad Fforensig
Mentrwch i faes ymchwiliadau fforensig ymdrochol, yn seiliedig ar brofiadau o’r byd go iawn. Datblygwch eich sgiliau meddwl beirniadol a defnyddiwch eich chwilfrydedd gyda thechnegau arloesol a gwaith achos ymarferol. Cydweithiwch gyda gwahanol ddisgyblaethau i ddatblygu sgiliau o safon y diwydiant gan ddefnyddio'r offer diweddaraf a sefyllfaoedd efelychiadol dilys.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson Agored Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,229*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Dewch i ddysgu am ymchwiliadau fforensig yn y byd go iawn trwy ddulliau addysgu ymdrochol ac arbenigol, a phrofiad ymarferol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion, gweithwyr proffesiynol yn y maes cyfiawnder troseddol, a phobl sydd am newid gyrfa ac angen hyfforddiant arbenigol mewn ymarfer ac ymchwiliadau fforensig. Yn addas ar gyfer pobl o amryw gefndiroedd, mae'n cefnogi dilyniant mewn rolau’n ymchwilio i leoliadau troseddu, yn plismona ac mewn gwasanaethau fforensig. Mae’n datblygu sgiliau uwch ym maes trin tystiolaeth, rheoli achosion, a chydweithredu aml-asiantaethol.
Llwybrau Gyrfa
- Ymchwiliwr Lleoliadau Troseddu
- Ymchwiliwr Cyhoeddus neu Breifat
- Y Gwasanaethau Brys
- Y Gwasanaeth Sifil
- Cyrff Llywodraethol
Sgiliau a Addysgir
- Cydweithio
- Cyfathrebu effeithiol
- Rheoli amser
- Meddwl yn feirniadol
- Arwain
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Cwrs
Byddwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau uwch ar gyfer ymchwiliadau i leoliadau troseddu, dehongli tystiolaeth, rheoli achosion, a gweithio aml-asiantaethol. Mae myfyrwyr yn dysgu gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol, cyfleu canfyddiadau, a gweithredu'n foesegol mewn ymchwiliadau cymhleth. Mae dysgu ymdrochol, ymarferol a phrosiect ymchwil yn paratoi graddedigion ar gyfer rolau o fewn y sectorau fforensig, plismona a chyfiawnder troseddol.
Ymchwiliadau Uwch i Leoliadau Troseddu
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau uwch ar gyfer rheoli lleoliadau troseddu cymhleth, ac yn cwmpasu strategaethau fforensig, gwneud penderfyniadau, rhagfarn wybyddol, dehongli tystiolaeth, ac effaith seicolegol ymchwiliadau ar weithwyr proffesiynol lleoliadau troseddu.
Tystiolaeth Fforensig mewn Ymchwiliadau
Byddwch yn archwilio’r gwahanol fathau o dystiolaeth fforensig ddatblygedig, gan gynnwys DNA, olion bysedd, digidol a chyffuriau. Byddwch yn dysgu sut i gasglu, dehongli a defnyddio tystiolaeth o fewn fframweithiau cyfreithiol, gyda phwyslais ar sicrhau ansawdd, rheoleiddio, ac achrediadau fforensig yn y DU.
Technegau Ymchwilio a Chyflwyno Tystiolaeth
Byddwch yn datblygu arbenigedd ymchwilio trwy waith achos go iawn ac efelychiadau, gyda ffocws ar gyfweld, cydlynu rhwng aml-asiantaethau, a sgiliau llys. Mae pwyslais ar feddwl yn feirniadol, rheoli tystiolaeth, a chyflwyno moesegol ac effeithiol o fewn fframweithiau cyfreithiol.
Ymchwiliadau Tân, Ffrwydradau, ac achosion Cemegol, Biolegol, Radiolegol, Niwclear a Ffrwydrol (CBRNe)
Byddwch yn astudio ymchwiliadau tân, ffrwydradau a CBRNe trwy wyddor hylosgi, rheoli lleoliadau troseddu, ac adfer tystiolaeth. Byddwch yn dysgu sut i reoli digwyddiadau peryglus a chynnal diogelwch, integriti tystiolaeth, a thrylwyredd wrth ymchwilio.
Ymchwil a Datblygu o fewn Ymchwiliadau Fforensig
Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol, rhyngddisgyblaethol, yn datblygu a gwerthuso methodolegau fforensig. Byddwch yn ennill sgiliau dadansoddi data, cyfathrebu gwyddonol, a chyflwyno canfyddiadau i safon broffesiynol trwy gyfrwng adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Addysgu ac Asesu
Mae ein cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad deinamig o addysgu wyneb yn wyneb, dysgu ar-lein, a gweithdai ymarferol, gan ddefnyddio astudiaethau achos go iawn ac efelychiadau ymdrochol. Cewch fudd o brofiad ymarferol yn ein cyfleusterau a labordai lleoliadau troseddau arloesol, dan arweiniad staff sydd ag arbenigedd yn y byd go iawn.
Mae’r addysgu yn rhyngddisgyblaethol ac yn seiliedig ar heriau, yn hyrwyddo meddwl beirniadol, cydweithredu, ac ymwybyddiaeth foesegol. Mae'r asesiadau’n amrywiol ac wedi'u cynllunio i adlewyrchu ymarfer proffesiynol. Maen nhw’n cynnwys tasgau ymarferol, adroddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth, cofnodion adfyfyriol, cyflwyniadau, a phrosiectau ymchwil academaidd. Mae'r dulliau hyn yn sicrhau y byddwch yn datblygu hyder a gallu mewn ymchwiliadau fforensig, ac maen nhw wedi'u seilio ar safonau diweddaraf y diwydiant a chyd-destun ymchwiliadau go iawn.
Staff addysgu
Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm amrywiol o academyddion ac ymarferwyr profiadol sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant, gwyddonwyr sy'n cyfuno gwybodaeth academaidd ag ymarfer proffesiynol, ac addysgwyr medrus ac effeithiol â ffocws arnoch chi’r myfyrwyr. Drwy ddefnyddio ein rhwydweithiau proffesiynol cryf, byddwch hefyd yn dysgu'n uniongyrchol gan arbenigwyr fforensig allanol o wahanol sectorau.
Cyfleusterau
Mae ein cwrs yn cynnig hyfforddiant ymarferol gydag offer arbenigol fel y rhai sy’n cael eu ddefnyddio mewn ymchwiliadau fforensig. Gallwch fynd i'r afael â sefyllfaoedd realistig yn ein tŷ lleoliadau troseddu pwrpasol, digwyddiadau efelychiadol yn yr awyr agored a gyda cherbydau, a lleoliadau tanau efelychiadol. Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth a defnyddio ein labordai sydd â thechnoleg ddatblygedig ynddyn nhw, cyfleusterau efelychu, ac offer digidol.
O'r archwiliad cyntaf o’r lleoliad troseddu i’r gwaith o ysgrifennu’r adroddiad terfynol, byddwch yn cael profiad llawn o brosesau ymchwiliadau. Mae'r cyfleusterau hefyd yn cynnwys ein hyb arloesi a'n labordai cyfrifiadurol, i gyd wedi'u cynllunio i adlewyrchu arferion gwaith y byd go iawn. Mae'r amgylchedd ymdrochol hwn yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau ymarferol a'r hyder sydd eu hangen i weithredu'n effeithiol yn lleoliadau ymchwiliadau fforensig a throseddol.
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd BSc (Anrh) 2:2 o leiaf mewn pwnc sy'n seiliedig ar wyddoniaeth fel gwyddoniaeth fforensig, cemeg, bioleg, neu ymchwiliad fforensig. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion o ddisgyblaethau eraill, gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol neu feysydd cysylltiedig, yn enwedig lle gall ymgeiswyr ddangos gwybodaeth berthnasol, profiad, neu ddiddordeb cryf mewn ymchwilio fforensig.
Croesewir ceisiadau gan ddysgwyr sy'n dychwelyd neu'r rhai â chefndiroedd academaidd annhraddodiadol, yn enwedig lle gall dysgu profiadol neu ymarfer diwydiant gefnogi mynediad academaidd.
Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol. Mae angen IELTS 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran (neu gyfwerth).
Gwybodaeth Ychwanegol:
Nid oes angen gwiriad DBS ar gyfer mynediad ar gyfer y cwrs hwn. Fodd bynnag, gall rhai euogfarnau troseddol effeithio ar rai gyrfaoedd. Os oes gennych euogfarn ac yn ystyried llwybr gyrfa penodol, rydym yn cynghori gwirio gyda'r corff proffesiynol neu'r cyflogwr perthnasol i ddeall eu polisïau recriwtio.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£11,060
fesul blwyddyn*£1,229
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae'r Adran yn darparu gorchuddion labordy cotwm addas a sbectol diogelwch ar gyfer defnydd myfyrwyr; felly, ni fydd angen prynu'r eitemau hyn. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ddewis prynu eu rhai eu hunain os ydynt yn dymuno. Mewn ambell achos, efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n cynnal prosiectau wedi'u seilio ar y diwydiant gael offer amddiffynnol personol ychwanegol fel y nodir gan y sefydliad cynnal.
Cost: Amrywiol
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.