BA (Anrh)

Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Mae’r Flwyddyn Sylfaen mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd, ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni’r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BA (Anrh) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Siarad â ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    F430

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus hwn yn eich galluogi chi i archwilio meysydd gan gynnwys cymdeithaseg, y gyfraith a pholisi cymdeithasol, ochr yn ochr â rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i ddilyn cwrs Gradd a chael y cyfle i gyflawni eich dyheadau.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Trosolwg o’r Modiwl

Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl, a fydd yn cael eu hasesu drwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau. Mae'r modiwl sgiliau astudio wedi'i gynllunio i'ch helpu gydag arholiadau a thechnegau adolygu, yn ogystal â sgiliau sy'n cynnwys cymryd nodiadau, ysgrifennu traethodau, cyfeirio a chynllunio aseiniadau.

  • Sgiliau Astudio
  • Prosiect Ymchwilio
  • Seicoleg
  • Cymdeithaseg
  • Y Gyfraith mewn Cyd-destun
  • Polisi Cymdeithasol

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch yn dysgu drwy ddarlithoedd a seminarau, ac yn cymryd rhan weithredol mewn dulliau dysgu drwy astudio unigol, a chyflwyniadau ysgrifenedig a llafar. Byddwch hefyd yn meithrin profiad mewn gwaith grŵp a gweithdai.

Bydd y modiwl sgiliau astudio hefyd yn eich helpu gyda thechnegau arholi ac adolygu, yn ogystal â sgiliau fel cymryd nodiadau, ysgrifennu traethodau, cyfeirio, a chynllunio aseiniadau.

Asesiad

Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cefnogaeth Gyrfaoedd

Fel myfyriwr gwasanaethau cyhoeddus PDC, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. 

Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un-i-un gan Gynghorwyr Gyrfa yn y gyfadran, wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu hyd yn oed ar Skype a thrwy e-bost drwy'r gwasanaeth "Gofyn Cwestiwn". Mae gennym hefyd lawer o adnoddau ar-lein i helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae adnoddau'n cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, lluniwr CV, efelychydd cyfweliad a chymorth i wneud cais. Mae gan ein cronfa ddata cyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy’n targedu myfyrwyr PDC. Gallwch gael negeseuon e-bost yn hysbysebu swyddi bob wythnos. 

Mae gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd dimau penodol: Tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter sy'n canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth. 

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau tariff UCAS: 48

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
  • BTEC: BTEC Diploma Estynedig Pas Pas Pas
  • Mynediad i AU: Llwyddo Diploma Mynediad i AU

Gofynion ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 


Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.