Cyfleusterau ac Offer i’w Llogi
Mae gan Brifysgol De Cymru gyfleusterau ac offer o’r radd flaenaf sydd ar gael i’w llogi gan sefydliadau allanol fel diwydiant, elusennau a chwmnïau cynhyrchu cyfryngau.
LLEOLIADAU A CHYFLEUSTERAU Cysylltu â NiP'un a ydych yn chwilio am labordai ac offer gwyddonol o'r radd flaenaf, neu am gael mynediad i theatr, stiwdios neu gyfleusterau chwaraeon, gallwn helpu.
Campws Caerdydd
Ydych chi’n chwilio am leoliad trawiadol i gynnal seremoni wobrwyo? Neu ydych chi’n dechrau podlediad ac angen offer sain i sicrhau cynhyrchiad proffesiynol? Campws Caerdydd yw cartref ein holl gyfleusterau creadigol.
Campws Glyn-taf
Mae’r cyfleusterau a’r offer sydd ar Gampws Glyn-taf yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, gan gynnwys gwyddoniaeth fforensig, gwyddorau deunyddiau, cemeg, cynhyrchion fferyllol, meddygol, bwyd, electroneg, modurol, peirianneg, a llawer mwy.
Campws Trefforest
Mae ein cyfarpar labordy seicolegol a'n hefelychydd hedfan o'r radd flaenaf wedi'u lleoli ar Gampws Trefforest.
Mae gennym restr hir o gyfleusterau ac offer sydd ar gael i’w llogi. Os oes angen unrhyw beth nad yw wedi'i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â ni i gael rhestr lawn o'r hyn y gallwn ei gynnig ac i archwilio opsiynau.