Llety i Grwpiau
Bob haf, yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, mae Prifysgol De Cymru yn cynnig dros 500 o ystafelloedd gwely sengl en-suite ar gyfer archebion grŵp i bobl sy'n ymweld â De Cymru.
Lleoliadau a Chyfleusterau
P’un a oes angen gwely a brecwast neu ystafell yn unig arnoch, mae ein hystafelloedd gwely 20 munud yn unig o Ganol Dinas Caerdydd a dim ond munudau o draffordd yr M4.
Mae'r ystafelloedd fforddiadwy hyn ar gael ar sail ystafell yn unig, gwely a brecwast, neu fwrdd llawn. Mae'r llety wedi'i drefnu’n fflatiau, pob un yn cynnwys 5 neu 6 ystafell wely en-suite gyda chegin a rennir.
Mae cyfleusterau ar y campws yn cynnwys campfa, bar, siop gyfleus, canolfan gynadledda, a chaffeteria eang.
Am argaeledd a phrisiau, cysylltwch â ni trwy [email protected] neu ffoniwch 01443 482002.