Prentisiaethau
Fel darparwr hyfforddiant blaenllaw, rydym yn cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau hyfforddi a datblygu sy’n helpu i gefnogi a gwella sgiliau aelodau presennol eich tîm a denu talent newydd i’ch busnes.
Mynediad at Dalent Ymholwch Nawr/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/Newport-Student-Life_50409.jpg)
Mae prentisiaethau’n darparu sail ar gyfer dysgu yn y gwaith wrth ymgymryd â chymhwyster i wella gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad dysgwr
Ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich gweithlu?
Mae rhaglen brentisiaeth yn fframwaith datblygu a ariennir yn llawn lle mae unigolion yn datblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau newydd naill ai mewn rôl bresennol neu i ddatblygu i’r lefel nesaf. Fel arfer, mae tair elfen i’r fframwaith (yn ddibynnol ar y maes pwnc). Y tair elfen yw rhaglen dechnegol (a addysgir), elfen dysgu seiliedig ar waith a sgiliau hanfodol. Mae’r rhaglen ddysgu hon yn para rhwng 1 a 2 flynedd, yn dibynnu ar y llwybr a’r lefel.
Mae ein rhaglenni dysgu yn cynnwys dull arbrofol i ddysgwyr, a gyflwynir naill ai drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir, darpariaeth wyneb yn wyneb neu fel datrysiad cyfunol.
Dyma’r prentisiaethau sydd ar gael:
- Diplomâu Lefel 3 a Lefel 5 mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
- Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau
- Diplomâu Lefel 3, 4 a 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Rydym ni’n gweithio gyda chi i ddatblygu prentisiaethau pwrpasol sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr i ddiwallu eich anghenion ac i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael. Rydym yn gwneud hyn drwy gynllunio eich rhaglen ddysgu yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori eich gwerthoedd, eich strategaethau, ac unrhyw fframweithiau mewn amserlen gyflawni sy’n gweithio i chi. Rydym ni’n mapio’r rhaglen bwrpasol hon yn y fframwaith prentisiaeth ar y lefel briodol ac yn gweithio gyda’n dysgwyr i’w helpu i gyflawni, gan wreiddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hymddygiad yn eu harferion yn y gweithle.