Polisïau a Rheoliadau
Rheoliadau Cyfrifiaduron
Rheoliadau Cyfrifiadura Technoleg Gwybodaeth
Rheoliadau Cyfrifiadura Technoleg Gwybodaeth – NODIADAU CANLLAW
Polisïau
Polisi Diogelu Gwybodaeth
Polisi Benthyca Cyfarpar Cyfryngau – Atebolrwydd dros Golled neu Ddifrod
Polisi Diogelu Dyfeisiau Symudol
Polisi Cyfryngau Cymdeithasol
Polisïau Meddalwedd
Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i drafodion ar-lein a wneir gyda Phrifysgol De Cymru ar gyfer prynu credyd argraffu.
Darparu credyd argraffu
- Fel arfer caiff eich cyfrif argraffu ei gredydu o fewn uchafswm o awr ar ôl cael eich hysbysu bod y taliad wedi’i awdurdodi gan eich darparwr cerdyn debyd neu gredyd.
- Ni allwn dderbyn atebolrwydd am daliad nad yw’n cael ei gredydu i’ch cyfrif argraffu am eich bod wedi rhoi’r manylion anghywir.
- Os na fyddwch yn derbyn credyd argraffu, dylech hysbysu Gwasanaethau Argraffu a Dylunio Prifysgol De Cymru, sydd wedi’i leoli ar Central Avenue campws Trefforest yn L001, [email protected] o fewn 24 awr i gwblhau’r trafodiad.
Ad-daliadau
- Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am ad-daliadau sy’n ymwneud â gwasanaethau Argraffu a Dylunio Prifysgol De Cymru drwy anfon e-bost at [email protected].
- Dim ond i’r cerdyn credyd / debyd a ddefnyddiwyd i brynu’r credyd argraffu y caiff ad-daliadau Credyd Argraffu Prifysgol De Cymru eu gwneud, a hynny ar-lein. Caiff ad-daliadau eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith i’r cais. Ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gyflwyno ad-daliadau yn hwyr.
- Dim ond credydau argraffu a brynwyd yn electronig y gellid eu had-dalu. Ni wneir unrhyw ad-daliadau am gredydau a brynwyd o giosgau arian parod o fewn y llyfrgelloedd a’r ystafell TG.
- Ni wneir unrhyw ad-daliadau am falansau credyd a brynwyd yn electronig sy’n werth llai na £5.00.
- Pan wneir cais am ad-daliad, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddebydu swm llawn yr ad-daliad o gyfrif argraffu’r myfyriwr cyn rhoi’r ad-daliad ar gerdyn debyd/credyd y myfyriwr.
- Dim ond am werthoedd hyd at y trafodiad prynu diwethaf sy’n ymddangos ar gyfrif argraffu’r myfyriwr y caiff ad-daliadau eu gwneud. Os bydd cyfrif y myfyriwr yn parhau i fod mewn credyd ar ôl yr ad-daliad cychwynnol, gall y myfyriwr ailadrodd y broses o wneud cais am ad-daliad nes bod balans y cyfrif wedi’i glirio.
- Mae’n rhaid canslo pryniannau credyd argraffu o fewn 7 diwrnod i gwblhau’r broses o brynu credyd er mwyn bod yn gymwys i gael ad-daliad llawn. Ni fydd gan y unrhyw rwymedigaeth neu atebolrwydd i’r Brifysgol. Fodd bynnag, ni ellir canslo os bydd credydau argraffu wedi’u defnyddio eisoes. Os bydd angen ad-daliad oherwydd canslo pryniannau, mae’n rhaid i’r myfyriwr anfon e-bost at [email protected].
Canslo
- Gallwch ganslo eich pryniant o fewn 7 diwrnod gwaith i gwblhau eich pryniant heb rwymedigaeth neu atebolrwydd i’r Brifysgol. Fodd bynnag, ni allwch ganslo eich pryniant ar ôl i chi ddechrau ei ddefnyddio. Os byddwch eisiau canslo, yna mae’n rhaid dilyn y polisi ad-dalu.
Talu
- Bydd systemau prynu credyd i argraffu ar-lein y Brifysgol yn eich hysbysu am ganlyniad y trafodiad talu drwy dudalen we ar ôl rhoi manylion eich cerdyn. Os bydd y trafodiad yn llwyddiannus, anfonir derbynneb dros e-bost hefyd i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cyfeiriad e-bost a ddarperir yn gywir. Ni all y Brifysgol dderbyn atebolrwydd os caiff taliad ei wrthod gan gyflenwr eich cerdyn credyd/debyd am unrhyw reswm.
- Os bydd cyflenwr eich cerdyn yn gwrthod gwneud taliad, nid yw’r Brifysgol o dan rwymedigaeth i egluro’r rheswm pam. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylech gysylltu â chyflenwr eich cerdyn credyd/debyd.
- Os bydd cyflenwr eich cerdyn yn gwrthod gwneud taliad, rhoddir cyfle i chi ddefnyddio cerdyn arall neu gallwch ganslo’r trafodiad.
- Ni fydd trafodiadau sydd wedi’u canslo yn ymddangos ar eich hanes trafodiadau.
Cyffredinol
- Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ganslo’r gwasanaeth mewn achos o streic, cloi allan, anhrefn, tân, ffrwydrad, damwain neu orfod stopio neu achos sy’n effeithio ar fusnes neu waith y Brifysgol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth resymol ac sy’n atal neu’n rhwystro’r posibilrwydd o gredydu eich cyfrif argraffu.
- Mae’r holl gynnwys, gan gynnwys lluniau, dyluniadau, logos, ffotograffau, testun a ysgrifennwyd a deunyddiau eraill ar wefan y Brifysgol yn berchen i ac yn cael eu rheoli neu eu trwyddedu gan y Brifysgol neu ei chyflenwyr. Cânt eu hamddiffyn gan hawlfraint, nodau masnach a hawliau eiddo deallusol eraill. Caiff gwefan y banc ei hamddiffyn yn yr un modd. Ni chaniateir defnyddio’r cynnwys hwn heb awdurdod.
- Dim ond at ddibenion cofnodi eich taliad y caiff y data a ddarperir yn ystod y trafodiad ei ddefnyddio. Byddwn yn cadw at egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998 a sicrhau nad yw’r data yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben arall na’u datgelu i drydydd parti, oni fydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyfer y datgeliad hwnnw.
- Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw fethiant gan y myfyriwr neu unrhyw drydydd parti sy’n gwneud taliad i ddiogelu’r data yn briodol rhag cael ei weld ar y sgrin gan bobl eraill neu rhag i bobl eraill gael gafael arnynt mewn ffyrdd eraill, yn ystod y broses o Dalu Ar-lein neu mewn perthynas â pheidio â darparu gwybodaeth gywir yn ystod y broses o Dalu Ar-lein.
- I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, mae’r Brifysgol yn darparu’r wefan hon, ei chynnwys a’i chyfleuster talu am argraffu ar-lein ar sail ‘fel ag y mae’ ac nid yw’n gwneud unrhyw gynrychioliadau neu warantau (ac mae’n gwadu unrhyw gynrychioliadau neu warantau) o unrhyw fath, a fynegir neu a awgrymir, mewn perthynas â’r wefan hon neu’r wybodaeth, cynnwys, cynnyrch neu wasanaethau a gynhwysir yn y wefan hon.
- Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i roi terfyn ar y trafodiad os na fydd porth talu’r masnachwr ar gael. Yn yr achos hwn, byddai’r Brifysgol yn cynghori nad oes unrhyw daliad wedi cael ei gymryd o’r cyfrif a dylai’r trafodiad gael ei wneud yn ddiweddarach.
- Mae’r contract hwn yn gontract rhwng y Prynwr a’r Brifysgol. Pan fydd y Prynwr yn ymweld â’r wefan hon neu’n anfon negeseuon e-bost at y Brifysgol, mae’r Prynwr yn cyfathrebu â’r Brifysgol yn electronig. Bydd y Brifysgol yn cyfathrebu â’r Prynwr drwy e-bost. At ddibenion cytundebol, mae’r Prynwr yn rhoi caniatâd i dderbyn negeseuon oddi wrth y Brifysgol yn electronig ac yn cytuno bod unrhyw gytundeb, hysbysiad, datgeliad neu ohebiaeth arall a ddarperir gan y Brifysgol i’r Prynwr yn electronig yn bodloni unrhyw ofyniad cyfreithiol sy’n nodi bod angen i ohebiaeth o’r fath fod yn ysgrifenedig. Nid yw’r amod hwn yn effeithio ar hawliau statudol y Prynwr.
- Os na ellid gorfodi unrhyw ran o’r telerau hyn, ni fydd hynny’n effeithio ar orfodadwyedd unrhyw ran arall o’r amodau hyn.
- Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i amrywio’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich hysbysu drwy gyhoeddi’r Telerau ac Amodau newydd ar y wefan. Eich cyfrifoldeb chi yw adolygu’r rhain yn rheolaidd cyn prynu er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Os nad ydych yn dymuno cael eich llywodraethu gan y Telerau ac Amodau diwygiedig, ni ddylech wneud rhagor o bryniannau.
- Caiff y contract ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw i ymdrin ag unrhyw anghydfod a allai godi o’r contract neu mewn perthynas â’r contract hwnnw.