Digwyddiadau a Gweithgareddau Gyrfaoedd
Codwch broffil eich sefydliad a'ch cyfleoedd trwy ymgysylltu â'n myfyrwyr mewn digwyddiadau a gweithgareddau eraill. Gweithiwch gyda ni i ddatblygu'r cyflenwad talent sydd ei angen arnoch trwy feithrin perthnasoedd â'n cyrsiau.
Gellir bwcio'r digwyddiadau canlynol trwy ein system CareersConnect.
Ffeiriau Gyrfaoedd - cyfle i gwrdd â'n myfyrwyr wyneb yn wyneb i hyrwyddo eich lleoliadau a chyfleoedd i raddedigion yn ein Ffeiriau Hydref a Gwanwyn.
Ffeiriau Profiad Gwaith - cyfle i gwrdd â'n myfyrwyr wyneb yn wyneb i hyrwyddo eich cyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli.
Ffeiriau Swyddi Rhan Amser - cyfle i recriwtio ein myfyrwyr i'ch rolau rhan-amser yn ein Ffeiriau Swyddi Rhan Amser.
Stondinau Naid Cyflogwyr - cynhaliwch stondin mewn lleoliad prysur lle gallwch gwrdd â myfyrwyr yn anffurfiol. I fwcio lle ar gampws Trefforest defnyddiwch CareersConnect, anfonwch e-bost i ofyn am leoliadau eraill [email protected].
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau neu weithgareddau eraill fel y rhai isod, e-bostiwch [email protected].
Cyflwyniadau / Gweminarau - rhowch sgwrs fer ar eich sefydliad a'ch cyfleoedd gan roi cipolwg ar eich prosesau recriwtio a dethol.
Digwyddiadau Annibynnol - rydym yn hapus i hyrwyddo eich digwyddiadau annibynnol drwy ein calendr digwyddiadau.
Sesiwn Sgiliau - cynhaliwch weithdy rhyngweithiol i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer gweithgareddau recriwtio a dethol megis ceisiadau, canolfannau asesu, cyfweliadau, cyfweliadau fideo, profion seicometrig ac ati.
Ffug Gyfweliadau - mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi adborth adeiladol gan gyflogwyr i helpu i ddatblygu eu sgiliau.
Darlithoedd Gwadd - mae llawer o'n cyrsiau yn cynnig cyfleoedd i weithwyr proffesiynol y diwydiant gyflwyno sgyrsiau gan arbenigwyr pwnc neu ddosbarthiadau meistr o fewn y cwricwlwm.