Llyfrgell Caerdydd
Sut i ddod o hyd i ni
Wedi'i leoli yng nghanol Canol Dinas Caerdydd, mae'n hawdd cyrraedd y campws mewn car ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol.
Mae'r Llyfrgell ar lawr gwaelod adeilad ATRiuM yng nghanol dinas Caerdydd.
Prifysgol De Cymru
86-88 Adam St.
Caerdydd
CF24 2FN
Mannau Astudio
Mae gan Lyfrgell Caerdydd wahanol fathau o leoedd astudio sy'n addas i'ch anghenion. Does dim angen archebu lleoedd unigol dim ond galw i mewn. Gallwch hefyd archebu lle astudio grŵp gan ddefnyddio Connect2.
Archebu lle astudio grŵp gan ddefnyddio Connect2- Astudio Tawel - Mae ystafell astudio tawel yn y llyfrgell.
- Cyfrifiaduron Personol a Macs - mae Cyfrifiaduron Personol a Macs ar gael ym mhob rhan o'r llyfrgell.
- Bariau Gliniaduron - Mae gan y bar gliniaduron sydd wedi'i leoli'n ganolog ddigon o socedi pŵer ar gael i'w defnyddio ar gyfer gliniaduron/llechi (19 sedd ar gael).
- Podiau - Mae 4 pod astudio y gellir eu harchebu gyda socedi pŵer, cylchrediad aer addasadwy a goleuadau (2 bod mawr – lle i 6 eistedd a 2 bod bach – lle i 4 eistedd).
- Bythau cwtsio - Mae yna 10 bwth gwaith CWTSIO uchel mewn lliw mafon, siarcol, gwyrdd y goedwig a glas yr Aifft i weddu i'ch hwyliau astudio.
- Gofodau gwaith grŵp - ar gael o amgylch y llyfrgell.
Parcio
Mae lleoedd parcio i'r anabl yn y maes parcio yng nghefn yr adeilad.
Rhoddir trwyddedau parcio i'r anabl yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sydd â bathodyn glas (y mae'n rhaid darparu copi ohono) i'w galluogi i barcio ar y campws. Am fwy o wybodaeth ewch i Parcio i Fyfyrwyr.
Mynediad cyffredinol
Mae gan y llyfrgell fynedfa ar y llawr gwaelod gyda mynediad ramp. Mae'r llyfrgell ar un llawr
Byrddau addasadwy
Cyfrifiaduron a desgiau y gellir addasu eu huchder
Gwacáu mewn achos o Dân
Mae cadeiriau achub ar gael ar gyfer defnyddwyr â chyfyngiadau symudedd ac mae llwybrau allanfa amgen ar gael o bob rhan o'r adeiladau mewn argyfwng.
Toiledau
Mae toiledau â mynediad i'r anabl ar lawr gwaelod y prif adeilad.
Casgliad Stuart Morgan
Mae'r casgliad hwn o gatalogau arddangos o'r 1980au a'r 1990au, a roddwyd gan deulu'r awdur, yn cynnwys rhai wedi'u curadu gan yr awdur. Mae rhai o'i ysgrifau dethol hefyd yn rhan o'r casgliad.
Catalogau arddangosfeydd
Mae gan y Llyfrgell archebion sefydlog gan lawer o brif orielau'r DU ac mae'n derbyn y catalogau sy'n cyd-fynd â'r arddangosfeydd hyn yn fuan ar ôl y digwyddiad. Gellir dod o hyd i gatalogau ar FINDit, a gallwch chwilio yn ôl artist, oriel neu enw arddangosfa neu drwy'r casgliad.
Ffotograffiaeth
Casgliad David Hurn
Mae Casgliad David Hurn yn archif o lyfrau a chyfnodolion sy'n arbenigo mewn ffotograffiaeth ddogfennol, o gasgliad personol y Ffotograffydd Magnwm.
Casgliad Raissa Page
Mae casgliad Raissa Page wedi cael ei roi gan ffotonewyddiadurwr a chyd-sylfaenydd y Format Photographers Collective.
Casgliad Ffotograffig Arolwg Casnewydd
Casgliad o ffotograffau du a gwyn yw Casgliad Ffotograffig Arolwg Casnewydd a dynnwyd gan fyfyrwyr ffotograffiaeth ddogfennol a oedd yn cofnodi Casnewydd yn y 1980au. Roedd y ffotograffau hyn yn sail i gyfres o 8 cyhoeddiad ar themâu amrywiol yn ymwneud â'r dref, a elwir hefyd yn Arolwg Casnewydd. Mae manylion y 2,200 o ddelweddau ar gael ar gatalog y llyfrgell ac mae'r lluniau ar gael i'w gweld er gwybodaeth yn unig.
Gwisg hanesyddol
Mae gennym gasgliad ffotograffig bach o wisgoedd hanesyddol.
Adrodd straeon
Casgliad George Ewart Evans
Rhoddwyd y casgliad yn garedig gan y teulu Evans. Mae'n cynnwys nifer o deitlau sy'n archwilio adrodd straeon a hanes llafar. Mae rhagor o wybodaeth am y ganolfan ar gael yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans.
Casgliad Ffuglen Wyddonol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys dros 1500 o nofelau, llawer ohonynt gan awduron nodedig yn y genre ffuglen wyddonol.
Theatr
Casgliad Rhaglen Theatr Henry Evans
Dyma gasgliad mawr o raglenni theatr a roddwyd gan deulu y diweddar Henry Evans. Mae'n dyddio o'r 1940au hyd at 2006..
Casgliadau Eraill
Casgliad DVD
Mae'r Casgliadau DVD Oddi ar yr Awyr a Chyn-Recordiedig yn cynnwys detholiad o raglenni teledu, ffilmiau nodwedd a rhaglenni dogfen i gefnogi'r addysgu a'r dysgu ar y Campws.
Casgliadau CD Cerddoriaeth
Mae'r casgliad yn adlewyrchu'r rhan fwyaf o genres cerddorol o glasuron i indie, sgoriau ffilm i wrando hawdd a cherddoriaeth y byd i jazz
Casgliad CD effeithiau sain
Mae Casgliad Effeithiau Sain y BBC yn amrywio o ran pwynciau o trafnidiaeth, domestig, natur, dynol yn ogystal â synau a gynhyrchir yn electronig.
Dyluniad Set
Casgliad Gerald Murphy.
Cafodd y casgliad eclectig hwn o ymchwil gweledol ei gronni gan y dylunydd cynhyrchu Gerald Murphy yn ystod ei yrfa ac fe’i rhoddwyd yn garedig i gefnogi’n bennaf fyfyrwyr ar radd BA Dylunio Setiau Teledu a Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru.