Therapi PDC

Therapïau sydd ar gael

Gallwn gynnig mynediad hwylus at y gefnogaeth rydych yn teimlo sydd fwyaf addas i chi trwy ein campws ar y clinig. Rydym yn ffodus o fod mewn sefyllfa i allu cynnig amrediad mor eang o therapïau ac i allu eich helpu i ddewis math o therapi sy'n addas i chi.

Therapi PDC Canolfan Therapïau Helen Kegie
Two people sat opposite eachother at a table, talking.

Does dim rhaid i chi fod wedi cael diagnosis i gael mynediad at ein gwasanaethau. Rydym yn falch o allu cefnogi pobl mewn gwahanol sefyllfaoedd sy'n dioddef o wahanol broblemau ar wahanol lefelau.


Ein Therapiau

Beth yw Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi? 

Mae cwnsela integreiddiol a seicotherapi yn fath o therapi siarad sy'n cydnabod bod pobl yn amrywiol ac yn gymhleth, fel y gall fod yn ddefnyddiol i therapydd ddefnyddio mwy nag un dull cwnsela, er mwyn diwallu anghenion unigol pob cleient.  

Mae tystiolaeth ymchwil yn awgrymu mai’r berthynas a ffurfir rhwng y therapydd a’r cleient sy’n cael y dylanwad mwyaf cadarnhaol yn bennaf ar p’un ai a yw cael therapi yn llwyddiannus ai peidio. Felly, rhoddir pwyslais cryf ar feithrin perthynas therapiwtig o ymddiriedaeth gyda chi, er mwyn cael sylfaen gadarn ar gyfer y gwaith rydych yn ei wneud gyda’ch gilydd. 

Gall therapyddion integreiddiol ddewis defnyddio technegau theori a therapiwtig o’r tair prif gangen cwnsela: yr ysgol ddyneiddiol (ffyrdd o weithio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, Gestalt a Dirfodol); Seicodynamig Perthynol; a Therapi Ymddygiadol Gwybyddol ac Ymwybyddiaeth Ofalgar. Unwaith y byddwch chi a’ch therapydd wedi cael cyfle i ddeall y materion sydd wedi eich arwain chi at gwnsela, bydd ef neu hi yn trafod gyda chi sut y gallech gydweithio i fynd i’r afael â’ch pryderon. 

Sut mae’n gweithio? 

Nid yw eich therapydd yno i gynnig diagnosis i chi neu i ddweud wrthych beth i’w wneud. Ei rôl yw eich helpu chi i archwilio a gwneud synnwyr o’r heriau yr ydych yn eu hwynebu. Gall hyn olygu gweithio gydag emosiynau anodd, yn ogystal â nodi a mynd i’r afael â phatrymau meddwl ac ymddygiad annefnyddiol a allai ychwanegu at deimladau o anhapusrwydd.  Byddwch chi a’r therapydd yn gweithio gyda’ch gilydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud eich bywyd yn fwy boddhaus.   Weithiau mae hyn yn golygu mireinio strategaethau ymdopi presennol neu ddysgu rhai newydd; derbyn pethau na allwch chi eu newid a mynd i’r afael â materion hunan-barch a hunanhyder.   

Ar gyfer beth y gellir defnyddio Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi? 

  • Cam-drin 
  • Dibyniaeth 
  • Gorbryder 
  • Profedigaeth 
  • Iselder 
  • Trallod emosiynol a chwnsela cyffredinol 
  • Problemau addasu i iechyd  
  • Problemau perthynas 
  • Hunan-barch 
  • Materion yn ymwneud â straen yn gysylltiedig â gwaith  
  • Trawma 

Beth yw CBT? 

Mae Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yn therapi siarad sy'n helpu gydag ystod eang o anawsterau. Mae CBT yn edrych ar ein meddyliau, ein teimladau a’n hymddygiad, a sut mae’r rhain wedi cysylltu â'i gilydd; mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn yn effeithio ar y ffordd rydyn ni'n teimlo. Caiff problemau eu rhannu’n ddarnau llai fel y gallwn dorri ar draws y cylchoedd negyddol rydym yn canfod ein hunain yn gaeth ynddynt. Mae hyn yn golygu y gallwn ddechrau dadansoddi pethau a deall yr hyn a all weithiau deimlo fel problemau neu emosiynau llethol. Yn fwy penodol, mae’r therapydd a’r cleient yn gweithio gyda’i gilydd i newid ymddygiad, neu batrymau meddwl, neu’r ddau.

Sut mae’n gweithio? 

Mae CBT yn eich helpu i ddysgu technegau i reoli eich meddyliau a’ch ymddygiad yn well er mwyn lleihau pa mor ddwys yw’r emosiynau rydych yn eu teimlo, ac felly lleihau’r symptomau corfforol gofidus. Mae CBT yn ymwneud yn bennaf â sut rydych chi’n meddwl ac yn gweithredu yn y funud yma. Er bod CBT yn canolbwyntio ar y fan a’r lle fel arfer, nid yw’n diystyru’r gorffennol. Weithiau, gall siarad am y gorffennol ein helpu i ddeall rhai o batrymau yn ein ffordd o feddwl a’n hymddygiad cyfredol. 

Byddwch chi a’ch therapydd yn trafod eich anawsterau penodol, byddwch yn cael eich annog i ystyried yr hyn yr hoffech ei gyflawni o’r sesiynau therapi a sut yr hoffech i bethau fod yn wahanol. Mae’r rhain yn ffurfio’r nodau y bydd y sesiynau’n canolbwyntio arnynt, sy’n golygu bod y therapi wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddechrau cyflawni eich nodau. Mae CBT yn cynnwys dull cydweithredol, nid yw’n ateb cyflym ac ni fydd eich therapydd yn dweud wrthych beth i’w wneud. Mae’r dulliau a ddysgir yn berthnasol i sefyllfaoedd bob dydd fel y gallwch barhau i wneud cynnydd hyd yn oed pan fyddwch wedi cwblhau eich sesiynau gyda’ch therapydd. 

Pwy all elwa ohono? 

Mae ymchwil wedi dangos bod CBT yn effeithiol wrth weithio gyda nifer o anawsterau, gan gynnwys: 

  • Anhwylderau gorbryder (gan gynnwys pyliau o banig a PTSD) 
  • Trawma 
  • Iselder 
  • OCD 
  • Poen cronig 
  • Symptomau corfforol heb ddiagnosis meddygol 
  • Anawsterau cysgu 
  • Rheoli dicter

Argymhellir CBT gan ganllawiau NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) i ddelio â nifer o anawsterau yn seiliedig ar ymchwil sy’n dangos pa mor effeithiol yw CBT. Mae canllawiau NICE yn llunio canllaw annibynnol yn seiliedig ar dystiolaeth i’r GIG ar sut i drin cyflyrau iechyd penodol. 

Beth y gallaf ei ddisgwyl o sesiwn CBT? 

Cynigir CBT mewn sesiynau unigol. Bydd eich therapydd yn eich annog i siarad am eich meddyliau, eich teimladau a’ch profiadau. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n ei chael hi’n anodd trafod eich teimladau, bydd eich therapydd yn eich helpu i feithrin mwy o hyder ac yn gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus gyda hyn. Yn ystod y sesiynau byddwch yn gweithio ar y cyd gyda’ch therapydd, gan gynllunio cynnwys y sesiwn gyda’ch gilydd er mwyn dechrau gweithio tuag at yr amcanion rydych wedi’u nodi. Mae’r berthynas therapiwtig yn bwysig mewn CBT felly bydd eich therapydd yn treulio rhywfaint o amser yn adeiladu hyn gyda chi. Ni fydd eich therapydd yn dweud wrthych beth i’w wneud ond yn hytrach bydd yn eich helpu i benderfynu pa anawsterau yr hoffech weithio arnynt er mwyn gwella eich sefyllfa. 

Beth yw Cwnsela i Blant a Phobl Ifanc? 

At ei gilydd, mae cwnselwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol mewn gweithio gyda’r grŵp cleientiaid hwn, yn ogystal â’u hyfforddiant cychwynnol eu hunain. Maen nhw’n dod o amrywiaeth o feysydd sy’n cynnwys therapïau geiriol a seicotherapi celf a therapi cerddoriaeth hefyd, ond maent wedi dysgu’r model Geldard a Geldard Proactive, sef ffordd o weithio gyda phobl ifanc mewn tri cham: ymuno, asesu ac ymdrin. Mae’r model hwn yn cwmpasu sgiliau cyfathrebu pobl ifanc, strategaethau creadigol a symbolaidd ac mae wedi’i wreiddio mewn athroniaeth ddirfodol a chymdeithasol. Mae ganddynt ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a’r glasoed, yn ogystal ag ystod o faterion cyfreithiol, moesegol ac iechyd meddwl penodol. Maent yn sicrhau eu bod yn cynnig perthynas atgyweiriol, ac mae damcaniaethau ymlyniad a niwrowyddonol wrth wraidd eu gwaith. 

Sut mae’n gweithio? 

Gall cwnsela gyda phobl ifanc ddigwydd dros nifer o sesiynau neu hyd yn oed mewn un sesiwn, yn dibynnu ar anghenion y cleient ifanc ac mae'n wahanol i ymyriadau tebyg gydag oedolion. Gyda’r glasoed, bydd y therapydd yn defnyddio ei nodweddion glasoed mewnol ac yn eu cymhwyso, yn gorfforol ac yn emosiynol gyda’r cleient, gan ddefnyddio arddulliau cyfathrebu tebyg i rai’r glasoed. Mae hyn yn sicrhau bod y cleient yn teimlo ei fod yn cael ei glywed a’i gydnabod ac yn teimlo ei fod yn gallu meithrin perthynas y gall ymddiried ynddi â’r therapydd. Yn gyffredinol, mae angen ffordd lawer mwy rhagweithiol o weithio ar bobl ifanc, ac maent yn aml yn gweithio mewn modd cylchol, yn hytrach na llinol. Mae angen i’r cwnselydd ddefnyddio llawer o egni a sgiliau i alluogi’r cleient i gyfleu ei stori a’i deimladau. Mae hyn yn golygu cynnig amrywiaeth o gyfryngau creadigol i’w defnyddio yn y sesiwn sy’n cynnwys hambyrddau tywod, pypedau, miniaturau, clai a deunyddiau celf a chrefft eraill. Bydd y cwnselydd yn gweithio gyda’r materion a gyflwynir iddo a’r rhai sy’n deillio o gam asesu’r broses, gan sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gynnal yn ddiogel mewn fframwaith moesegol a chyfrinachol. Mae’r holl gwnsela yn amodol ar weithdrefnau amddiffyn plant y clinig. 

Ar gyfer beth y gellir defnyddio gwasanaeth Cwnsela i Blant a Phobl Ifanc? 

Mae therapi gyda’r grŵp oedran hwn yn amrywio’n aruthrol. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn mynd drwy gyfnod o newid mawr ac mewn fframwaith dirfodol, mae hyn yn ymddygiad normal ac mae’n cael ei gynnal gan deulu a chyfoedion. Fodd bynnag, i rai pobl ifanc, mae ganddynt gymaint o bryderon mae arnynt angen rhywun i’w clywed neu i weithio gyda nhw yn fwy dwys neu’n gyfrinachol. Mewn rhai achosion mae angen i rywun weld stori’r cleient ac mewn eraill, efallai y bydd gan y cleient bryderon penodol y mae angen rhoi sylw iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys yn aml: materion teuluol, perthnasoedd cyfoedion, pryder cymdeithasol, materion yn ymwneud â bwyta, problemau perthynas, pryderon am yr ysgol a/neu arholiadau, trawsnewidiadau, hunan-niweidio, materion rhyw a rhywioldeb a materion hunaniaeth. 

Beth y gallaf ei ddisgwyl o sesiwn therapi? 

Bydd eich cwnselydd neu therapydd yn defnyddio ei sgiliau i wneud i chi deimlo bod croeso i chi a'i fod yn barod i wrando arnoch, a bydd yn defnyddio’r sesiwn gyntaf i gytuno ar gontract cyfrinachol gyda chi a dysgu ychydig am yr hyn sy'n gyfrifol am eich arwain chi at gwnsela. Bydd y cwnselydd yn cwrdd â chi mewn ystafell sydd ag amrywiaeth o adnoddau, a all gynnwys deunyddiau celf, offerynnau cerdd, hambyrddau tywod a deunyddiau crefft eraill. Bydd modd i chi siarad â’ch cwnselydd am yr hyn sy’n eich poeni, a defnyddio’r adnoddau hefyd os bydd hyn yn gwneud pethau'n haws i chi. Fodd bynnag, nid oes disgwyl i chi ddefnyddio unrhyw beth arall os nad yw hyn yn teimlo'n gyfforddus. Bydd y cwnselydd yn gwrando ac yn arsylwi ar yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd ac yn eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen eich hun. Gall ef/hi hefyd eich cyfeirio at sefydliadau defnyddiol eraill os oes gennych anghenion penodol. 

Beth yw seicotherapi celf? 

Mae seicotherapi celf yn therapi seicolegol sydd ar gael i’r rheini sydd efallai'n ystyried therapi geiriol a mynegiant yn anodd neu ddim digon da. Defnyddir deunyddiau, offer ac adnoddau sy’n seiliedig ar gelf yn y dull therapiwtig hwn fel prif ffordd o fynegi a chyfathrebu. Yn y cyd-destun hwn, ni ddefnyddir celf fel dull diagnostig ond fel cyfrwng i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag iechyd a lles emosiynol, seicolegol a chorfforol. Caiff seicotherapi celf ei gynnig mewn grwpiau neu’n unigol, yn dibynnu ar anghenion y cleientiaid. Nid gweithgaredd hamdden na gwers gelf ydyw, er bod y sesiynau yn aml yn bleserus. Nid oes angen i gleientiaid gael unrhyw brofiad neu arbenigedd blaenorol mewn creadigrwydd a gwneud celf. 

Sut mae’n gweithio? 

Mae seicotherapyddion celf yn cyfuno amrywiaeth o ymyriadau seicotherapiwtig gyda gwneud celf, offer creadigol a meddwl yn greadigol, sy’n galluogi cleientiaid i greu newid a thyfu. Drwy ddefnyddio deunyddiau celf ac offer creadigol, gall cleientiaid ddysgu a datrys anawsterau. Gall gwaith celf a delweddau gynnig dull o fynegiant a chyfathrebu (gyda chi’ch hun neu eraill) pan fydd hi'n anodd neu’n amhosibl dod o hyd i eiriau; gallant hefyd ddod yn ffocws ar gyfer trafodaeth, archwilio a hunanwerthuso. 

Mae seicotherapi celf yn wahanol i therapïau seicolegol eraill gan ei fod yn broses tair ffordd rhwng y cleient, y therapydd a’r ddelwedd neu’r arteffact. Gall fod yn broses bwerus; gall ddod â theimladau sydd wedi’u claddu neu wedi’u mygu i’r wyneb yn gyflym ac yn hawdd. Gall gwneud celf hefyd ddod yn ddyddiadur pwerus o’r hyn a brofwyd mewn therapi, gan atgoffa’r cleient a’r therapydd o unrhyw brosesau a ddilynwyd, themâu rheolaidd a phatrymau drwy gydol y therapi. Mae seicotherapi celf yn hyblyg ac yn ddemocrataidd: mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu bod yn greadigol a gwneud celf beth bynnag yw eu gallu emosiynol, deallusol, corfforol neu ieithyddol. 

Ar gyfer beth y gellir defnyddio seicotherapi celf? 

Mae seicotherapyddion celf yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a’r henoed ac yn gweithio mewn ystod amrywiol o leoliadau ymarfer. Mae’n bosibl y bydd gan gleientiaid ystod eang o anawsterau, anableddau neu ddiagnosis. Gall y rhain gynnwys problemau emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl, anableddau dysgu neu gorfforol, cyflyrau sy’n byrhau bywyd, cyflyrau niwrolegol a salwch corfforol. Yn fwy diweddar, mae seicotherapi celf wedi datblygu ystod eang o ddulliau sy’n canolbwyntio ar y cleient, megis triniaethau seico-addysgol, ymwybyddiaeth ofalgar a thriniaethau sy'n seiliedig ar y meddwl, technegau sy’n canolbwyntio ar dosturi, a thechnegau dadansoddol gwybyddol, ac ymarfer sy’n ennyn diddordeb cymdeithasol.  

Gall cleientiaid sy’n elwa o seicotherapi celf gynnwys: 

  • Y rheini sydd wedi’u hynysu ac yn anodd eu cyrraedd. 
  • Y rheini sy'n ei chael hi'n anodd mynegi eu hunain ar lafar, neu sy’n methu/yn anfodlon gwneud hynny. 
  • Y rheini sy’n defnyddio mynegiant geiriol i ddatgysylltu oddi wrth brosesau emosiynol. 
  •  Y rheini sy’n llafar iawn, a allai fod yn defnyddio geiriau fel math o amddiffyniad yn erbyn teimladau a dulliau cyfathrebu go iawn. 
  • Y rheini sy’n teimlo bod eu hemosiynau yn llethol neu’n ddi-drefn ac yn ei chael hi'n anodd mynegi eu teimladau yn briodol. 
  • Y rheini sy’n brin o gymhelliant neu sy’n ansicr am gymryd rhan mewn therapïau a thriniaeth seicolegol. 
  • Y rheini sydd â hanes o gam-drin, trawma, symptomau PTSD, somateiddio, anableddau dysgu, anhwylderau corfforol, emosiynol a seicolegol a namau ar y synhwyrau. 
  • Y rheini sy’n hunan-niweidio;  gall seicotherapyddion celf gynnig dull amgen, mwy diogel o ymddwyn yn negyddol, e.e. crafu, rhwygo, torri deunyddiau, neu drwy ddinistrio delweddau a gwaith celf mewn sesiynau seicotherapi celf, gan alluogi ffurfio symbolau. 

Beth y gallaf ei ddisgwyl o sesiwn seicotherapi celf? 

Mae seicotherapi celf yn cynnig cyfle i arbrofi gyda deunyddiau celf mewn ffordd greadigol a digymell. Yna gellir defnyddio’r gwaith celf fel ffordd o wneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd yn eich bywyd. Ni fydd y seicotherapydd celf yn addysgu celf ond bydd yn eich helpu i ddefnyddio deunyddiau yn eich ffordd eich hun ac yn ôl eich cyflymder eich hun. Efallai y byddwch yn cael asesiad mewn seicotherapi celf i ddechrau er mwyn penderfynu a yw’n driniaeth addas ar eich cyfer chi. Gall y sesiynau cychwynnol hyn eich helpu i benderfynu a yw seicotherapi celf yn mynd i fod o gymorth i chi. Efallai y byddwch wedyn yn cael sesiwn 1:1 neu therapi grŵp a fydd yn arwain at driniaeth hirdymor neu driniaeth gyfyngedig i amser. 

Mae sesiwn seicotherapi celf unigol fel arfer yn para hyd at awr, unwaith yr wythnos. Gall sesiynau grŵp fod yn hirach nag awr weithiau. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal mewn ystafell sydd naill ai’n benodol i seicotherapi celf neu ofod sydd wedi cael ei addasu ar gyfer y sesiwn. Bydd amrywiaeth o ddeunyddiau celf ar gael gyda lle i wneud gwaith celf, rhywle cyfforddus i siarad â’r seicotherapydd celf, a lle storio cyfrinachol ar gyfer unrhyw beth y byddwch yn ei wneud yn ystod y sesiynau therapi. 

Caiff cleientiaid eu hannog i wneud unrhyw fath o gelf, gan gynnwys peintio, tynnu llun neu wneud cerfluniau. Gellir defnyddio delweddau a gwrthrychau y dewch o hyd iddynt, a deunyddiau anhraddodiadol yn aml. Mae rhai seicotherapyddion celf yn defnyddio dull cyfarwyddol drwy gynnig themâu neu awgrymiadau, tra mae eraill yn cymryd cam yn ôl ac yn gadael i'r cleient arwain y sesiwn. Gall y sefydliad clinigol a gallu’r cleient i ddefnyddio’r deunyddiau bennu’r dull gweithredu. Efallai y bydd adegau pan na fydd unrhyw ddelwedd yn cael ei chreu, sy’n golygu y gall sesiynau gynnwys dim ond delweddau, dim ond siarad, neu’r ddau. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am seicotherapi celf ar wefan BAAT (Cymdeithas Therapyddion Celf Prydain): www.baat.org  

Beth yw Therapi Cerdd? 

Mewn therapi cerdd, mae pobl yn gweithio gydag amrywiaeth eang o offerynnau hygyrch a’u lleisiau i greu cerddoriaeth sy’n adlewyrchu eu cyflwr emosiynol a chorfforol.  Mae hyn yn eu galluogi i feithrin cysylltiadau â nhw eu hunain ac eraill yn gerddorol.  Mae siarad am y gerddoriaeth a’r heriau personol y maent yn eu hwynebu hefyd yn rhan o sesiwn.  Nid oes angen unrhyw wybodaeth gerddorol i gael mynediad at therapi cerdd. 

Sut mae’n gweithio? 

Mae’r therapydd cerdd yn cefnogi’r cleient drwy gyd-greu cyfuniad pwrpasol o gerddoriaeth fyrfyfyr neu gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi ymlaen llaw. Mae defnyddio cerddoriaeth yn aml yn helpu pobl i gael gafael ar deimladau anodd pan all fod yn anodd eu cyfleu mewn geiriau.  Mae siarad am y gerddoriaeth yn gymorth i brosesu teimladau y mae’r gerddoriaeth wedi’u deffro.  

Ar gyfer beth y gellir defnyddio Therapi Cerdd? 

Mae Therapi Cerdd yn ddefnyddiol i’r rhai sydd ag amrywiaeth o faterion, fel gorbryder, iselder, materion profedigaeth, PTSD ac OCD.  Gellir ei ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â gydag oedolion. 

Beth y gallaf ei ddisgwyl o sesiwn therapi cerdd? 

Bydd sesiwn yn cynnwys rhyw fath o greu cerddoriaeth, er bod hyn yn hyblyg yn dibynnu ar eich anghenion a’ch dymuniadau.   Gallai ysgrifennu caneuon, drymio, chwarae byrfyfyr a siarad i gyd chwarae rhan mewn sesiwn therapi cerddoriaeth.  Ym mhob achos, fodd bynnag, bydd y therapydd yn teilwra ei agwedd at eich anghenion er mwyn cyflawni’r nodau rydych am eu cyflawni drwy therapi. 

Beth yw Delweddau a Cherddoriaeth dan Arweiniad (GIM)? 

Math o seicotherapi cerddoriaeth yw GIM sy’n cynnwys gwrando ar gerddoriaeth wedi’i dewis yn arbennig, creu delweddau a chael trafodaeth ar lafar gyda’r therapydd. 

Sut mae’n gweithio? 

Bydd y cleient yn gwrando ar gerddoriaeth pan fydd wedi ymlacio gan siarad â’r therapydd, neu gall wrando yn dawel.  Ar ôl gwrando, mae cyfle i greu delwedd ac yna i drafod beth sydd wedi codi gyda’r therapydd. Mae’r broses wrando, yna tynnu lluniau, ac yna siarad yn galluogi’r cleient i brosesu’r anawsterau y mae’n eu profi yn llawn a dechrau gweithio drwy ei broblemau. 

Ar gyfer beth y gellir defnyddio GIM? 

Gorbryder, iselder, newidiadau bywyd, PTSD, materion profedigaeth.  Mae’r therapi yn addas i oedolion yn unig. 

Beth yw Therapi Chwarae? 

Mae Therapi Chwarae yn ffordd o helpu plant i fynegi eu teimladau a deall profiadau bywyd anodd. Mae’r plant yn defnyddio chwarae i gyfleu eu profiadau a’u teimladau yn ôl eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain, ac mae’r therapydd chwarae yn cefnogi’r plentyn drwy sefydlu perthynas gyfeillgar, gymeradwy a dibynadwy gyda’r plentyn. 

Sut mae’n gweithio? 

Mae chwarae yn hollbwysig ar gyfer datblygiad plant yn gyffredinol. Mae oedolion yn defnyddio geiriau i gyfleu eu teimladau a’u profiadau, ond chwarae yw hoff ddewis plant o gyfathrebu. Mae’r therapydd chwarae yn olrhain ac yn myfyrio ynghylch dulliau chwarae’r plentyn er mwyn ei helpu i ddeall ei fyd ac er mwyn i’r plentyn gael cipolwg ar ei deimladau a’i feddyliau ei hun. Weithiau, gall plentyn actio neu gyfleu profiadau bywyd anodd er mwyn deall ei orffennol a cheir tystiolaeth bod y broses hon yn helpu plant i ymdopi’n well â heriau bywyd. Mewn perthynas therapiwtig, mae’r therapydd chwarae yn helpu’r plentyn i reoli teimladau llethol a dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoleiddio cynnwrf a phryder drwy ryngweithio chwareus, sy’n gwella ei sgiliau hunanreoleiddio a’i sgiliau cymdeithasol. 

Sut gall therapi chwarae helpu fy mhlentyn? 

Mae therapyddion chwarae yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd a all fod yn wynebu heriau, neu sydd efallai wedi cael profiadau bywyd anodd. Gall hyn gynnwys e.e. plentyn sy’n bryderus neu’n dawedog; plentyn sy'n cyfleu ei drallod drwy ymddygiad negyddol ac yn achosi aflonyddwch; gall therapi chwarae helpu plentyn sydd wedi colli rhywun annwyl iddo; plentyn sy'n cael ei fwlio; plentyn sy’n cael trafferth deall pam fod ei rieni wedi gwahanu. Mae therapi chwarae yn foddolrwydd gwybodus o ran datblygiad sy’n helpu plant sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi’u mabwysiadu. 

Mae therapyddion chwarae hefyd yn gweithio gyda’r oedolion arwyddocaol sy’n gofalu am y plentyn, gan eu helpu i ddeall effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar y plentyn sy’n datblygu, a sut i gael gafael ar bwerau therapiwtig ardderchog chwarae i ymuno â phlentyn yn ei fyd ac i’r plentyn deimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed, ei ddeall a bod rhywun yn gofalu amdano. 

Beth y gallaf ei ddisgwyl o sesiwn Therapi Chwarae? 

Bydd y therapydd chwarae yn dechrau drwy wrando’n astud ar eich pryderon. Bydd yn ystyried hanes datblygiadol eich plentyn ac unrhyw brofiadau bywyd o bwys. Efallai y bydd yn gofyn am ganiatâd i siarad ag athro/athrawes eich plentyn ac oedolion arwyddocaol eraill. Wrth gasglu’r wybodaeth hon, bydd y therapydd chwarae yn datblygu cynnig ar gyfer therapi chwarae, a fydd yn cael ei drafod gyda chi. Mae rhai plant yn ymateb i ymyriad tymor byr (tua 12 sesiwn wythnosol), ond efallai y bydd angen mwy o amser ar blentyn ag anawsterau mwy cymhleth (25+ sesiwn wythnosol). Mae cysondeb, natur ragweladwy a rheoleidd-dra yn bwysig iawn i sefydlu synnwyr y plentyn o ddiogelwch a chyfyngiant, a bydd yn rhaid i chi ddod â’ch plentyn i sesiynau therapi yn rheolaidd, a chynllunio ymyriadau’n ofalus gyda’r therapydd chwarae. Mae gorffen yr un mor bwysig â chychwyn, a bydd y therapydd chwarae yn cymryd gofal mawr wrth reoli’r ddau. 

Bydd gwybodaeth yr ydych yn ei rhannu am eich plentyn a’r teulu yn cael ei chadw'n gyfrinachol fel arfer. Gyda’ch caniatâd chi, gall y therapydd chwarae drosglwyddo gwybodaeth i eraill er budd eich plentyn, a bydd hyn yn cynnwys goruchwyliaeth broffesiynol. 

Mae’n rhaid i’r therapydd chwarae rannu gwybodaeth â gweithwyr proffesiynol eraill os oes pryderon bod plentyn yn cael ei niweidio, ei fod yn niweidio eraill neu'n hunan-niweidio. 

Bydd sesiwn y plentyn yn cael ei gynnal mewn ystafell therapi chwarae gydag amrywiaeth o deganau ac adnoddau. Bydd y plentyn yn cael ei wahodd i ddewis beth y mae eisiau chwarae gydag ef a gall wahodd y therapydd chwarae i ymuno os yw'n dymuno. Wrth i’r berthynas therapiwtig ddatblygu, gall y therapydd gyflwyno syniadau a gweithgareddau gwahanol i gefnogi hunanymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwellhad y plentyn.