Apiau am ddim

  • Mae Calm Harm yn ap am ddim i'ch helpu i reoli'r awydd i hunan-niweidio  
  • Chill Panda Oeddech chi'n gwybod bod cysylltiad agos rhwng cyfradd y galon a gorbryder? Mae ChillPanda yn caniatáu ichi ddeall a rheoli'r berthynas hon yn well 
  • Mae Clear Fear yn darparu amrywiaeth o ffyrdd i chi reoli gorbryder 
  • Mae Mindshift yn ap sydd am ddim i'ch helpu i ddysgu ymlacio a bod yn ofalgar, datblygu ffyrdd mwy effeithiol o feddwl, a defnyddio camau gweithredol i reoli eich gorbryder  
  • Stay Alive Mae'r ap hwn yn adnodd poced atal hunanladdiad ar gyfer y DU, ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol ac offer i'ch helpu i gadw'n ddiogel mewn argyfwng. 

Llinellau cymorth trydydd parti defnyddiol 

  • Childline  Mae’r wefan yma’n cynorthwyo pobl ifanc sy’n mynd trwy amser caled neu’n teimlo eui bod yn cael eu cam-drin gan oedolion. Mae ganddi ardal sgwrsio a llinell gymorth, a nifer o adnoddau defnyddiol eraill hefyd.
  • Y Samariaid - Mae gan y wefan yma wybodaeth a llinell gymorth 24 awr i’r rhai sydd mewn trallod ac angen siarad â rhywun ar frys.
  • NSPCC Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth, cymorth a, chyngor, a llinell gyngor 24 awr i’r rhai sy’n poeni am gam-drin plentyn. 
  • Mae C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth 24-awr i bobl yng Nghymru. Maent yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol ar faterion iechyd meddwl a materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
  • Mae gan SANE wybodaeth a chyngor i unrhyw un yr effeithir arnynt gan salwch meddwl. Maent yn rhedeg llinell gymorth iechyd meddwl allan o oriau bob dydd o 4:30pm i 10.30pm.
  • Mae Bipolar UK yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar sut i reoli’ch anhwylder deubegynol neu gefnogi rhywun annwyl. Mae eu llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am i 5pm.
  • Mae Carers UK yn cynnig cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i ofalwyr. Mae eu llinell gyngor ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.
  • Mae OCD-UK yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i oedolion a phlant yr effeithir arnynt gan OCD. Maent yn gweithredu llinell gyngor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am i 5pm.
  • Mae Mind yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o bynciau iechyd meddwl. Maent yn gweithredu llinell wybodaeth ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am i 6pm.

PORTH AR-LEIN Y PARTH SIARAD

Gwasanaeth cwnsela preifat ar-lein yw’r Parth Siarad. Mae am ddim i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn lle diogel a phreifat i siarad gyda chwnselydd neu i ddarganfod cymorth am bethau rydych yn poeni amdanynt. Mae cwnselwyr ar gael ar hyn o bryd bob dydd Mercher rhwng 5pm ac 8pm.

TalkingZone

Gwasanaethau cymorth

Y 1000 Diwrnod Cyntaf (Cymru) | Elusen Mabwysiadu'r DU - Llongyfarchiadau ar ddod yn rhiant. Mae hwn yn gyfnod cyffrous wrth i chi ddechrau neu dyfu eich teulu. Mae prosiect y 1000 Diwrnod Cyntaf yma i chi o'r diwrnod cyntaf un, i gynnig help llaw a chlust i wrando, gan gymuned lewyrchus o gyd-fabwysiadwyr ledled Cymru.

Snap Cymru Mae’r wefan yma yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth am wasanaethau cymorth anabledd a thrafferthion addysg. 

  • Mae Cefnogaeth Profedigaeth Plant yn darparu gwybodaeth am beth yw profedigaeth. Mae hefyd yn darparu llinell gymorth a chyngor i bobl ifanc ar sut i ofalu am eu hunain ar ôl i rywun agos atynt farw. 
  • Mae Cruse Bereavement Care yn darparu cefnogaeth ar gyfer oedolion a phlant ar ôl marwolaeth rhywun agos atynt. Maent hefyd yn gweithredu llinell gymorth 9:30am i 8pm o ddydd Mawrth i ddydd Iau, a dydd Llun a dydd Gwener, 9:30am i 5pm. 
  • Mae Hope Again yn wefan ieuenctid Cruse Bereavement Support.  Mae'n lle diogel lle gallwch ddysgu gan bobl ifanc eraill, sut i ymdopi â galar, a theimlo'n llai unig. 
  • Mae #Helptomakesense yn wefan ryngweithiol ble mae pobl ifanc yn medru trafod gydag eraill a derbyn llawer o gymorth os ydyn nhw wedi colli rhywun agos atynt. 
  • Mae 2 Wish yn darparu cymorth profedigaeth i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc yn sydyn ac yn drawmatig. 

  • Bullying UK -  mae’r wefan yma yn darparu llinell gymorth, cymorth e-byst, sgwrsio ar-lein a llawer o wybodaeth am fwlio a chyngor ar sut i ddelio ag ef. 
  • Mae Bullies Out yn wefan sy’n cynnwys cymorth a chyngor ar fwlio. Hefyd gwybodaeth i rieni. 
  • Troseddau Casineb - gwefan sy’n darparu gwybodaeth am y mathau o droseddau casineb a sut i roi gwybod amdanynt. 

  • Young Minds – Depression - mae’r adran ddefnyddiol yma ar wefan Young Minds yn darparu gwybodaeth am beth yw iselder, a thaflenni cymorth defnyddiol i’w lawrlwytho.

Mae gan Talk to Frank wefan yn cynnwys ffeithiau, gwybodaeth a chyngor ar beryglon cymryd cyffuriau. Mae gan y wefan hefyd adnodd sgwrsio byw, negeseuon testun a llinell gymorth. 

Mae gan B-eat wybodaeth a chyngor ar anhwylderau bwyta. Mae ardal sgwrsio byw yna yn ogystal â llinell gymorth, sydd ar gael bob dydd o 3pm i 10pm.  

  • Mae Being Gay is OK i bobl ifanc sy’n ansicr am eu rhywioldeb neu’n gweld eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu’n ddeurywiol. Mae’n cynnwys gwybodaeth, cymorth, lawr lwythiadau a dolenni defnyddiol, a thudalen broblemau lle maent yn medru gofyn cwestiynau a chael atebion gan gynorthwywyr.
  • Mae Mermaids UK yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i’r rhai sydd am wybod mwy am hunaniaeth o ran rhywedd.
  • Mae Switchboard yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol a thrawsrywiol, ac unrhyw sydd yn ansicr o’u rhywioldeb a / neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Maent yn cynnig llinell gymorth bob dydd o 10am i 10pm.
  • Mae Trans Unite yn darparu adnodd cyfredol i gael mynediad at grwpiau cymorth yn y DU ac ar-lein. 

  • Young Minds – Self Harm - mae’n adran ddefnyddiol o wefan Young Minds sy’n darparu gwybodaeth, ffeithiau a chymorth i’'r rhai sy’n dioddef â hunan-niweidio. Mae hefyd yn darparu dolenni defnyddiol i wefannau defnyddiol eraill. 
  • Mae Papyrus yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc sy’n cael trafferth gyda hunan-niweidio a theimladau hunanladdol. Maent yn darparu llinell gymorth yn ystod yr wythnos o 10am i 10pm, a llinell gymorth ar y penwythnos o 2pm i 10pm. 

Mae gan Anxiety UK lawer o wybodaeth am fod yn bryderus (gorbryder). Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth, maent yn gweithredu llinell wybodaeth sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth ymarferol am wasanaethau cefnogi o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:30am i 5:30pm.