Y Parth Siarad
Gwasanaeth Cwnsela Plant a Phobl Ifanc Casnewydd
Mae’r Parth Siarad yn darparu cwnsela am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 3 a hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed sy'n byw yn ardal Casnewydd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/00-miscellaneous/misc-counselling-talking-zone.jpg)
Neges Bwysig
Rydym yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn academaidd ac ar hyn o bryd yn profi niferoedd uchel o atgyfeiriadau i'r gwasanaeth, felly mae'r pyrth atgyfeirio ar gau ar hyn o bryd tan fis Medi, pan fyddwch yn gallu ail-atgyfeirio i'r Parth Siarad.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gallwch ddod o hyd i'n hadnoddau hunangymorth yma:
Mae’r Parth Siarad wedi'i leoli ym mhob ysgol uwchradd yng Nghasnewydd ac mae'n darparu gwasanaeth peripatetig i ysgolion cynradd y ddinas. Mae’r Parth Siarad hefyd yn darparu gwasanaeth cymunedol cyfyngedig i'r bobl ifanc hynny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant prif ffrwd.