Mae’r Parth Siarad yn darparu mynediad at gwnselydd ym Maes Ebbw, Maes Ebbw Bach ac Ysgol Bryn Derw yng Nghasnewydd, gan gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi heriau emosiynol. Mae cwnsela yn weithgaredd cyfrinachol a'r plentyn/person ifanc a'r cwnselydd yw'r unig rai a fydd yn ymwybodol o gynnwys y sesiynau, oni bai y bydd yn dod i'r amlwg eu bod mewn risg o niwed sylweddol.  

Fodd bynnag, bydd y cwnselydd yn annog rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol i fod yn rhan o'r broses o'r cychwyn. Bydd cyfle ar gychwyn y cwnsela i'r rhiant neu warcheidwad gwrdd â'r cwnselydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i drafod yr heriau mae'r plentyn yn eu hwynebu ac yn caniatáu i'r cwnselydd ennill gwell dealltwriaeth o sut i fynd ati i weithio gyda'r plentyn. Bydd cyfle hefyd i gwrdd â'r cwnselydd ar ddiwedd y sesiynau cwnsela er mwyn derbyn cyngor ar sut i gefnogi'r plentyn wedi i'r ymyrraeth ddod i ben. 

Mae gan bob un ohonom adegau pan mae'n teimlo'n anodd siarad â'r rhai sydd agosaf atom am bethau sy'n ein poeni ni. Yn aml gall hyn fod oherwydd nad ydym am eu poeni neu os ydym yn ofni beth y gallent ei ddweud. Bydd y cwnselydd yn gwrando ar y plentyn yn ofalus, heb feirniadu, ond yn ceisio eu helpu i ddeall beth allai fod yn eu trafferthu ac i ganfod ffyrdd o ymdopi â'u heriau neu eu hemosiynau. 

Gall y mathau o broblemau y gellir defnyddio cwnsela ar eu cyfer gynnwys: 

  • Problemau teuluol 
  • Perthnasoedd  
  • Colled a phrofedigaeth 
  • Bwlio 
  • Diffyg hyder 
  • Dicter 
  • Materion ymddygiad 
  • Hunan-niweidio  
  • Gorbryder 
  • Hwyliau isel  

  • Lle ac amser rheolaidd i siarad am bryderon neu anawsterau. 
  • Mae'n helpu plant i edrych ar sut y gallent fod eisiau i bethau fod yn wahanol, trwy siarad a defnyddio amryw o weithgareddau. 
  • Mae’n helpu'r plentyn i wneud synnwyr o'u hemosiynau ac yn adeiladu hunan-barch. 
  • Bydd cwnselwyr yn trin y plentyn mewn modd gofalgar, cynnes ac yn barchus i'w hanghenion unigol. 

Isod fe welwch restr o ddogfennau gwasanaeth defnyddiol:  

  • Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd i Rieni a'r Hysbysiad Preifatrwydd i Blant yn esbonio pam rydym yn casglu gwybodaeth gennych a beth rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth honno. 
  • Mae'r Weithdrefn Gwynion yn esbonio'r broses y gallwch ei dilyn os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon i'w codi yn ymwneud â'r gwasanaeth a dderbyniwyd gan y Parth Siarad.