Hysbysiad Pwysig

O ganlyniad i'r galw uchel a'n rhestr aros bresennol, mae porth cyfeirio Gwasanaeth Ymgynghori Ysgol-lleoli TalkingZone bellach ar gau.

i allwn dderbyn unrhyw gyfeiriadau pellach am weddill y flwyddyn academaidd hon.

Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gael mynediad at adnoddau hunangymorth defnyddiol ar ein gwefan.

Gallwch hefyd ddod o hyd i gefnogaeth ac wybodaeth ychwanegol trwy Melo Cymru.

Os oes gennych bryderon am eich lles, cysylltwch â'ch meddyg teulu.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Mae’r Parth Siarad ar hyn o bryd yn darparu mynediad at Gwnsela ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a blwyddyn 6. 

Mae’r Parth Siarad yn darparu mynediad at gwnselydd ym mhob ysgol Gynradd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghasnewydd, gan gefnogi plant a phobl ifanc sy’n teimlo gofid emosiynol. Mae cwnsela yn weithgaredd cyfrinachol a'’r plentyn/person ifanc a’r cwnselydd yw'’r unig rai a fydd yn ymwybodol o gynnwys y sesiynau, oni bai y bydd yn dod i’r amlwg eu bod mewn risg o niwed sylweddol.  

Fodd bynnag, bydd y cwnselydd yn annog rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol i fod yn rhan o'r broses o'r cychwyn. Bydd cyfle ar gychwyn y cwnsela i'r rhiant neu warcheidwad gwrdd â'r cwnselydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i drafod yr heriau mae'r plentyn yn eu hwynebu ac yn caniatáu i'r cwnselydd ennill gwell dealltwriaeth o sut i fynd ati i weithio gyda'r plentyn. Bydd cyfle hefyd i gwrdd â'r cwnselydd ar ddiwedd y sesiynau cwnsela er mwyn derbyn cyngor ar sut i gefnogi'r plentyn wedi i'r ymyrraeth ddod i ben.

Mae gan bob un ohonom adegau pan mae'n teimlo'n anodd siarad â'r rhai sydd agosaf atom am bethau sy'n ein poeni ni. Yn aml gall hyn fod oherwydd nad ydym am eu poeni neu os ydym yn ofni beth y gallent ei ddweud. Bydd y cwnselydd yn gwrando ar y plentyn yn ofalus, heb feirniadu, ond yn ceisio eu helpu i ddeall beth allai fod yn eu trafferthu ac i ganfod ffyrdd o ymdopi â'u heriau neu eu hemosiynau. 

Gall y mathau o broblemau y gellir defnyddio cwnsela ar eu cyfer gynnwys: 

  • Problemau teuluol 
  • Perthnasoedd  
  • Colled a phrofedigaeth 
  • Bwlio 
  • Diffyg hyder 
  • Dicter 
  • Materion ymddygiad 
  • Hunan-niweidio  
  • Gorbryder 
  • Hwyliau isel  

  • Lle ac amser rheolaidd i siarad am bryderon neu anawsterau. 
  • Mae'n helpu plant i edrych ar sut y gallent fod eisiau i bethau fod yn wahanol, trwy siarad a defnyddio amryw o weithgareddau. 
  • Mae’n helpu'r plentyn i wneud synnwyr o'u hemosiynau ac yn adeiladu hunan-barch. 
  • Bydd cwnselwyr yn trin y plentyn mewn modd gofalgar, cynnes ac yn barchus i'w hanghenion unigol. 

Isod fe welwch restr o ddogfennau gwasanaeth defnyddiol:  

  • Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd i Rieni a'r Hysbysiad Preifatrwydd i Blant yn esbonio pam rydym yn casglu gwybodaeth gennych a beth rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth honno. 
  • Mae'r Weithdrefn Gwynion yn esbonio'r broses y gallwch ei dilyn os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon i'w codi yn ymwneud â'r gwasanaeth a dderbyniwyd gan y Parth Siarad. 

Cydsyniad Rhieni

Mae'r dudalen hon ar gyfer rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol i roi cydsyniad i'w plentyn dderbyn cwnsela yn yr ysgol gyda therapydd TalkingZone. 

Bydd yr apwyntiadau'n gyfrinachol oni bai ei bod yn dod yn amlwg bod eich plentyn neu rywun arall mewn perygl o niwed arwyddocaol. Yn yr achosion hyn, fe roddir sicrwydd i'ch plentyn y bydd y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud mewn perthynas â'u diogelwch neu ddiogelwch pobl eraill. Os oes angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar eich plentyn, bydd hyn yn cael ei drafod yn ystod y sesiynau a bydd ymrwymiad rhieni'n cael ei annog er mwyn cyrraedd yr opsiynau gorau i fodloni anghenion unigol y plentyn.

Cynhelir y sesiynau cwnsela mewn ystafelloedd preifat lle mae'ch plentyn a'r cwnselydd yw'r unig bobl yn bresennol. Er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn, mae cwnselwyr yn derbyn goruchwyliaeth glinigol reolaidd ynghyd â chyfarfodydd rheolaidd â'u rheolwr llinell. Mae pob cwnselydd yn cael gwiriad diogelwch manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob blwyddyn.