Croeso 

Mae gwasanaeth cwnsela’r Parth Siarad ar gyfer pobl ifanc sy'n mynychu Ysgolion Uwchradd yng Nghasnewydd. Mae’r Parth Siarad yn darparu cwnselydd i'ch ysgol sy'n gweithio gydag unrhyw ddisgybl sy'n dymuno siarad am eu problemau personol. 

Mae cwnsela yn breifat a chyfrinachol. Mae hynny’n golygu bod unrhyw beth rydych chi’n ei ddweud wrth y cwnselydd yn aros rhyngoch chi a’r cwnselydd, oni bai eich bod yn dweud rhywbeth sy’n golygu eich bod mewn perygl difrifol o niwed difrifol, neu’n cael eich niweidio’n ddifrifol. Bydd y cwnselydd yn dweud mwy wrthych am hyn cyn i chi ddechrau.

Sesiynau cwnsela galw heibio ar-lein

Mae’r Parth Siarad Ar-lein yn rhywle ychwanegol, sy’n ddiogel ac yn breifat, lle gall pobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed siarad â chwnselydd drwy negeseuon testun neu we-gamera. Mae gwefan y Parth Siarad Ar-lein hefyd yn darparu gwybodaeth a fideos hunangymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parth Siarad Ar-lein

Beth all cwnsela ei gynnig?

teenagers in secondary classroom

Mae gan bob un ohonom adegau pan mae'n teimlo'n anodd siarad â'r rhai sydd agosaf atom am bethau sy'n ein poeni ni. Yn aml gall hyn fod oherwydd nad ydym am eu poeni neu os ydym yn ofni beth y gallent ei ddweud. Bydd y cwnselydd yn gwrando’n ofalus arnoch, heb feirniadu, ond yn ceisio gwneud i chi ddeall beth all fod yn eich poeni chi ac i’ch helpu chi ddarganfod ffordd neu ateb i ddelio â’r problemau sydd gennych. 

Gall Cwnsela hefyd gynnig: 

  • Lle ac amser rheolaidd i siarad am eich pryderon neu anawsterau. 
  • Eich helpu chi edrych ar sut rydych eisiau i bethau newid, trwy siarad a defnyddio amryw o weithgareddau. 
  • Edrych ar eich cryfderau a darganfod cryfderau newydd i’ch helpu i ymdopi â’r problemau mewn ffordd bositif. 
  • Mae cwnselydd yn cymryd amser hir i hyfforddi am ei swydd a dylent eich trin mewn modd gofalus, cynnes a cheisio bod mor gyfeillgar a defnyddiol â phosib. 
  • Mae popeth a ddywedwch mewn sesiwn gwnsela yn breifat rhyngoch chi a'ch cwnselydd, oni bai eich bod mewn perygl o niwed difrifol gan eraill, i chi'ch hun neu i eraill. 

Gall y mathau o broblemau y gellir defnyddio cwnsela ar eu cyfer gynnwys: 

  • Problemau teuluol 
  • Perthnasoedd gyda ffrindiau 
  • Colli rhywun pwysig yn eich bywyd  
  • Bwlio 
  • Diffyg hyder 
  • Dicter 
  • Materion ymddygiad 
  • Hunan-niweidio corfforol 
  • Poeni’n aml iawn 
  • Hwyliau isel (teimlo’n anhapus yn aml)