Mae gwasanaeth cwnsela cymunedol y Parth Siarad yn rhoi cefnogaeth i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg brif ffrwd: unigolion sy'n cael eu haddysgu gartref, sy'n mynychu coleg neu ysgol breifat, a’r bobl ifanc hynny hefyd hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant, sy'n byw yn ardal Casnewydd. Gall yr holl bob ifanc yma gael mynediad at Wasanaeth Cwnsela’r Parth Siarad 

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb bob dydd Mawrth 9:00am - 5:00pm. 

Cefnogaeth i Bobl Ifanc - 11-18 oed nad ydynt yn mynychu ysgol brif ffrwd nac unrhyw addysg arall. 

Hunangyfeirio at gwnsela 1-i-1 

Gall y mathau o broblemau y gellir defnyddio cwnsela ar eu cyfer gynnwys: 

  • Problemau a pherthnasoedd teuluol 
  • Perthnasoedd gyda ffrindiau 
  • Colli rhywun pwysig yn eich bywyd  
  • Bwlio 
  • Diffyg hyder 
  • Dicter 
  • Materion ymddygiad 
  • Hunan-niweidio corfforol 
  • Poeni’n aml iawn 

Mae cwnsela’n cynnig: 

  • Lle ac amser rheolaidd i siarad neu i feddwl am bryderon neu anawsterau. 
  • Mae’n helpu pobl ifanc i archwilio eu teimladau ac edrych ar sut y gallent fod eisiau i bethau fod yn wahanol, trwy siarad a defnyddio amryw o weithgareddau. 
  • Gweithio gyda materion datblygiad plant, datrys problemau, gwella perthnasoedd, gwneud dewisiadau, ymdopi â newidiadau, ennill mewnwelediad a dealltwriaeth, tyfu fel unigolyn.  
  • Mae cwnsela yn breifat ac yn gyfrinachol. Mae hynny'n golygu bod unrhyw beth y mae'r unigolyn ifanc yn ei drafod gyda'r cwnselydd yn aros rhwng yr unigolyn ifanc a'r cwnselydd, oni bai bod y cwnselydd yn asesu bod yr unigolyn ifanc mewn perygl o niwed difrifol. Er budd diogelu plant, mae gan y cwnselydd ddyletswydd statudol i drosglwyddo'r wybodaeth hon i'r awdurdodau priodol. 
  • Mae’n cael ei gynnal gan gwnselwyr/therapyddion sy’n gwbl gymwys, sy'n cael eu gwirio gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) y Llywodraeth, ac sy’n gweithio o fewn cod moeseg ac arfer gorau. 
  • Mae pob cwnselydd/therapydd yn gweithio o fewn cod moeseg llym, ac yn cael goruchwyliaeth glinigol a goruchwyliaeth gan reolwyr yn rheolaidd. 

Isod fe welwch restr o ddogfennau gwasanaeth defnyddiol: