Hysbysiad Preifatrwydd i Blant y Parth Siarad
Mae'n bwysig i’r Parth Siarad bod y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei chadw'n ddiogel a'i thrin yn ofalus. Mae rheolau yn ymwneud â sut i gadw'ch gwybodaeth yn ddiogel a sut mae'n cael ei rhannu. Ceir esboniad o'r rheolau hyn yn Neddf Diogelu Data 2018. Mae'r rheolau hyn hefyd yn rhoi rheolaeth i chi dros eich gwybodaeth. Maen nhw'n sicrhau bod rhaid i unrhyw un sy'n casglu gwybodaeth fod yn onest ac yn glir pam maen nhw eisiau'r wybodaeth a beth fyddant yn ei wneud gyda hi.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
Bydd cwnselwyr yn cadw cofnod o'r hyn sy'n digwydd yn ystod eich sesiynau cwnsela. Os byddwch yn defnyddio lluniau neu ddarluniau yn y sesiynau cwnsela, mae'n bosib bydd y cwnselydd hefyd yn tynnu llun ohonynt ar ôl y sesiwn. Dyma restr o wybodaeth y bydd y cwnselydd yn ei chasglu:
Gwybodaeth amdanoch chi
- enw
- dyddiad geni
- cyfeiriad cartref
- rhif ffôn
- enwau eich rhieni a'r bobl sy'n byw gyda chi
- rhyw
- grŵp ethnig
- crefydd
- os oes anabledd gennych chi
- anghenion dysgu ychwanegol
- enw a chyfeiriad eich doctor
- gwybodaeth arall yn ymwneud â'ch iechyd
Pam rydym yn casglu'r wybodaeth yma?
Rydym yn casglu'r wybodaeth yma am y rhesymau canlynol:
- I weld a ydym yn eich helpu yn y modd gorau y gallwn
- I'n helpu i ddarparu mwy o gefnogaeth i chi os yw pethau'n gwaethygu
- I'n helpu i wella sut rydym yn gweithio gyda chi
- I adrodd i Lywodraeth Cymru (sy'n ariannu'r gwasanaeth) ar y gwasanaeth. Bydd y wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth amdanoch chi, ond ni fyddwch yn cael eich enwi. Mae'n cynnwys ystadegau yn unig felly ni fydd unrhyw un yn gallu eich adnabod trwy'r wybodaeth yma.
- I gysylltu â chi, neu'r sawl sy'n gofalu amdanoch, os oes argyfwng.
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth?
Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth cwnsela, sef tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. Rydym yn prosesu mwy o wybodaeth sensitif amdanoch oherwydd y budd sylweddol i'r cyhoedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cwnsela (dan atodlen 1, rhan 2, Deddf Diogelu Data 2018).
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaethau cwnsela i chi, rydym yn rhannu'ch gwybodaeth gyda'r canlynol:
- Cyngor Dinas Casnewydd (Mae’r Parth Siarad yn darparu'r gwasanaethau cwnsela ar ran Cyngor Dinas Casnewydd)
- Llywodraeth Cymru (darperir gwybodaeth gyda'ch enw wedi'i ddileu yn unig)
- Doctoriaid (dim ond os oes pryder meddygol difrifol amdanoch)
- Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu (dim ond os yw'r cwnselydd yn credu eich bod mewn perygl o niwed difrifol)
Am faint ydyn ni'n cadw gwybodaeth amdanoch chi?
Rydym yn cadw gwybodaeth amdanoch tan eich pen-blwydd yn 24. Ar yr adeg honno, bydd yn cael ei dinistrio mewn modd diogel.
Sut ydyn ni'n cadw'ch gwybodaeth yn ddiogel?
Caiff yr holl wybodaeth amdanoch ei chadw ar ffurf electronig ar weinydd wedi'i amgryptio'n ddiogel. Mae'r diogelwch sydd gennym yn ei le yn ei gwneud mwy neu lai'n amhosib i unrhyw un arall heblaw am y gwasanaeth cwnsela i weld eich gwybodaeth. Rydym hefyd yn sicrhau bod y bobl sy'n cynnal y gweinydd yn dilyn y rheolau Diogelu Data a ddim yn cael mynediad at eich gwybodaeth oni bai ein bod yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei hanfon at bobl eraill yn cael ei diogelu â chyfrinair.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- Gweld unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch
- Gofyn i ni newid unrhyw wybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghywir gennym
- Gofyn i ni roi’r gorau i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol bellach amdanoch
- Gofyn i ni ddileu gwybodaeth sydd gennym amdanoch
- Gofyn i ni anfon eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel i wasanaeth arall
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni i wneud cais neu gwyno os nad ydych yn credu ein bod yn parchu eich hawliau
Os ydych eisiau cael gafael ar eich gwybodaeth neu’n anfodlon gyda sut y cafodd eich gwybodaeth bersonol ei thrin, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Prifysgol De Cymru, sef lleoliad gweithredu’r Parth Siarad. Mae'r manylion cyswllt fel a ganlyn:
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol De Cymru
Pontypridd,
CF37 1DL
E-bost: [email protected]
Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
http://www.ico.org.uk/