Gweithdrefn Gwynion
Mae Gwasanaeth Cwnsela’r Parth Siarad wedi ymrwymo at ddarparu gwasanaeth cwnsela dibynadwy, cyfrinachol a chyfeillgar ond mae'n bosibl y bydd yna adegau pan nad ydym yn ei gael yn iawn. Er mwyn i'r gwasanaeth ddatblygu a pharhau i gwrdd â'i safonau uchel, lluniwyd y gweithdrefnau canlynol i fynd i'r afael â chwynion.
1. Cysylltwch â'r Cwnselydd
Yn y lle cyntaf, dylid trafod unrhyw faterion neu bryderon a godwyd gyda'r Cwnselydd gyda'r gobaith o ddod o hyd i ddatrysiad yn anffurfiol. Os nad oes modd datrys y broblem yn anffurfiol, dylid mynd at y cam nesaf, gan ddilyn y rhifau yn eu trefn:
2. Cysylltwch â Rheolwr Gwasanaeth y Parth Siarad
Bydd rheolwr y gwasanaeth yn ymdrin ag unrhyw gwynion yn ymwneud ag ymddygiad Cwnselwyr a Therapyddion sy'n gweithio ar ran y gwasanaeth mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol ac ar-lein, ac unrhyw faterion perthnasol eraill.
Elizabeth Armitti
Y Parth Siarad
Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig
Prifysgol De Cymru
Campws Dinas Casnewydd
Usk Way
Casnewydd
NP20 2BP
Ffôn: 01633 432603
E-bost: [email protected]
3. Cysylltwch â'r Ysgol
Mae gan bob ysgol ei Pholisi Gweithdrefn Gwynion ei hun. Siaradwch â'r Pennaeth neu'r Pennaeth Cynorthwyol i gael copi neu i wneud cwyn. Gallwch hefyd siarad ag unrhyw aelod o staff yn yr ysgol.
4. Cysylltwch â Phrifysgol De Cymru
Bydd yr Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig yn ymchwilio i'ch cwyn yn ymwneud â Gwasanaeth Cwnsela y Parth Siarad, ei reolwr neu ei Gwnselwyr. Pe bydd angen uwchgyfeirio'r gŵyn, byddwn yn dilyn polisi Prifysgol De Cymru ar ymdrin â chwynion. Bydd y Brifysgol yn darparu ymateb ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y gŵyn.
Joanne Fowler
Pennaeth yr Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig
Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
E-bost: [email protected]
5. Cysylltwch â’r Cyrff Cwnsela Proffesiynol
Mae pob cymdeithas yn dibynnu ar aelodau o'r cyhoedd yn ogystal ag aelodau o broffesiynau eraill i ddod â materion o gwnsela/arferion therapi gwael ac anfoesegol at eu sylw. Dylai unrhyw un sy'n gwneud cwyn yn uniongyrchol i'r corff proffesiynol fod yn ymwybodol gyda pha un mae'r Cwnselydd/Therapydd wedi cofrestru. Mae gwasanaeth y Parth Siarad ei hun yn un o aelodau gwreiddiol BACP dan Brifysgol De Cymru. Am ragor o wybodaeth a/neu i wneud cwyn, cysylltwch â:
BACP: Yr Adran Ymddygiad Proffesiynol
Rhif ffôn: 01455 883300
Rhif ffacs: 01455 550243
E-bost: [email protected]
HCPC: Yr Adran Addasrwydd i Ymarfer
Rhif ffôn: 0800 328 4218
Rhif ffacs: 020 7582 4874
E-bost: [email protected]
UKCP: Cyngor Seicotherapi’r DU
Rhif ffôn: 02070 149955
E-bost: [email protected]
Y Gymdeithas Gwnsela Genedlaethol
Rhif ffôn: 01903 200666
E-bost: [email protected]