Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.

PDC

UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.

Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.

Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.

Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.

Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.

Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.

Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.

Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.

Coleg Caerdydd a’r Fro 

Eich Cyrsiau ar Moodle
Os yw'ch tiwtoriaid yn defnyddio Moodle ar gyfer deunyddiau dysgu, fe welwch nhw yma.

Adnoddau Llyfrgell
Peidiwch ag anghofio edrych am e-lyfrau yn ogystal â chatalog y llyfrgell o lyfrau papur.

PDC

Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.

Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.

Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.

Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.

Coleg Caerdydd a’r Fro

Gwasanaethau Myfyriwr
Os oes gennych unrhyw broblem neu gwestiwn, bydd Gwasanaethau Cwsmeriaid CAVC yn gallu cynnig cyngor a chymorth i chi.

Gyrfaoedd a Syniadau
Mae Gyrfaoedd a Syniadau yno i helpu myfyrwyr CAVC gydag unrhyw ymholiadau cyngor gyrfaoedd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol
Darganfyddwch sut gall y Coleg gefnogi dysgwyr ag anableddau, nam ar y synhwyrau, cyflyrau’r sbectrwm awtistig neu faterion iechyd meddwl.

Rhyngwladol
Mae Adran Ryngwladol Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig rhaglen gymorth amser llawn i'n dysgwyr.

Polisïau a Gweithdrefnau
Ar gyfer unrhyw beth nad yw'n fater academaidd, mae polisïau a gweithdrefnau CAVC yn berthnasol i chi. Ar gyfer materion academaidd, mae polisïau a gweithdrefnau PDC yn berthnasol.

Llesiant

Diogelu

Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL)

PDC

Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.

Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.

Coleg Caerdydd a’r Fro

Eich Cyfrif E-bost CAVC
Fel myfyriwr wedi'i leoli yn CAVC, mae gennych gyfrif personol Office 365, sy'n cynnwys cyfrif e-bost Outlook a mwy.

Ailosod eich Cyfrinair CAVC
Bydd yn rhaid i chi wneud hyn o leiaf unwaith bob 100 diwrnod (ac os byddwch chi'n anghofio'ch cyfrinair).

PDC

Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.

Coleg Caerdydd a’r Fro

PDC

Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.

Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

Coleg Caerdydd a’r Fro

Llais y Dysgwr
Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed a darganfod beth wnaeth CAVC mewn ymateb i'ch adborth.

Undeb y Myfyrwyr
Yn eich cynrychioli chi.

PDC – Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn cadarnhau eich statws i'ch darparwr benthyciad i fyfyrwyr (os ydych wedi gwneud cais). Gwiriwch gynnydd eich cadarnhad am gyllid myfyrwyrar-lein
  • Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
  • Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
  • Torri ar draws Astudiaethau
  • Cwynion ac apeliadau academaidd
  • Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
  • Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
  • Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio

Coleg Caerdydd a’r Fro - Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
  • Bydd ein Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
  • Rydym yn gweinyddu cynllun Bwrsariaethau AU
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG CAVC.
  • mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr trwy Office365.com.

Cysylltiadau 

PDC: E-bostiwch [email protected] 

Coleg Partner: Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau CAVC? E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 02920 250250.